Module Information

Cod y Modiwl
FGM5560
Teitl y Modiwl
Prosiect MSc
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 3 (Traethawd Hir)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Resit Assessment  Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu.  100%
Asesiad Semester Adroddiad Ffurfiol  5000 o eiriau  75%
Asesiad Semester Cynnydd  10%
Asesiad Semester .33 Awr   Cyflwyniad Llafar  .33 Awr  15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Ymchwilio problem wyddonol/beiriannol benodol o fewn arbenigedd y radd MSc.

Dehongli a thrafod canlyniadau ymchwil yn feirniadol yn nhermau gwybodaeth gyfredol o'r testun.

Cyflwyno ac amddiffyn gwaith ar lafar.

Cyflwyno gwaith mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Yn dilyn yr ymchwil i'r llenyddiaeth a chynllunio fel rhan o PHM7220 yn semester 2, mae'r myfyriwr yn cynnal prosiect sydd fel arfer gydag un o grwpiau ymchwil yn y Brifysgol o dan oruchwyliaeth y goruchwylydd prosiect. Mae'r canlyniadau i'w dehongli a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil, a'r gwaith i'w gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.
Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.

Cynnwys

Bydd y testun ymchwil o fewn arbenigedd y radd MSc. Bydd y testun penodol yn wahanol ar gyfer pob prosiect.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Mae prosiectau ymchwil angen y gallu i addasu cynlluniau wedi cael tystiolaeth gynnar.
Cydlynu ag erail Er mai prosiect unigol yw'r prosiect, bydd y myfyriwr yn gwneud y gorau o'r amser byr sydd ar gael drwy gydlynu gyda'u goruchwylydd ac, os yn briodol, gyda defnyddwyr eraill o'r labordy.
Cyfathrebu proffesiynol Defnyddio terminoleg briodol a chyflwyniad rhesymegol a thrafod canlyniadau mewn adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar.
Datrys Problemau Creadigol Mae cynllunio ymchwiliad estynedig i gyflawni nodau yn greiddiol i unrhyw brosiect ymchwil.
Gallu digidol Yn ddieithriad, bydd dadansoddi data yn cynnwys defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol ac efallai y bydd angen codio.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dadansoddi data ac ystyriaeth o arteffactau posibl ac effeithiau amgylcheddol.
Synnwyr byd go iawn Bydd adroddiadau ysgrifenedig a llafar yn myfyrio ar broblemau technolegol sy'n effeithio cymdeithas ac yn rhoi eu canfyddiadau yng nghyd-destun yr heriau technolegol hyn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7