Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen?

Module Identifier
GQ23820
Module Title
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen?
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Huw Lewis
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Huw Lewis

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Assessment length

Proportion

Semester Assessment Cyfranogiad Seminar: 10%
Semester Assessment Papur Briffio: 1500 o eiriau 40%
Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Adolygiad yn lle cyfranogiad seminar: 500 o eiriau 10%
Supplementary Assessment Papur Briffio: 1500 o eiriau 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Cymharu gwahanol ddisgrifiadau o esblygiad hanesyddol gwladwriaeth y DU a'i chyfansoddiad tiriogaethol.
  2. Amlinellu’n fanwl brif nodweddion trefniadau llywodraethu esblygol y DU.
  3. Cymharu gwahnol alwadau am newid cyfansoddiadol
  4. Cymharu a chyferbynnu gwahanol dueddiadau mewn gwleidyddiaeth etholiadol mewn rhannau gwahanol o'r DU

Brief description

Nod y modiwl yw darparu cyflwyniad cynhwysfawr i wleidyddiaeth gyfoes y DU gan roi sylw arbennig i faterion cyfansoddiadol a thiriogaethol. Bydd y deunydd a drafodir yn cynnwys: esblygiad hanesyddol gwladwriaeth y DU a'i chyfansoddiad tiriogaethol; dehongliadau gwahanol o natur y DU (gwladwriaeth unedol, gwladwriaeth gyfunol, undeb gwleidyddol); natur trefniadau llywodraethu cyfredol y DU a chyfeiriadau posib i'r dyfodol; agweddau at bolisi cyhoeddus ar draws y DU; a thrafodaethau cyfoes ynglyn a dinasyddiaeth a hunaniaeth, ymwahanu ac undebaeth.

Content

Addysgir y modiwl trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn ystod y sesiynau hyn bydd y modiwl yn cyffwrdd ar themau megis:

- esblygiad hanesyddol gwladwriaeth y DU a'i chyfansoddiad tiriogaethol;

- dehongliadau gwahanol o natur y DU (gwladwriaeth unedol, gwladwriaeth gyfunol, undeb gwleidyddol);

- natur trefniadau llywodraethu cyfredol y DU a chyfeiriadau posib i'r dyfodol;

- agweddau at bolisi cyhoeddus ar draws y DU;

- trafodaethau cyfoes ynglyn a dinasyddiaeth a hunaniaeth, ymwahanu ac undebaeth.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number D/G
Communication Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i’w defnyddio. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r ffynonellau niferus o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r math mwyaf priodol o gyfathrebu yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn glir wrth ysgrifennu a siarad a byddant yn uniongyrchol am eu nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i destun, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno eu hasesiadau ysgrifenedig mewn fformat prosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith i sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol..
Improving own Learning and Performance Nod y modiwl yw hyrwyddo hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gynullydd y modiwl a myfyrwyr eraill. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd â’u hymchwil eu hunain ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu sut i ateb cwestiynau traethawd a asesir.
Information Technology Bydd myfyrwyr yn cyfoethogi eu gallu i ddefnyddio Blackboard, lle bydd deunyddiau i gynorthwyo’r dysgu ar gael. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau i chwilio am, ac asesu dilysrwydd ffynonellau gwybodaeth ar-lein fel rhan o’r gwaith paratoi at ddarlithoedd, seminarau a thasgau a asesir. Caiff gwaith a asesir ei gyflwyno mewn fformat electronig, yn ôl disgwyliadau safonol.
Personal Development and Career planning Cynllunnir y modiwl hwn i fireinio a phrofi sgiliau fydd o fudd i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn benodol drwy siarad gyda grwpiau bach, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau pobl eraill. Ymhellach, bydd y gwaith ysgrifenedig yn gofyn bod myfyrwyr yn ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Caiff myfyrwyr eu hannog drwy gydol y modiwl i adfyfyrio ar eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Problem solving Gwaith annibynnol a datrys problemau fydd un nod canolog yn y modiwl; bydd cyflwyno dau ddar o waith ysgrifenedig i’w hasesu yn golygu bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau’n cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a ffurfio ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu materion yn broblemau llai o faint .
Research skills Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd, erthyglau cyfnodolion ac ati.
Subject Specific Skills Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadu a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau pwnc benodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu a’i gilydd • Cymhwyso amrywiaeth o fethodolegau i broblemau gwleidyddol a chymdeithasol hanesyddol a chyfoes cymhleth.
Team work Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ymarferion tîm yn y seminarau. I lawer o bynciau’r modiwl hwn, bydd y seminarau ar ffurf trafodaethau mewn grwpiau bach gyda myfyrwyr yn trafod fel grŵp y materion craidd sy’n ymwneud â phwnc y seminar. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon dosbarth hyn yn rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn caniatáu i’r myfyrwyr drin ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm

Notes

This module is at CQFW Level 5