Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd
- Module Identifier
- GW12420
- Module Title
- Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Anwen Elias
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Christopher Phillips
- Dr Catrin Wyn Edwards
- Dr Gillian Mcfadyen
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Dehongliad o gysyniad gyda chyfeirnodau a llyfryddiaeth (1,0: (1,000 gair) | 40% |
| Semester Assessment | Traethawd (2,000 gair): | 60% |
| Supplementary Assessment | Traethawd (2,000 gair): 2000 o eiriau | 60% |
| Supplementary Assessment | Dehongliad o gysyniad gyda chyfeirnodau a llyfryddiaeth: (1,000 gair) | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- 1. Dangos gwybodaeth feirniadol o gysyniadau, themâu a chwestiynau allweddol sy’n berthnasol i astudio gwleidyddiaeth ryngwladol. 2. Dangos y gallu i ddefnyddio cysyniadau allweddol mewn amgylchiadau penodol ac i’w haddasu neu eu beirniadu yn ôl y cyd-destun 3. Amlinellu canfyddiad cyffredinol o ddisgyblaeth cysylltiadau rhyngwladol a’i ddyfodol 4. Dangos y gallu i gyflwyno dadl gydlynol yn ysgrifenedig. 5. Dangos y gallu i ysgrifennu darn o waith cwrs sydd wedi’i gyflwyno a’i gyfeirnodi mewn modd addas. 6. Dangos gafael ar sgiliau ymchwil, dadansoddi, dehongli ac ysgrifennu sy’n addas ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.
Brief description
Bydd y modiwl hwn yn darparu cyflwyniad trwyadl a chynhwysfawr i gysyniadau a themâu sy’n ganolog ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol. Bydd cyfres o safbwyntiau damcaniaethol allweddol yn cael eu cyflwyno a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i’w cloriannu gan gyfeirio at gyfuniad o enghreifftiau hanesyddol a chyfoes.
Content
Caiff y modiwl ei gyflwyno trwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Ymysg y pynciau allweddol a fydd ync ael eu trafod yn ystod y modiwl bydd:
- Y wladwriaeth
- Y genedl
- Tiriogaeth
- Rhyfel, heddwch a diogelwch
- Sefydliadau rhyngwladol
- Globaleiddio
- Sgiliau astudio hanfodol
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Amherthnasol |
| Communication | Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno’u syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno’u dadleuon yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio’r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu sut i ysgrifennu a siarad yn glir a dweud yn ddiamwys beth yw eu nodau a’u hamcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i bwnc trafod, byrdwn ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Cynhelir y seminarau mewn grwpiau lle dysgir yn bennaf drwy drafod ar lafar a chyflwyniadau, a bydd y pwyslais drwy gydol y modiwl ar gyfranogi a chyfathrebu. Hwylusir hyn drwy chwarae rôl mewn grwpiau lle bydd timau’n cymryd rhan yn y seminar a thu hwnt i hynny. |
| Improving own Learning and Performance | Mae’r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond mewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydlynydd a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Disgwylir i’r myfyrwyr wella’u dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu hadroddiadau a’u traethodau. Mae gwaith grŵp yn rhan annatod o’r seminarau ac yn gyfle i’r myfyrwyr i adfyfyrio ar eu pen eu hunain a chyda’i gilydd ar eu perfformiad. Bydd yr angen i gyfrannu i drafodaethau grŵp yn y seminarau a chwblhau asesiadau erbyn y dyddiad cau yn hoelio sylw’r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser a’u hadnoddau’n dda. |
| Information Technology | Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno’u gwaith wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am wybodaeth o ffynonellau electronig (megis Lexus-Nexus, Primo, Google Scholar ac ati). Disgwylir hefyd i’r myfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau a fydd ar gael ar AberLearn Blackboard. |
| Personal Development and Career planning | Bydd y trafodaethau’n arbennig yn helpu i ddatblygu sgiliau llafar a sgiliau cyflwyno’r myfyrwyr ynghyd â’u sgiliau gwaith tîm. Bydd dysgu am broses cynllunio traethawd ac adroddiad, pennu ffiniau prosiectau, mireinio a datblygu prosiectau a chwblhau’r y gwaith yn cyfrannu at bortffolio’r myfyrwyr o sgiliau trosglwyddadwy. Yn benodol, mae ysgrifennu adroddiadau’n sgil trosglwyddadwy hanfodol sy’n cyfrannu at eu proffil cyflogadwyedd. |
| Problem solving | Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau’n un o nodau canolog y modiwl; bydd y myfyrwyr yn cyflwyno traethawd, a thrwy hynny’n datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Drwy wneud gwaith ymchwil a pharatoi ar gyfer cyflwyniadau seminar bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau prosiect annibynnol. Caiff gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a bwrw amcan ynglŷn ag ateb i’r broblem; ystyried achosion eithriadol; rhesymu; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. |
| Research skills | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn golygu defnyddio amryw o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd, erthyglau mewn cyfnodolion ac ati. |
| Subject Specific Skills | Mae cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu, ymarfer a phrofi amryw helaeth o sgiliau pwnc-benodol sydd o gymorth iddynt i ddeall, cysyniadoli a chloriannu enghreifftiau a syniadau yn ystod y modiwl. Ymhlith y sgiliau pwnc-benodol hyn mae: • Casglu a deall ystod eang o ddata sy’n gysylltiedig â’r modiwl • Gallu i bwyso a mesur safbwyntiau cyferbyniol • Dangos technegau ymchwil pwnc-benodol Cymhwyso amryw o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth. |
| Team work | Yn rhan o’r seminarau, bydd y myfyrwyr yn gwneud gwaith mewn grwpiau bach a gweithgareddau chwarae rôl lle bydd gofyn iddynt baratoi, cyflwyno a thrafod fel grŵp y materion craidd sy’n ymwneud â phwnc trafod y seminar dan sylw. Mae’r trafodaethau dosbarth hyn yn rhan hanfodol o brofiad dysgu’r modiwl. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
International Politics,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622708 : +44 : +44 (0)1970 622021
interpol@aber.ac.uk: interpol@aber.ac.uk
