Module Information

Cod y Modiwl
GW20120
Teitl y Modiwl
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  2 Awr  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos gwybodaeth o brif ddadleuon theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
2. Dangos dealltwriaeth gyffredinol o hanesyddiaeth theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
3. Myfyrio’n feirniadol ar y prif ddamcaniaethau a chysyniadau yng nghyd-destun cysylltiadau rhyngwladol cyfoes.
4. Dangos gwybodaeth gyffredinol o brif awduron a’u prif weithiau.
5. Dangos ymwybyddiaeth o syniadau am luniadaeth damcaniaethau sy’n cystadlu â’i gilydd.
6. Adnabod ystod eang o safbwyntiau damcaniaethol a chloriannu’r gwahaniaethau rhyngddynt.
7. Rhoi tystiolaeth o werthfawrogi’r berthynas rhwng theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol a meysydd academaidd cysylltiedig (e.e. damcaniaeth wleidyddol, damcaniaeth gymdeithasol, athroniaeth a.y.y.b.).

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cynnig ystod o wahanol safbwyntiau i fyfyrwyr ar ddamcaniaethu’r rhyngwladol. Byddwn yn archwilio gwreiddiau disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygiad ysgolion damcaniaethol o feddwl, rôl lensys damcaniaethol wrth ffurfio ein dealltwriaeth o’r byd, ac amrywiaeth o wahanol ddulliau damcaniaethol ar gyfer darllen prosesau gwleidyddiaeth ryngwladol.

Cynnwys

Yn y sesiynau hyn trafodir yr ystod eang o ddamcaniaethau a ffurfiodd ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol yn hanesyddol, ac sy’n weithgar ynddi ar hyn o bryd, a bydd hefyd yn edrych tuag at dueddiadau sydd ar dwf yn theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys traddodiadau canolog theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol megis Realaeth, Rhyddfrydiaeth, Lluniadaeth a’r Ysgol Seisnig a hefyd gasgliad o safbwyntiau ‘beirniadol’ megis Marcsiaeth, Ffeminyddiaeth, Ôl-drefedigaethrwydd a damcaniaethau ôl-bositifiaeth. Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i arolwg drylwyr o faes damcaniaethau Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac i’w paratoi ar gyfer astudiaethau pellach yn Rhan Dau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu’n eglur a sut i fanteisio ar hynny. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio’r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i’r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu’r drafodaeth. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr eirbrosesu eu hasesiadau ysgrifenedig ar gyfer eu cyflwyno a dylai’r modd y cyflwynir y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i’r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad â grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o’r modiwl; wrth gyflwyno dau ddarn o waith ysgrifenedig i’w asesu, bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; rhoi trefn ar ddata a llunio ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tîm yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o’r pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grŵp. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, ac yn galluogi’r myfyrwyr i fynd i’r afael â phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli, ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a’r cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy’n benodol i’r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy’n berthnasol i’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd • Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau gwleidyddol cyfoes a hanesyddol cymhleth
Sgiliau ymchwil Gofynnir i’r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o’r gwaith i’w asesu. Bydd hynny’n golygu defnyddio ystod o ffynonellau gwybodaeth, yn cynnwys testunau academaidd craidd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu’u gwaith ar gyfer ei gyflwyno, trwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau trwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5