Traethawd Hir
- Module Identifier
- GWM0060
- Module Title
- Traethawd Hir
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 3
- Co-ordinator
- Dr Jan Ruzicka
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
IPM0060
- Other Staff
- Dr Christopher Phillips
- Dr Gillian Mcfadyen
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd Hir 14,000-15,000 o eiriau: | 100% |
| Supplementary Assessment | Traethawd Hir 14,000-15,000 o eiriau: | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Meithrin arbenigedd yn ei faes astudiaeth arbenigol.
- Datblygu sgiliau dadansoddol.
- Datblygu'r gallu i fynegi syniadau ar bapur.
- Datblygu sgiliau ymchwil.
Brief description
Mae'r traethawd estynedig yn elfen bwysig o raglen Meistr yr Adran. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr Meistr ymchwilio ac ysgrifennu darn o waith ymchwil annibynnol o 14,000-15,000 o eiriau erbyn 10 Medi 2004.
Aims
Nod y Traethawd Estynedig yw asesu gallu'r myfyriwr i ddadansoddi casgliad mawr o wybodaeth, ei drefnu, a'i ysgrifennu mewn ffordd sy'n cynnal dadl argyhoeddiadol. Nid gofyn am waith gwreiddiol a wneir; ond ysgrifennu darn o waith ymchwil sy'n arddangos bod y myfyriwr yn gallu meddwl yn annibynnol. Neilltuir aelod o staff ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn cynghori a chynnig arweiniad i'r myfyriwr ar strwythur a dadl y thesis.
Content
Bydd cynnwys y modiwl traethawd estynedig yn wahanol i bob myfyriwr. Mae myfyrwyr yn cynnig testun ar gyfer eu traethawd estynedig a bydd hwn yn cael ei gymeradwyo gan Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwch-raddedig. I lwyddo, rhaid i draethawd estynedig gyflawni'r amcanion sydd i'w gosod yn eglur ar y cychwyn; cynnal dadl gydlynol wedi ei datblygu'n dda; a chael ei gyflwyno mewn modd ysgolheigaidd.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Creative Problem Solving | Bydd datrys problemau'n greadigol yn un o nodau canolog y modiwl; bydd cyflwyno'r traethawd hir yn gofyn bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu trwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a cynnig ateb i'r broblem; dadlau'n rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. |
| Critical and analytical thinking | Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad trwy ymgymryd â'u hymchwil ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan arweiniad) cyfeiriad eu gwaith ysgrifenedig. Disgwylir i fyfyrwyr hefyd wneud ymchwil ar agweddau damcaniaethol allweddol ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygu'r dulliau hyn trwy'r traethawd hir, a defnyddio dadleuon damcaniaethol ar gyfer dehongli data. |
| Digital capability | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar ffurf prosesu geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â defnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig (megis Web of Science). |
| Professional communication | Bydd y trafodaethau yn y gweithdai yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno. Bydd dysgu am y broses o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil, fframio paramedrau'r prosiectau, a datblygu dyluniad ymchwil y traethawd hir, yn cyfrannu at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy |
Notes
This module is at CQFW Level 7
International Politics,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622708 : +44 : +44 (0)1970 622021
interpol@aber.ac.uk: interpol@aber.ac.uk
