Module Information

Cod y Modiwl
HA11420
Teitl y Modiwl
Ewrop a'r Byd, 1000-2000
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored  1000 Words  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Arholiad agored  1000 Words  50%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Adnabod a thrafod y dadleuon hanesyddiaethol allweddol am yr ymwneud rhwng Ewrop a’r byd ehangach yn y cyfnod 1000-2000.

2. Arddangos dealltwriaeth o rol gwleidyddiaeth, masnach, syniadau, ymfudo a thrais yn ymwneud Ewrop a’r byd dros amser.

3. Pwyso a mesur amrediad o fathau o ffynonellau gwreiddiol sy’n gysylltiedig â phum prif thema’r modiwl a’r cyfnodau gwahanol a astudir.

4. Defnyddio perspectif cymharol i drafod dylanwad perthynas Ewrop a gweddill y byd.

Disgrifiad cryno

O Groesgadau yr Oesoedd Canol, i ddarganfyddiad America yn y bymthegfed ganrif a Rhyfeloedd Byd yr ugeinfed ganrif, lluniwyd hanes Ewrop gan ymwneud â’r byd ehangach. Bwriad y modiwl hwn yw archwilio themau, digwyddiadau a datblygiadau allweddol yn hanes perthynas Ewrop gyda gweddill y byd dros y 1,000 o flynyddoedd diwethaf. Trwy astudio pump thema – pwer, trais, syniadau, ymfudo a masnach – ystyrir y rhan mae Ewrop wedi ei

chwarae yn y byd ehangach a sut mae’r cysylltiadau hyn wedi newid Ewrop. Cyflwynir myfyrwyr i feysydd hanesyddol newydd ac agwedd byd-eang i’r pwnc a fydd yn rhoi blas o’r pynciau a’r themâu y gellir arbenigo ynddynt yn rhan dau.

Cynnwys

Darlithoedd

Darperir cyflwyniad i’r modiwl a’r themâu allweddol yn y ddarlith gyntaf. Rhennir gweddill y cwrs i bump thema – pŵer, trais, syniadau, ymfudo a masnach. Ceir cyfres o dair neu bedair darlith i bob thema. Ar ddechrau pob cyfres ceir darlith yn cyflwyno’r thema a darparu trosolwg cysyniadol a chronolegol. Astudiaethau achos fydd yn nwy neu dair darlith arall y gyfres, a fydd yn archwilio’r thema mewn cyd-destun penodol. Er enghraifft, yn y gyfres ar ymfudo bydd darlith yn amlinellu’r cysyniad o ymfudo a darparu trosolwg o ymfudo rhwng Ewrop a’r byd ehangach yn y cyfnod 1000-2000. Bydd y ddarlith hefyd yn cyflwyno’r ddwy neu dair astudiaeth sy’n dilyn a’u lleoli o fewn cyd-destun ehangach y thema. Ceir cyfle yn yr astudiaethau achos i archwilio ymfudo mewn cyd-destun daearyddol neu amserol penodol megis coloneiddio’r Byd Newydd ac ymfudo economaidd yr oes fodern diweddar.

Seminarau
1. Pŵer
2. Masnach
3. Ymfudo
4. Syniadau
5. Trais

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Trwy drafodaeth achlysurol o ddata rhifyddol perthnasol e.e. ffigyrau, graffiau, tablau.
Sgiliau pwnc penodol Dadansoddiad hanesyddol o ddeunydd ysgrifenedig a materol. Dadansoddiad cymharol o brofiadau gwahanol wledydd o ddatblygiadau a digwyddiadau.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4