Ewrop a'r Byd, 1000-2000

Module Identifier
HA11420
Module Title
Ewrop a'r Byd, 1000-2000
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Rhun Emlyn
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
HY12420
Other Staff
Professor Iwan Morus
Dr Yi Li
Dr Arddun Arwyn
Dr Eryn White
Dr Rhun Emlyn
Dr Steve Thompson

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Arholiad agored: 1000 Words 50%
Semester Assessment Traethawd ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Arholiad agored: 1000 Words 50%
Supplementary Assessment Traethawd ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Adnabod a thrafod y dadleuon hanesyddiaethol allweddol am yr ymwneud rhwng Ewrop a’r byd ehangach yn y cyfnod 1000-2000.
  2. 2. Arddangos dealltwriaeth o rol gwleidyddiaeth, masnach, syniadau, ymfudo a thrais yn ymwneud Ewrop a’r byd dros amser.
  3. 3. Pwyso a mesur amrediad o fathau o ffynonellau gwreiddiol sy’n gysylltiedig â phum prif thema’r modiwl a’r cyfnodau gwahanol a astudir.
  4. 4. Defnyddio perspectif cymharol i drafod dylanwad perthynas Ewrop a gweddill y byd.

Brief description

O Groesgadau yr Oesoedd Canol, i ddarganfyddiad America yn y bymthegfed ganrif a Rhyfeloedd Byd yr ugeinfed ganrif, lluniwyd hanes Ewrop gan ymwneud â’r byd ehangach. Bwriad y modiwl hwn yw archwilio themau, digwyddiadau a datblygiadau allweddol yn hanes perthynas Ewrop gyda gweddill y byd dros y 1,000 o flynyddoedd diwethaf. Trwy astudio pump thema – pwer, trais, syniadau, ymfudo a masnach – ystyrir y rhan mae Ewrop wedi ei

chwarae yn y byd ehangach a sut mae’r cysylltiadau hyn wedi newid Ewrop. Cyflwynir myfyrwyr i feysydd hanesyddol newydd ac agwedd byd-eang i’r pwnc a fydd yn rhoi blas o’r pynciau a’r themâu y gellir arbenigo ynddynt yn rhan dau.

Content

Darlithoedd

Darperir cyflwyniad i’r modiwl a’r themâu allweddol yn y ddarlith gyntaf. Rhennir gweddill y cwrs i bump thema – pŵer, trais, syniadau, ymfudo a masnach. Ceir cyfres o dair neu bedair darlith i bob thema. Ar ddechrau pob cyfres ceir darlith yn cyflwyno’r thema a darparu trosolwg cysyniadol a chronolegol. Astudiaethau achos fydd yn nwy neu dair darlith arall y gyfres, a fydd yn archwilio’r thema mewn cyd-destun penodol. Er enghraifft, yn y gyfres ar ymfudo bydd darlith yn amlinellu’r cysyniad o ymfudo a darparu trosolwg o ymfudo rhwng Ewrop a’r byd ehangach yn y cyfnod 1000-2000. Bydd y ddarlith hefyd yn cyflwyno’r ddwy neu dair astudiaeth sy’n dilyn a’u lleoli o fewn cyd-destun ehangach y thema. Ceir cyfle yn yr astudiaethau achos i archwilio ymfudo mewn cyd-destun daearyddol neu amserol penodol megis coloneiddio’r Byd Newydd ac ymfudo economaidd yr oes fodern diweddar.

Seminarau
1. Pŵer
2. Masnach
3. Ymfudo
4. Syniadau
5. Trais

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Trwy drafodaeth achlysurol o ddata rhifyddol perthnasol e.e. ffigyrau, graffiau, tablau.
Communication Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybodaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Problem solving Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Subject Specific Skills Dadansoddiad hanesyddol o ddeunydd ysgrifenedig a materol. Dadansoddiad cymharol o brofiadau gwahanol wledydd o ddatblygiadau a digwyddiadau.
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.

Notes

This module is at CQFW Level 4