Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc
- Module Identifier
- HA21820
- Module Title
- Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Steve Thompson
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Yi Li
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Assessment length |
Proportion |
|---|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% | |
| Semester Assessment | Arholiad agored: 2000 o eiriau | 50% | |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% | |
| Supplementary Assessment | Arholiad agored: 2000 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth gref o natur a hanes gwladychiad ac imperialaeth yn eu cyd-destun hanesyddol Ewropeaidd ynghyd ag effaith y datblygiadau hyn ar gymdeithas Ewrop.
- Asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a’u defnyddio mewn modd gwrthrychol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod imperialaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
- Datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol.
- Casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol.
Brief description
n ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ledaenodd ymerodraethau Prydain a Ffrainc (a gwledydd eraill Ewrop) ar draws y byd. Erbyn dechrau’r Rhyfel Mawr roedd y rhan fwyaf o wledydd y byd yn rhan o ymerodraeth Ewropeaidd. I drigolion y gwledydd a feddai ar ymerodraeth (ac yn bennaf Prydain a Ffrainc) roedd mawredd eu hymerodraeth yn achos balchder, ac yn rhan bwysig o’u hunaniaeth. Fodd bynnag, yn ail hanner yr ugeinfed ganrif fe ddatgymalwyd yr ymerodraethau mawr Ewropeaidd, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer cymdeithas a diwylliant ym Mhrydain a Ffrainc.
Bydd y modiwl hwn yn archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain (ac yng Nghymru yn benodol). Byddwn yn ystyried sut treiddiodd syniadau ymerodraethol trwy gydol diwylliant y gwledydd hyn, gan edrych er enghraifft ar sut oedd pobloedd ‘eraill’ yn cael eu portreadu mewn cyhoeddiadau Cymraeg. Yna byddwn yn archwilio’r cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau, er bod rhai o’r syniadau a ddaeth yn eu sgîl yn parhau. Felly byddwn yn olrhain tranc poenus yr Ymerodraeth Ffrengig yn Indo-China ac Algeria.
Bydd y rhan fwyaf o’r darlithoedd a’r seminarau yn cael eu cynnal dros y cyswllt fideo (yn ystafell fideo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), ond bydd Dr Matthews yn ymweld ag Aberystwyth i gyfarfod â’r myfyrwyr yn gynnar yn y semester. Bydd recordiadau ar gael ar y Porth o bob darlith (naill ai recordiad o sesiwn 2016, neu recordiad o sesiwn 2017). Bydd deunydd paratoadol ar gyfer y seminarau ar gael ar y Porth, a disgwylir i’r myfyrwyr edrych ar y deunydd hwn yn eu hamser eu hunain cyn y sesiynau. Bydd angen elfen o oruchwyliaeth i sicrhau bod y myfyrwyr yn dilyn y cwrs darlithoedd a phenodir aelod o staff yn yr Adran yn Aberystwyth fel cyswllt ychwanegol ar gyfer y myfyrwyr.
Aims
Cynigir y modiwl hwn gan aelod o staff a gyflogir gan y Coleg Cenedlaethol i ddarparu modiwlau ar gyfer myfyrwyr hanes ym mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerdydd. Bydd yn ehangu’r dewis sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac yn cryfhau’r radd cyfrwng Cymraeg. Gan fod Dr Matthews wedi ei leoli yn Abertawe, gwneir defnydd o adnoddau dysgu arlein gan gynnwys gwefan adnoddau dysgu y Coleg Cenedlaethol, sef Y Porth. Y mae’r modiwl felly yn arloesol ar sawl cyfrif.
Nodau’r modiwl:
• I archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain.
• I ystyried effaith syniadau ymerodraethol ar diwylliant y gwledydd hyn.
• I archwilio’r cyfnod wedi’i Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau.
Content
Rhoddir unarddeg o ddarlithoedd ar wefan Y Porth ar gyfer y myfyrwyr, gan eu rhyddhau fesul wythnos gan amlaf, ond ceir mwy o ddarlithoedd yn yr wythnos gyntaf er mwyn sicrhau cyflwyniad i’r modiwl a’i themâu. Cynhelir naw seminar yn ogystal fel a ganlyn:
• (Wythnos 1) Darlith 1 – Cyflwyniad i’r modiwl; cyflwr Ewrop ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Darlith 2 - Cymhlethdodau a thrafferthion astudio imperialaeth
• (Wythnos 2) Darlith 3 - Trosolwg o imperialaeth Brydeinig hyd at 1914
Seminar 1 - Rhesymau dros sefydlu Ymerodraeth; Safbwyntiau’r Cymry ar yr Ymerodraeth Brydeinig yn Oes Victoria
• (Wythnos 3) Darlith 4 - Trosolwg o Imperialaeth Ffrengig: Pam a sut y tyfodd ail ymerodraeth Ffrainc
Seminar 2 - Cymharu’r ymerodraethau ar y pryd; Ideoleg Imperialaidd mewn delweddau
• (Wythnos 4) Darlith 5 - Cyfalafiaeth; Cymunedau; Cristnogaeth;
Seminar 3 - Cymunedau Cymreig ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig; Cenhadon Cymreig
• (Wythnos 5) Darlith 6 - Ffrainc yn yr ymerodraeth, a’r ymerodraeth yn Ffrainc
Seminar 4 - Portreadu’r ymerodraeth a phobloedd brodorol
• (Wythnos 6) Darlith 7 - Ysgwyd cynseiliau ymerodraethau Prydain a Ffrainc: Dau Ryfel Byd a’r Dirwasgiad Mawr
Seminar 5 - Trafodaeth am yr Ymerodraeth yn y Gymraeg yn yr 20fed Ganrif
• (Wythnos 7) Darlith 8 - Dadwladychu Ffrengig – Fietnam ac Algeria
Seminar 6 - Trafodaeth o ymadawiad Ffrainc o Fietnam ac Algeria: Pam oedd dadwladychu Ffrengig mor boenus i Ffrainc?
• (Wythnos 8) Darlith 9 - O’r Ymerodraeth i’r Gymanwlad: Y broses o ganiatáu annibyniaeth i drefedigaethau Prydain
Seminar 7 - Cyflwyniadau o ddiwedd yr Ymerodraeth
• (Wythnos 9) Darlith 10 - Cofio’r Ymerodraeth ac olion antur imperialaidd Ffrainc / Prydain
Seminar 8 - Yr ymerodraeth heddiw
(Wythnos 10) Darlith 11 – Casgliad - gwrthgyferbyniad dwy ymerodraeth fawr
Seminar 9 – Casgliad – gwrthgyferbynnu dwy ymerodraeth fawr + adolygu
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Ddim yn briodol |
| Communication | Trwy drafodaeth mewn seminar, cyflwyniad llafar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
| Improving own Learning and Performance | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad. |
| Information Technology | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o’r Porth |
| Personal Development and Career planning | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi |
| Problem solving | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
| Research skills | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol |
| Subject Specific Skills | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud ag imperialiaeth a gwladychiad. |
| Team work | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp |
Notes
This module is at CQFW Level 5
History and Welsh History,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 621917 : +44 : +44 (0)1970 622021
history-enquiries@aber.ac.uk: history-enquiries@aber.ac.uk
