Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid

Module Identifier
HA29320
Module Title
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Professor Iwan Morus
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
HY29320
Other Staff
Professor Iwan Morus
Dr Yi Li

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Assessment length

Proportion

Semester Assessment Traethawd ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Arddangos gwybodaeth o brif themâu hanes diwylliannol oes Fictoria
  2. Arddangos dealltwriaeth o drafodaethau hanesyddiaethol ynglŷn â hanes diwylliannol oes Fictoria
  3. Arddangos y gallu i ddefnyddio ac ymdrin yn feirniadol â gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd wrth astudio’r cyfnod Fictorianaidd.
  4. Arddangos y gallu i gasglu a defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol a chynhyrchu dadleuon priodol.

Brief description

Pwy oedd y Fictoriaid yn meddwl oedden’ nhw? Sut oeddynt yn meddwl am eu hunain a’u diwylliant? Roedd Fictoriaid o bob dosbarth yn ymybodol eu bod yn byw mewn byd oedd yn newid yn gyflym ac roedd ganddynt gryn dipyn i’w ddweud ar y mater. Yn aml, roedd perthynas glòs rhwng syniadau ynglŷn â delwedd gorfforol yn cyd-fynd gyda synidau ynglŷn â moesoldeb ac fel canlyniad roedd trafodaethau ynglŷn â sut i drin y corff yn chwarae rhan bwysig yn eu hymgeision i greu delweddau o’u hunain a fyddai’n briodol i fyd newydd diwydiannol, trefol a modern. Bydd y modiwl yma yn edrych ar sut roedd y Fictoriaid yn edrych ar eu hunain o nifer o wahanol agweddau, gan gynnwys ffasiwn, ymddygiad, meddygaeth a rhyw. Bydd yn defnyddio nifer o ffynonellau gwahanol gan gynnwys llyfrau ar ymddygiad, llawlyfrau meddygol, hysbysebion a chylchgronau.

Aims

Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i rai o’r dulliau a’r agweddau hanesyddol a ddefnyddir er mwyn dadansoddi diwylliant cyfnod Fictoria, gan dalu sylw arbennig i syniadau Fictoraidd ynglŷn â’r berthynas rhwng y corff a hunaniaeth. Fel y cyfryw, mae’r modiwl yn ychwanegu at rai presennol mewn hanes modern, hanes meddygaeth a hanes cymdeithasol ac economaidd

Content

Darlithoedd:
1. Ail-ymweld a’r sterioteip Fictoraidd
2. Darllen y Genedl
3. Bywyd Preifat a Chyhoeddus
4. Gofod Gyhoeddus
5. Marwolaeth
6. Menywod
7. Dynion
8. Rhyw
9. Hunan-wellhad
10. Cyrff a Meddyliau
11. Ffasiwn
12. Gofal y Corff
13. Bwyd
14. Arddangosfa
15. Gweld eu Hunain
16. Gwallgofion, Troseddwyr a Thramorwyr
17. Nerfusrwydd a Dirywiad
18. Edrych yn Ôl

Seminarau:
1. Pwy oedd y Ficroriaid
2. Paratoi traethodau
3. Sfferau ar Wahan
4. Cyrff Disgybliedig
5. Consiwmeriaeth a Diwylliant
6. Edrych yn Ôl

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Ddim yn briodol
Communication Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Problem solving Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.

Notes

This module is at CQFW Level 5