Module Information

Cod y Modiwl
HP37420
Teitl y Modiwl
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1842-1914 (Rhan 1)
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Co-Requisite
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Dadansoddiad o ddogfen atodol 1 (ail-sefyll)  1500 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Dadansoddiad o ddogfen atodol 2 (ail-sefyll)  1500 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Traethawd atodol (ail-sefyll)  2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Dadansoddiad o ddogfen 2  1500 o eiriau  25%
Asesiad Semester Dadansoddiad o ddogfen 1  1500 o eiriau  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos ymwybyddiaeth o hanes cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwydiannol cymunedau meysydd glo Prydain yn yr Oes Fictorianaidd.

Gwerthfawrogi’r gwahaniaethau a chyffelybiaethau rhwng y gwahanol feysydd glo dros y gyfnod dan sylw.

Deall a gwerthuso’n feirniadol wahanol drafodaethau a dadansoddiadau o gymunedau glofaol a geir mewn ffynonellau cyfoes a gwaith hanesyddiaethol.

Darllen, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol gwreiddiol, gan gynnwys papurau newydd, delweddau, baledi, barddoniaeth, hunangofiannau, ac adroddiadau swyddogol.

Disgrifiad cryno

Y mae’r modiwl hwn, a’r modiwl cysylltiedig yn yr ail semester, yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol i astudio hanes unigryw cymunedau meysydd glo Prydain yn y ganrif cyn gwladoliad y diwydiant ym 1947. Roedd y diwydiant yn hollbwysig i economi Prydain yn yr oes Fictorianaidd ac fe ddaeth meysydd glo yn ganolfannau diwydiannol pwysig iawn – erbyn 1914, roedd bron i filiwn o ddynion yn gweithio yn y diwydiant ym Mhrydain. Yn ogystal, roedd glowyr a’u hundebau llafur yn ganolog i ddatblygiad y mudiad llafur Prydeinig ac yn ddylanwad pwysig ar wleidyddiaeth yn San Steffan.
Mae’r sesiynau cyntaf yn ystyried gwaith glowyr, gan gynnwys menywod a phlant, a’r damweiniau a’r trychinebau a oedd mor gyffredin yn y diwydiant yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y seminarau dilynol yn canolbwyntio ar gyflogwyr y diwydiant, sydd yn cael eu portreadu’n aml iawn fel cyfalafwyr cas nad ydynt yn poeni llawer am eu gweithwyr truenus, ac wedyn cymunedau a diwylliant y glowyr eu hunain, gan gynnwys eu cymunedau, eu crefydd, a’u hamdden. Yn olaf, byddwn yn ystyried undebaeth llafur yn y meysydd glo a gwleidyddiaeth y cymunedau glofaol, yn enwedig y berthynas rhwng y glowyr fel pleidleiswyr a’r Blaid Ryddfrydol

Nod

Y mae’r modiwl hwn, a’r modiwl gysylltiedig yn yr ail semester, yn cyflwyno hanes unigryw cymunedau meysydd glo Prydain yn ystod y ganrif cyn gwladoliad y diwydiant glo ym 1947. Defnyddir ystod eang o ffynonellau gwreiddiol i astudio gwaith a bywydau glowyr a’u teuluoedd yn y gwahanol feysydd glo ledled Prydain a bydd y profiadau hyn yn cael eu gosod mewn cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach. Bydd y modiwl hwn yn opsiwn arall i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn sy’n gorfod dewis pwnc arbennig.

Cynnwys

Semester 1: 1842-1914

1. Cyflwyniad: Glo a Meysydd Glo yn Hanes Prydain
2. Gwaith yn y diwydiant
3. Llafur Menywod a Phlant
4. Trychinebau
5. Cyflogwyr: Polisïau Llafur
6. Cymunedau’r Meysydd Glo
7. Crefydd
8. Hamdden Glowyr
9. Undebaeth Llafur Cynnar
10. Gwleidyddiaeth: Y Blaid Ryddfrydol ac ‘Aelodau Seneddol Glowyr’

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6