Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd
- Module Identifier
- MT10110
- Module Title
- Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Professor Simon Cox
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
Mathemateg Safon Uwch (neu gyfartal). - Other Staff
- Professor Simon Cox
- Dr Tudur Davies
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Gwaith Cwrs: Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. | 20% |
| Semester Exam | Arholiad semester: 2 Hours (Arholiad Ysgrifenedig) 2 Awr | 80% |
| Supplementary Assessment | Prawf Blackboard: | 20% |
| Supplementary Exam | Arholiad atodol: 2 Hours Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Adnabod cyfeiriadau syml yn ddadansoddiadol a geometrig;
- Darganfod hafaliadau sythlinau a dwyranyddion onglog;
- Mesur hyd tangiadau i gylch ac adnabod a yw dau gylch yn iawn-onglog;
- Mesur hafaliadau systemau cylch cyfechelin;
- Adnabod y math o ffurf gonig o ddadansoddi ei hafaliad;
- Mesur hafaliadau tangiadau a sythlinau conigau;
- Defnyddio fectorau i ddatrys problemau elfennol mewn geometreg;
- Mynegi cyfesurynnau pwynt cyffredinol cromliniau arbennig yn barametrig;
- Mesur lluosymiau sgalar a fector o ddau fector;
- Mesur lluosymiau sgalar a fector triphlyg o dri fector;
- Mesur hafaliadau fector llinellau a phlanau;
- Mesur yr ongl rhwng dau blan a'r pellter byrraf rhwng pwynt a phlan;
- Datrys problemau elfennol mewn cinemateg.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rhai o syniadau hanfodol geometreg - pwyntiau, llinellau, cromliniau, planau ac arwynebau - mewn dull dadansoddiadol, yn defnyddio iaith geometreg gyfesurynnol. Caiff conigau eu dosbarthu yn nhermau eu hafaliadau a nodweddion geometreg. Mae'r cysyniad o dangiad a sythlin hefyd yn cael ei ddatblygu.
Aims
I ddatblygu dealltwriaeth o geometreg a'r allu i ystyried problemau geometrig yn ddadansoddiadol, felly hefyd y ffordd arall.
Content
1. GEOMETREG GYFESURYNNOL YN Y PLAN REAL: Y linell syth. Loci. Conigau - ffurfau penodol a'r ffurf cyffredinol. Adnabod canol, foci ac echelin hwyaf
a'r echelin leiaf. Achosion o ddirwyiad. Hafaliad gyffredinol y tangiad. Teuleuoedd o linellau a conigau. Cromlinau plan parametrig. Tangiadau a'r defnydd o ddeilliadau. Cyfesurynnau pegynlinol.
2. CYFLWYNIAD I DDULLIAU FECTOR: Fectorau uned. Lluosymiau sgalar a fector, onglau. Fectorau safle. Fectorau annibynnol llinol. Hafaliadau fector o linellau a phlanau. Cyflwyniad i ginemateg.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol. |
| Creative Problem Solving | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Digital capability | Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd. |
| Professional communication | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Subject Specific Skills | Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
