Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol
- Module Identifier
- MT10700
- Module Title
- Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Daniel Peck
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Kim Kenobi
- Professor Simon Cox
- Dr Tudur Davies
- Dr Robert Douglas
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Bywgraffiad: Ysgifennu bywgraffiad byr o Fathemategydd 1000 Words | 20% |
| Semester Assessment | Prawf: Gwerthuso prawf mathemategol yn feirniadol. 400 o eiriau | 20% |
| Semester Assessment | Cynllunio Gyrfa: Paratoi CV neu broffil Linked-In ac ysgrifennu llythyr cyflwyniad ar gyfer cais am swydd 400 o eiriau | 20% |
| Semester Assessment | Rhaglennu python: 200 o eiriau | 20% |
| Semester Assessment | Cyflwyniad Unigol: ar bwnc mewn Mathemateg. 10 Munud | 20% |
| Supplementary Assessment | Cynllunio Gyrfa: Paratoi CV neu broffil Linked-In ac ysgrifennu llythyr cyflwyniad ar gyfer cais am swydd 400 o eiriau | 20% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad Unigol: ar bwnc mewn Mathemateg. 10 Munud | 20% |
| Supplementary Assessment | Prawf: Gwerthuso prawf mathemategol yn feirniadol. 400 o eiriau | 20% |
| Supplementary Assessment | Rhaglennu python: 200 o eiriau | 20% |
| Supplementary Assessment | Bywgraffiad: Ysgifennu bywgraffiad byr o Fathemategydd 1000 Words | 20% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Gweithio’n unigol i ymchwilio a chyflwyno rhyw bwnc mewn Mathemateg.
- Defnyddio pecynnau meddalwedd er mwyn creu dogfennau syml fel Curriculum Vitae a chyflwyniad.
- Gwerthuso profion mewn Mathemateg yn feirniadol.
- Deall sut i ymgeisio am swydd, gan amlygu sgiliau a phrofiadau i gyflogwr posib.
- Ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadurol er mwyn datrys problemau mathemategol a delweddu graffiau.
Brief description
Ar y modiwl hwn fe fydd myfyriwr yn trafod y sgiliau a’r paratoad sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau gradd mewn Mathemateg yn llwyddiannus. Fe fydd y rhain yn cael eu cyflwyno i bwnc pwysig o fathemateg, fel profion ffurfiol neu ddatrys problemau. Fe fydd myfyrwyr yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad byr ar bwnc mewn Mathemateg.
Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i raglennu cyfrifiadurol trwy ystod o becynnau: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyniadau, taenlenni a rhaglennu ffurfiol yn Python. Byddwn yn defnyddio cysyniadau syml o fathemateg er mwyn arddangos defnydd syml o feddalwedd a’r sgiliau cysylltiedig yn y gweithle.
Bydd y Gwasanaethau Gyrfaoedd yn cynnig rhaglen ymwybyddiaeth gyrfaoedd, lle bydd pob myfyriwr yn paratoi llythyr cyflwyniad ac yn sefydlu Curriculum Vitae arlein. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau er mwyn ymchwilio i’r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion yn eu maes, a’r berthynas rhwng y sgiliau maent yn ei ddatblygu a’r gyrfaoedd hynny.
Content
Sgiliau Astudio ar gyfer Mathemategwyr: trafodaeth ar amgylcheddau dysgu a ffyrdd gwahanol o gyflwyno Mathemateg.
Pecynnau meddalwedd prosesu geiriau a chyflwyno (Latex, PowerPoint):
Cyflwyniad, dogfennau syml, fformatio, mynegiadau mathemategol, cyflwyniadau.
Prawf mathemategol: gwerthusiad critigol o ddulliau profi.
Cyflwyniad unigol ar bwnc mewn Mathemateg.
Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, gan gynnwys cyngor ar baratoi llythyr cyflwyniad a
CV, wedi ei redeg gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Taenlenni: trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin a delweddu set ddata (mawr).
Rhaglennu: cyflwyniad sylfaenol i python ac egwyddorion rhaglennu cyfrifiadurol, gyda pheth delweddu.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Co-ordinating with others | Disgwylir i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau yn ystod y gweithgareddau yn y dosbarth |
| Creative Problem Solving | Datblygir sgiliau datrys problem yn y modiwl wrth ymdrin â phrofion, taenlenni a’r aseiniadau rhaglennu, ac wrth baratoi cyflwyniad ar bwnc mewn Mathemateg. |
| Critical and analytical thinking | Mae sgiliau dadansoddol yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd ag ymchwil ar gyfer yr aseiniad bywgraffiad a’r cyflwyniad unigol, ac wrth ymchwilio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwahanol. |
| Digital capability | Bydd myfyrwyr yn defnyddio pecynnau meddalwedd i gynhyrchu dogfennau syml, gweithio gyda thaenlen i wneud amryw o gyfrifiadau, cynhyrchu crynodebau, delweddu'r data a'r canlyniadau, ac ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadurol i ddatrys problemau Mathemateg. |
| Professional communication | Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr aseiniadau ysgrifenedig a’r CV. Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebi ar lafar yn y cyflwyniadau. |
| Subject Specific Skills | Datblygir sgiliau mathemategol wrth werthuso profion. Bydd cysyniadau a thechnegau rhifiadol/delweddu yn cael eu hystyried mewn cysylltiad â thaenlenni a rhaglennu cyfrifiadurol. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk Other,Aberystwyth University, Old College, King Street , Aberystwyth,
01970 623111 : +44 : +44 (0)1970 622021
: Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
