Dadansoddi Mathemategol
- Module Identifier
- MT11110
- Module Title
- Dadansoddi Mathemategol
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Robert Douglas
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
MP10610 or MT10610
- Pre-Requisite
-
MA10510 or MT10510
- Other Staff
- Dr Gwion Evans
- Dr Robert Douglas
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Gwaith Cwrs: Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. | 20% |
| Semester Exam | Arholiad: 2 Hours Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
| Supplementary Assessment | Prawf Blackboard: | 20% |
| Supplementary Exam | Arholiad atodol: 2 Hours Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Darganfod setiau datrysiad ar gyfer anhafaleddau elfennol.
- Penderfynu a yw set o rifau real yn ffiniedig ai peidio.
- Penderfynu ar swpremwm ac inffimwm setiau ffiniedig.
- Disgrifio'r cysyniad o ddilyniannau o rifau real a phenderfynu a yw'r dilyniannau hynny'n gydgyfeiriol neu ddargyfeiriol.
- Defnyddio damcaniaethau safonol ar gydgyfeiriant dilyniannau.
- Defnyddio dilyniannau wedi'u diffinio gan berthynasau cylchol.
- Defnyddio'r profion sylfaenol ar gyfer cyfresi cydgyfeiriol.
- Disgrifio'r cysyniadau o ddidoriant a ddifferadwyedd ar gyfer ffwythiannau gwerth-real, a phenderfynu os yw ffwythiant gan y rhinweddau yma.
- Mynegi a defnyddio'r ddamcaniaeth gwerth cymedrig ar gyfer calcwlws differol, rheol L'Hopital, theorem Taylor a theorem Maclaurin.
Brief description
Cwrs cyntaf mewn Dadansoddi Mathemategol sy'n anelu at ateb rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu hanwybyddu yn natblygiad calcwlws. Bydd y cysyniadau canolog o derfan a di-doriant yn cael eu cyflwyno a'u defnyddio i brofi'n fanwl rai o'r damcaniaethau sylfaenol mewn dadansoddi. Mae'r syniadau hyn yn chwarae rhan elfennol yn natblygiad mathemateg wedi hyn.
Aims
Mae'r modiwl hwn yn anelu at ateb rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu hanwybyddu yn natblygiad calcwlws. Bydd y cysyniadau canolog o derfan a di-doriant yn cael eu cyflwyno a'u defnyddio i brofi'n fanwl rai o'r damcaniaethau sylfaenol mewn dadansoddi. Bydd agweddau damcaniaethol y pwnc yn cael eu datblygu ar y cyd a'r technegau sydd eu hangen i ddatrys problemau.
Content
1. ANHAFALEDDAU: setiau datrysiadau i anahafaleddau cymharebol.
2. SETIAU FFINIEDIG: Arffin uchaf, arffin isaf, inffimwm, swpremwm.
Acsiom cyflawn i'r rhifau real.
3. DILYNIANNAU: Terfan o ddilyniant cydgyfeiriol o rifau real.
Deilliad ffurfiol o theoremau ar gyfer terfannau. Y theorem cyfyngu.
Dilyniannau y ddiffinir trwy perthnasau cylchol. Dilyniannau cynyddol a gostyngol, a'r theoremau cydgyfeiriant perthnasol. Y ffaith bod dilyniannau cydgyfeiriol yn ffiniedig. Is-ddilyniannau.
4. CYMWYSIADAU O'R CALCWLS DIFFEROL: Theorem Rolle. Theorem gwerth-cymedrig o'r calcwlws differol. Rheol L'Hopital. Theorem Taylor, theorem Maclaurin.
5. CYFRESI ANFEIDRAIDD: Swmiau rhannol. Y cydgyfeiriant o gyfresi anfeidraidd. Enghreifftiau o gyfresi cydgyfeiriol a ddargyfeiriol, yn cynnwys cyfresi geometreg. Profion ar gyfer cydgyfeiriant o gyfresi o dermau positif: prawf cymharu, prawf cymhareb, prawf integru.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol. |
| Creative Problem Solving | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Digital capability | Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd. |
| Professional communication | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Subject Specific Skills | Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
