Hafaliadau Differol

Module Identifier
MT11210
Module Title
Hafaliadau Differol
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Adam Vellender
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
MP10610 or MT10610
Pre-Requisite
MA10510 or MT10510
Exclusive (Any Acad Year)
MA11210
Other Staff
Dr Gwion Evans

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Gwaith Cwrs: Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. 20%
Semester Exam Arholiad: 2 Hours Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr 80%
Supplementary Assessment Prawf Blackboard: 20%
Supplementary Exam Arholiad atodol: 2 Hours Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr 80%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Datrys hafaliadau differol gradd gyntaf ac hafaliadau differol llinol trefn dau gydag amodau cychwynnol neu ffiniedig.
  2. Adeiladu model mathemategol syml.

Brief description

Gellid dadlau mai mathemateg yw'r ffordd mwyaf effeithlon a llwyddiannus o ddisgrifio'r byd go iawn. Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r syniad o fodelu mathemategol ac i ddatblygu'r sgiliau technegol ar gyfer datrys y problemau mathemategol sy'n codi mewn cymwysiadau. Bydd y maes llafur yn cynnwys technegau o integriad, hafaliadau differol gradd gyntaf ac hafaliadau differol llinol trefn dau. Bydd enghreifftiau yn cael eu cymryd o fioleg, economeg a ffiseg.

Aims

I ddatblygu'r sgiliau technegol a'r gallu i ddefnyddio calcwlws mewn cymwysiadau.

Content

1. HAFALIADAU DIFFEROL: Hafaliadau gradd gyntaf gyda newidynnau gwahanadwy. Hafaliadau gradd gyntaf homogenaidd a llinol. Hafaliadau llinol trefn dau gyda chyfernodau cyson. Penderfynu ar integrynnau neilltuol lle mae'r term an-homogenaidd yn bolynomial, ffwythiant cylchol neu'n ffwythiant esbonyddol. Y ddull o amrywio'r paramedrau. Problemau gwerth cychwynnol a ffin. Hafaliadau llinol o radd uwch gyda chyfernodau cyson. Trafodaeth o fodolaeth ac unigrywiaeth.

2. MODELU MATHEMATEGOL: Y defnydd o fodelau mathemategol i ddisgrifio a deall y byd go iawn. Differiad a chyfraddau newid. Dyfeisio hafaliadau differol i ddisgrifio ffenomenau sy'n ddibynnol ar amser, yn cynnwys:
- dynameg elfennol yn defnyddio rheolau mudiant Newton;
- dynameg poblogaethau;
- llif o wefr o gwmpas cylchedd trydannol syml.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol.
Creative Problem Solving Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Digital capability Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd.
Professional communication Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir
Subject Specific Skills Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg.

Notes

This module is at CQFW Level 4