Module Information

Cod y Modiwl
MT11310
Teitl y Modiwl
Ystadegaeth
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ail-eistedd  (Arholiad Ysgrifenedig)  100%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad semester  (Arholiad Ysgrifenedig)  80%
Asesiad Semester Gwaith cwrs  Marc yn seiliedig ar bresenoldeb mewn darlithoedd a thiwtorialau ac aseiniadau a gyflwynir  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

disgrifio'r syniad o gydamrywiant;

mesur cymedrau ac amrywiannau cyfuniadau llinellol o hapnewidion;

adnabod ffwythiannau tebygolrwydd addas ar gyfer sefyllfa benodol;

disgrifio modelu yn nhermau treialon Bernoulli a digwyddiadau hap;

defnyddio ffwythiannau i ddarganfod momentau a braslunio cromliniau;

asesu gwerth penodol mewn perthynas gyda gradd ffwythiant tebygolrwydd penodol;

mesur cymedrau a chyfranneddau o ddata;

esbonio'r defnydd o'r prawf ystadegol;

adeiladu a chynnal profion syml;

defnyddio tablau ystadegol perthnasol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn anelu at ddatblygu modelau tebygolrwydd cyffredin sy'n gymwys ag amrywiaeth o sefyllfaoedd ynghyd ag egluro eu defnydd mewn cyd-destun ystadegol. Mae cyflwyniad i'r ddamcaniaeth o amcangyfrif hefyd yn cael ei gynnwys.

Nod

I gyflwyno Ystadegaeth i fyfyrwyr Mathemateg.

Cynnwys

Cynnwys:

1. Y BROBLEM O GASLIAD: Y gwahaniaeth rhwng tebygolrwydd a casgliad ystadegol. Asesu gwerthoedd 'nodweddiadol' o ddosraniad. Y syniad o ystadegyn. Amcangyfrif ac amcangyfrifynnau. Manwl gywirdeb. Tuedd, samplu, amrywiant a gwall sgwar cymedrig. Cymhariaeth o amcangyfrifynnau.
2. MODELU (STOCASTIG) WEDI'I SELIO AR DEBYGOLRWYDD (GAN GYNNWYS ENGHREIFFTIAU O GASGLIADAU): Treialon Bernoulli a dosraniadau wedi'i selio arnynt (Geometrig, Binomial). Polau opiniwn. Cydamrywiant a chydberthyniad.Amrywiantau cyfuniadau llinol o hapnewidynnau. Modelu hapddigwyddiadau. Y dosraniadau Poisson ac esbonyddol. Normalrwydd a'r Theorem Terfan Ganolog. Deddf Wan Rhifau Mawr.
3. CASGLIAD: Cymedr samplu, amrywiant samplu a gwyriad safonol cyfanswm y sampl a chyfartaledd y sampl. Profi ystadegol. Arwynebedd cynffon. Gwerthoedd p. Engreifftiau o brofion syml. Cyfyngau hyder.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gallu digidol Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4