Hydrodynameg 1

Module Identifier
MT25610
Module Title
Hydrodynameg 1
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Professor Simon Cox
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
FG26020 or PM26020
Exclusive (Any Acad Year)
MA25610
Other Staff
Professor Simon Cox
Dr Tudur Davies

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Taflenni problemau: 20%
Semester Exam Arholiad Ysgrifenedig: 2 Hours 80%
Supplementary Exam Arholiad Ysgrifenedig: 2 Hours 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Egluro gofynion y syniad o gyfraddau newid lleol a darfudol. 2. Cyfrifo’r forteisedd ar gyfer llif llifydd delfrydol. 3. Enrhifo’r amod anghywasgedd ar gyfer maes cyflymder penodol. 4. Cymhwyso a datrys yr hafaliadau rheoli mewn sefyllfaoedd penodol.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno a'n datblygu'r cysyniad sylfaenol Hydrodynameg Glasurol a'n cynnig fframwaith ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Fecaneg Hylifau.

Aims

I gynnig fframwaith sylfaenol ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Ddynameg Hylifau. I gyflwyno cysyniad sylfaenol Hydrodynameg Glasurol. I egluro sut gall modelu mathemategol o fudiant hylif fod o gymorth er mwyn deall ffenomenau penodol yn y byd go iawn mewn meysydd megis meteoroleg ac aerodynameg.

Content

1. Cysyniadau sylfaenol: Cyflymder, cyflymiad, gwasgedd, dwysedd.
2. Adolygiad o galcwlws fector a systemau cyfesurynnol.
3. Systemau cyfeirio Euleraidd a Lagrangaidd.
4. Cinemateg mudiant hylif: llinlwybrau, llinliniau, llinreianau, forteisedd, ayyb.
5. Hafaliadau rheoli mudiant hylif sylfaenol.
6. Cymhwysiad hafaliadau Bernoulli.
7. Sylfeini hydrodynameg glasurol: Theoremau Kelvin; Llif anghylchdro.
8. Anghywasgrwydd: Llif potensial.
9. Strwythurau hydrodynameg syml mewn tri dimensiwn: tarddiadau, sinciau, dwbledi, ayyb.
10. Rhai problemau clasurol.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu.
Co-ordinating with others Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau.
Creative Problem Solving Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Digital capability Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau.
Professional communication Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Subject Specific Skills Mae'r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg yn ogystal â chymwysiadau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen.

Notes

This module is at CQFW Level 5