Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg mewn Ysgol Uwchradd

Module Identifier
MT39020
Module Title
Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg mewn Ysgol Uwchradd
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Tudur Davies
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Tudur Davies

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Adroddiad Ysgrifenedig: Adroddiad ysgrifenedig ac adnodd dysgu. 1500 o eiriau 50%
Semester Assessment Traethawd Hir: Traethawd adlewyrchol ar wers fathemateg a roddwyd gan y myfyriwr. 2500 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Adroddiad Ysgrifenedig: Adroddiad ysgrifenedig ac adnodd dysgu. 1500 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd Hir: Traethawd adlewyrchol ar wers fathemateg a roddwyd gan y myfyriwr. 2500 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Gwerthuso a thrafod pwysigrwydd Mathemateg mewn Addysg Uwchradd.
  2. Gwerthuso adnoddau dysgu y gellid eu defnyddio mewn dosbarth neu ar blatfform ar-lein.
  3. Dangos dealltwiraeth o gymhlethdod y broses ddysgu a chysylltu profiadau dysgu personol a syniadau cyfredol o sut mae disgyblion yn dysgu Mathemaeteg.
  4. Dadansoddi'n feirniadol rhai dulliau dysgu gan gynnwys y cysyniad o wahaniaeth fel strategaeth o ymateb i anghenion dysgu unigol.
  5. Dadansoddi'n feirniadol pwysigrwydd amcanion dysgu a'u perthynas a dysgu ac addysgu effeithiol
  6. Gwerthuso cydrannau allweddol a strwythuro cynllun gwers gan roi ystyriaeth o'r amcanion dysgu diffiniedig yn ogystal a rheolaeth o'r gweithgaredd dysgu
  7. Gwerthuso sut mae dulliau dysgu rhyngweithiol yn gwella dysgu Mathemateg, a bod yn ymwybodol o'r posibiliadau o gyfathrebiad dilafar yn y dosbarth.
  8. Disgrifo'r farn gyfredol am brif bwrpas asesu a rhai o'r egwyddorau sy'n hydreiddio ymarfer da, yn ogystal a thrafod a dadansoddi rhai cynlluniau a pholisiau marcio Mathemateg

Brief description

Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr o addysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd. Bydd y myfyrwyr yn adlewyrchu ar ddulliau addysgu athrawon profiadol ac yn datblygu eu dealltwriaeth o'r sgiliau allweddol ar gyfer addysgu Mathemateg

Aims

Cyflwyno myfyrwyr i addysgu mathemateg ar lefel uwchradd trwy adlewyrchu ar elfen o brofiad gwaith.

Content

Bydd y modiwl yn cynnwys 10 diwrnod ar brofiad gwaith mewn lleoliad perthnasol lle gellir arsylwi ar y broses o addysgu a dysgu mathemateg. Disgwylir i fyfyrwyr sicrhau fod ganddynt wiriad DBS priodol cyn dechrau’r modiwl, ac i gymryd cyfrifoldeb dros eu trafnidiaeth i’r lleoliad profiad gwaith ac yn ôl i'r Brifysgol. Noder felly y bydd costau ychwanegol ynglwm â'r modiwl: cost gwiriad DBS a chostau teithio.

Bydd y modiwl yn cynnwys trafodaeth ar y pynciau canlynol: Y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Mathemateg, Damcaniaethau Dysgu, Amcanion Dysgu, Cynllunio Gwersi, Asesiad, Dulliau Addysgu Rhyngweithiol ac Adnoddau Defnyddiol, Gwerthuso ac Adlewyrchu.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Disgwylir i'r myfyrwyr gynorthwyo gyda tasgau rhifyddol mewn dosbarth yn ogystal â gosod tasgau Mathemaetgol yn eu gwers.
Communication Bydd y myfyrywr yn cadw dyddiaduron adlewyrchol o'u profiadau ar leoliad gwaith ac yn ysgrifennu portfolio yn crynhoi'r profiad. Byddant yn rhoi cyflwyniad llafar unigol i weddill y dosbarth yn ogystal a chyflwyno gwers yn yr ysgol. Bydd yr holl weithdai a'r aseiniadau yn cynnwys trafodaethau llafar yn ogystal a chyfathrebu ysgrifenedig.
Improving own Learning and Performance Bydd myfyrwyr yn ymarfer eu sgiliau cyfathrebu ac yn cael y cyfle i ymdrin a Mathemateg yn Gymraeg yn y gweithle
Information Technology Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i gefndir a chyd-destun y syniadau a'r theoriau a gyflwynir gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff canlyniadau o'r chwiliadau eu trafod yn yr aseiniadau a'r portfollio
Personal Development and Career planning Bydd y modiwl yn cyflwyno'r myfyrywr i rai o'r heriau sydd ynghlwm ag addysgu Mathemaeteg mewn ysgol uwchradd ac o bosib yn eu hysgogi i fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes.
Problem solving Bydd myfyrwyr yn paratoi problemau a datrysiadau ar gyfer cyflwyno gwers yn yr ysgol
Research skills Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i'r syniadau a'r theoriau dysgu Mathemateg gan ddefnyddio'r rhestr ddarllen a roddir
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o bwnc mathemategol sylfaenol er mwyn addysgu’r pwnc hwnnw i ddysgwyr.
Team work Bydd trafodaeth grwp yn chwarae rhan allweddol y seminarau'r modiwl. Bydd yn gyfle i'r myfyrwyr rannu eu profiadau a syniadau all fod o gymorth i eraill

Notes

This module is at CQFW Level 6