Module Information

Cod y Modiwl
TC20320
Teitl y Modiwl
Sylfeini Hunan-Gyflwyno
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd Fideo  Traethawd fideo tua 5-7 munud o hyd.  60%
Asesiad Ailsefyll 'Pitch' Storïol  Cyflwyniad Ymaferol 10 munud o hyd lle bydd y myfyrwyr yn cyflwyno amcan o syniad a chynllun tuag at y Traethawd Fideo.  10%
Asesiad Ailsefyll Nodiadau tuag at y Traethawd Fideo  1000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Traethawd Fideo  Traethawd fideo tua 5-7 munud o hyd.  60%
Asesiad Semester 'Pitch' Storïol  Cyflwyniad Ymaferol 10 munud o hyd lle bydd y myfyrwyr yn cyflwyno amcan o syniad a chynllun tuag at y Traethawd Fideo.  10%
Asesiad Semester Nodiadau tuag at y Traethawd Fideo  1000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gallu sylfaenol i ddadansoddi a chymhwyso deunydd storïol trwy gyflwyno ‘Pitch’ storïol a Nodiadau Ysgrifenedig

Arddangos gallu i gynllunio dadl ddeallusol gynhwysfawr, gan gymhwyso deunydd gweledol, clywedol, gofodol ac amserol.

Arddangos gallu i gyflwyno’n gywir, manwl a hyderus, mewn modd sy’n briodol at natur y deunydd a drafodir.

Arddangos gallu i drefnu a golygu'r deunydd a gyflwynir fel ag i hyrwyddo ac amlygu'r ddadl sylfaenol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn fydd i osod sail ar gyfer dull y myfyrwyr o astudio ac o gyflwyno deunydd creadigol a dadansoddiadol. Fe ddysgir y modiwl trwy gyfres o ‘Ddarlithoedd’ fideo/cyfryngol a Seminarau byw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddarparu tystiolaeth (ar Blackboard) o’r ffaith iddynt wylio a chyfrannu i’r traethodau fideo cyn mynychu’r seminarau.
Penllanw’r modiwl fydd gofyn i‘r myfyrwyr greu Traethawd Fideo 5-7 munud o hyd a fydd yn ymateb i gynhyrchiad neu allbwn cyfryngol a welsant, gan osod y cynhyrchiad hwnnw mewn cyd-destun o’i dewis eu hunain. Gall y cynyrchiadau/allbynnau a drafodir gynnwys deunydd o’r math canlynol:
• Stori a fu/sydd yn y newyddion
• Digwyddiad o’u milltir sgwâr/bro
• Perfformiad byw y bu’r myfyrwyr yn rhan ohono
• Cynhyrchiad llwyfan a welwyd gan y myfyrwyr
• Ffilm/Rhaglen deledu/allbwn cyfryngol a welwyd gan y myfyrwyr
• Cyfweliad dogfennol a gynhaliwyd gan y myfyrwyr

Fe fydd y myfyrwyr yn paratoi eu Traethawd trwy gynnig ‘Pitch’ tua diwedd wythnos 3 o’r tymor, ac ysgrifennu cyfres o Nodiadau mwy manwl ar ei gyfer erbyn diwedd wythnos 6. Fe gynhelir sesiynau adborth ar gyfer yr aseiniadau hyn naill ai wyneb-yn-wyneb â’r myfyrwyr neu trwy gyswllt fideo.

Cynnwys

Enghreifftiau Amodol o ‘Ddarlithoedd’:
1. Beth yw Stori?
2. Beth yw elfennau Stori?
3. Sut mae bod yn Draethydd?
4. Sut mae creu ‘Pitch’ storïol?
5. Gosod eich gweledigaeth eich hun yng nghanol eich cyflwyniad
6. Datblygu ymateb i’r stori trwy gyfrwng Lleoliadau Penodol
7. Datblygu ymateb i’r stori trwy gyfrwng Ymchwil
8. Ymgorffori byw fel modd storïol
9. Golygu a Montage fel moddau storïol
10. Trac Sain a’r deunydd storïol
11. Goleuo a’r deunydd storïol
12. Astudiaethau Achos: Cwymp yr Ymerodraethau
13. Astudiaethau Achos: Hansh
14. Astudiaethau Achos: Fy Ynys Las
15. Astudiaethau Achos: Low Box

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Fe fydd y seminarau ar gyfer y modiwl yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr i ystyried dynameg trafodaethau grŵp, ac i ymarfer sgiliau trafod a pherswadio fesul grŵp.
Cyfathrebu proffesiynol Fe fydd aseiniadau’r modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr amlygu’r cymhwysiad o wahanol fathau o ddeunydd ysgogol a chyd-destunol; ystyried natur y gynulleidfa wrth lunio’r sgript a’r sgript saethu ar gyfer y Traethawd Fideo; siarad mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol; a gwrando’n effeithiol wrth wylio’r darlithoedd fideo, yn y seminarau a’r tiwtorialau.
Datrys Problemau Creadigol Fe fydd aseiniadau’r modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr ddewis deunydd sy’n esgor ar drafodaeth a dadl gynhwysfawr; archwilio a dewis gwahanol foddau o gyflwyno fel y mae’n nhw’n gymwys i sgiliau’r myfyrwyr a’r pwnc; ac ystyried sut i gydbwyso dadl ddeallusol neu adolygiad beirniadol gyda deunydd gweledol a pherfformiadol
Gallu digidol Fe fydd yn rhaid i’r myfyrwyr ddefnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd cyffredin (gwaith wedi’i deipio ar Turnitin ar gyfer y Nodiadau). Fe fydd angen cyflawni gwaith ymchwil tuag at yr aseiniadau; fe fydd hefyd angen cyfathrebu â chydgysylltydd y modiwl trwy ebost; ac fe fydd y Traethawd Fideo hefyd yn gofyn i’r myfyrwyr ddangos gallu i ddefnyddio meddalwedd golygu fideo.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Fe fydd aseiniadau’r modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr ystyried gwahanol ffynonellau a dulliau o gyrchu gwybodaeth a deunydd cyd-destunol; rhoi amcan o ba fathau o ffynonellau ymchwil y byddir yn eu cyrchu a sut y gwneir defnydd o’r ymchwil hwnnw yn y Traethawd Fideo; amlygu dealltwriaeth a chymhwysiad o’r gwaith ymchwil; ac ystyried sut i gymhwyso’r gwaith ymchwil yn ddeallusol ac ymarferol.
Myfyrdod Mae’r ddau aseiniadau cyntaf ar y modiwl yn paratoi at y Traethawd Fideo terfynol, ac felly’n cynnig ffordd i’r myfyrwyr fireinio’u cyflwyniad terfynol ac adfyfyrio ar y broses o weithio tuag at allbwn creadigol cymhleth.
Synnwyr byd go iawn Fe fydd yr aseiniadau ar y modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr ddethol eu pwnc eu hunain, ac yn cynnig cyfle iddynt ddod yn ymwybodol o’u harddull a’u blaenoriaethau dysgu eu hunain o ganlyniad i hynny.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5