Module Information

Module Identifier
VS10400
Module Title
Hwsmonaeth Anifeiliaid
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 1 (Taught over 2 semesters)
Pre-Requisite
Creiddiol i'r BVSc Milfeddygaeth - nid yw ar gael i fyfyrwyr eraill
Co-Requisite
Creiddiol i'r BVSc Milfeddygaeth - nid yw ar gael i fyfyrwyr eraill
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment .5 Hours   Asesiad unigol ar lafar  Asesiad unigol ar lafar sy'n cynnwys elfennau o ymdrin ag anifeiliaid yn ymarferol 0.5 awr - 1x asesiad llafar15 munud ar anifeiliaid fferm a 1x asesiad llafar 15 munud ar anifeiliaid anwes gan gynnwys ceffylau  40%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  60%
Supplementary Assessment .5 Hours   Asesiad unigol ar lafar  Asesiad unigol ar lafar sy'n cynnwys elfennau o ymdrin ag anifeiliaid yn ymarferol 0.5 awr - 1x asesiad llafar15 munud ar anifeiliaid fferm a 1x asesiad llafar 15 munud ar anifeiliaid anwes gan gynnwys ceffylau  40%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Adnabod a dadansoddi ymddygiadau arferol anifeiliaid, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â chyflyrau emosiynol (e.e. ofn, pryder) sy'n gyffredin i'r holl rywogaethau o dan amodau arholiad.

Mewn modd diogel ac effeithiol, mynd at anifeiliaid unigol o'r holl rywogaethau a gwmpasir gan y cwrs, a gafael ynddynt a'u dal dan reolaeth.

Gwneud tasgau hwsmonaeth arferol ar yr holl rywogaethau a gwmpasir gan y cwrs.

Cloriannu statws lles sylfaenol anifeiliaid, fel unigolion ac mewn grwpiau.

Esbonio'r egwyddorion gwyddonol ac ymarferol sydd wrth wraidd yr arferion cyffredin mewn hwsmonaeth ar rywogaethau cyffredin o anifeiliaid dof.

Esbonio'r seiliau bwydo anifeiliaid o safbwynt maeth, gan gymhwyso egwyddorion maeth sylfaenol wrth gloriannu deiet.

Disgrifio'r egwyddorion genynnol bras sy'n sylfaenol i'r arferion dethol at ddibenion bridio mewn mentrau amaethyddol confensiynol.

Rhoi braslun o'r cylch cynhyrchu ("o'r pridd i'r plât") mewn mentrau cynhyrchu bwyd cyffredin a'r risg i iechyd y cyhoedd mewn mentrau nodweddiadol sy'n cynhyrchu anifeiliaid at ddibenion bwyd.

Esbonio'r prosesau penderfynu mewn ffermio da byw a'r egwyddorion economaidd a chynhyrchu sy'n rhoi sylfaen i ffermio llwyddiannus.

Brief description

Mae Hwsmonaeth Anifeiliaid yn darparu cyflwyniad i ofal anifeiliaid a'r rhan y mae anifeiliaid yn ei chwarae yn ein cymdeithasau. Yn ystod eich gradd mewn milfeddygaeth, bydd hwsmonaeth anifeiliaid yn darparu sylfaen i'r holl gyrsiau eraill sy'n ymwneud ag anifeiliaid. Bydd Hwsmonaeth Anifeiliaid hefyd yn rhoi'ch profiad cyntaf o'r thema Meddyginiaeth Poblogaethau ac Iechyd Cyhoeddus Milfeddygol. Nod y thema Hwsmonaeth Anifeiliaid yw rhoi dealltwriaeth sylfaenol o'r egwyddorion sy'n rhoi sylfaen i systemau hwsmonaeth, o ran ymddygiad, lles, rheolaeth, cynhyrchu, maeth, genynnau ac yn economaidd.

Content

Nod y modiwl hwn yw rhoi i chi ddealltwriaeth ymarferol a chyfoes o'r ffyrdd gorau o ofalu am anifeiliaid ac o ymdrin â nhw yn ymarferol.

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cysyniadau a gwybodaeth sy'n berthnasol i rywogaethau penodol. Nod y cysyniadau yw darparu 'darlun eang' wrth ymdrin â gofal anifeiliaid. Maent yn berthnasol i'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o rywogaethau anifeiliaid dof, ac maent yn cynnwys: Amaeth-fusnes, Ymddygiad anifeiliaid, Gofal a lletya, Dofi, Maeth, Iechyd Cyhoeddus Milfeddygol, Lles Anifeiliaid a Milheintiau Mae'r dysgu am rywogaethau penodol yn cydblethu'n agos â'r cysyniadau hyn ond yn cyflwyno gwybodaeth fanylach am rywogaethau penodol:

Hwsmonaeth Gwartheg
Hwsmonaeth Defaid
Hwsmonaeth Ceffylau
Hwsmonaeth Moch
Hwsmonaeth Dofednod
Hwsmonaeth Cŵn a Chathod
Hwsmonaeth Mamaliaid Bychain
Hwsmonaeth Adar
Hwsmonaeth Ymlusgiaid

Module Skills

Skills Type Skills details
Adaptability and resilience Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs a gweithio at yr arholiadau erbyn y dyddiadau penodedig. Nid asesir yr agwedd hon.
Co-ordinating with others Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon.
Creative Problem Solving Bydd dysgu mewn grwpiau bach/dosbarthiadau ymarferol, y gwaith cwrs a'r arholiadau yn golygu datrys problemau.
Critical and analytical thinking Bydd y gwaith cwrs a'r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau ymchwil yn ddyfnach a'r tu hwnt i gwmpas deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir y sgiliau ymchwil yn yr arholiad a'r gwaith cwrs. Rhoddir adborth i'r gwaith cwrs ar hyn.
Digital capability Nid yw'n elfen bwysig o'r modiwl hwn
Professional communication Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar yn yr arholiad a'r gwaith cwrs, lle y'u hasesir. Rhoddir adborth i'r gwaith cwrs hwn.
Real world sense Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon.
Reflection Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon.
Subject Specific Skills Yn ystod y modiwl, fe fydd y myfyrwyr yn dysgu terminoleg filfeddygol, arferion hwsmonaeth a sgiliau ymarferol wrth ymdrin ag anifeiliaid. Bydd y rhain yn cael eu hasesu.

Notes

This module is at CQFW Level 4