Ymarfer Proffesiynol

Module Identifier
AD10020
Module Title
Ymarfer Proffesiynol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Mr Berian Lewis
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Mrs Annabel Latham
Mr Berian Lewis
Mr Prysor Davies
Dr Rosemary Cann

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Aseiniad Myfyriol: Aseiniad myfyriol yn canolbwyntio ar ymddygiad proffesiynol 900 o eiriau 30%
Semester Assessment Portffolio: 2100 o eiriau 70%
Supplementary Assessment Aseiniad Myfyriol: Aseiniad myfyriol yn canolbwyntio ar ymddygiad proffesiynol 900 o eiriau 30%
Supplementary Assessment Portffolio: 2100 o eiriau 70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth i weithio'n effeithiol fel ymarferydd blynyddoedd cynnar.
  2. Trafod yn feirniadol ddulliau addysgeg a ffyrdd o weithio gyda phlant ifanc .
  3. Deall a gwerthuso'r prif egwyddorion sy'n sail i arweinyddiaeth blynyddoedd cynnar a gweithio mewn partneriaeth.
  4. Egluro rôl ymarfer myfyriol mewn cyd-destunau Blynyddoedd cynnar a gwerthuso modelau ymchwil priodol o ymarfer myfyriol.
  5. Datblygu dealltwriaeth o effaith yr iaith a'r diwylliant Cymraeg ar leoliadau'r blynyddoedd cynnar a'r gweithlu.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn dechrau datblygu sgiliau proffesiynol ac ymarferol myfyrwyr i weithio fel ymarferwyr effeithiol o fewn y blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn caffael gwybodaeth am y cysyniadau allweddol sy'n ganolog i weithio gyda phlant ifanc, gan gynnwys archwilio egwyddorion gweithio mewn partneriaeth, cyflwyniad i'r dulliau damcaniaethol o arwain ac ystyried gwahanol ddulliau addysgeg o weithio gyda phlant ifanc.

Elfen graidd o'r modiwl fydd datblygu ymarfer myfyriol a bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu eu sgiliau myfyrio beirniadol. Bydd myfyrwyr yn archwilio'n feirniadol ddulliau ymchwil a swyddi moesegol sy'n ymwneud â gweithio gyda phlant. Mae'r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd effaith yr iaith a'r diwylliant Cymraeg ar weithle'r blynyddoedd cynnar. I gynorthwyo ymarfer myfyriol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad 50 awr mewn lleoliad blynyddoedd cynnar fel rhan o'r modiwl hwn.

Content

Bydd cynnwys gweithdai a seminarau yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:
Swyddi, cyfrifoldebau ac atebolrwydd yn y gweithle blynyddoedd cynnar
Ymarfer myfyriol
Dulliau ymchwil a moeseg
Dulliau a moddau o weithio gyda phlant ifanc
Creu amgylchedd dysgu
Gweithio mewn partneriaeth
Iaith a diwylliant Cymraeg yn y gweithle
Dulliau damcaniaethol o arwain a rheoli
Bydd y pythefnos diwethaf yn lleoliad mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Datblygiad Personol a Chynllunio Gyrfa - Bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu'r sgiliau i weithio fel gweithiwr proffesiynol.
Co-ordinating with others Drwy gydol y modiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd gweithio gydag eraill.
Creative Problem Solving Bydd angen i fyfyrwyr edrych ar ffyrdd creadigol o ddelio â phroblemau neu sefyllfaoedd anodd. Bydd y cynllun ymchwil yn caniatáu i fyfyrwyr feddwl am sut y gall ymchwil helpu i ddatrys cwestiynau penodol.
Critical and analytical thinking Bydd myfyrwyr yn dechrau archwilio pwysigrwydd ymchwil gweithredol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Digital capability Bydd myfyrwyr yn edrych ar y rhan y gall technoleg ei chwarae wrth gefnogi ymarfer proffesiynol.
Professional communication Drwy gydol y modiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd cyfathrebu'n broffesiynol.
Reflection Gwella Dysgu a Pherfformiad: Bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd myfyrio ar eu sgiliau a defnyddio adborth i wella.
Subject Specific Skills Bydd ymarfer myfyriol yn agwedd allweddol ar y modiwl, o ystyried pwysigrwydd hyn yn ymarferol.

Notes

This module is at CQFW Level 4