Dulliau Ymchwil

Module Identifier
AD20320
Module Title
Dulliau Ymchwil
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Rhodri Evans
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Lucy Trotter
Mr Prysor Davies
Dr Rosemary Cann
Mrs Non Jones

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Aseiniad 1: Amlinelliad pwnc ac adolygiad llenyddiaeth ar bwnc o ddewis y myfyriwr a fydd yn sail i'w traethawd hir trydedd flwyddyn 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Aseiniad 2: Datganiad o fethodoleg ar gyfer traethawd hir trydydd blwyddyn y myfyrwyr 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Aseiniad Atodol 2: Datganiad o fethodoleg ar gyfer traethawd hir trydydd blwyddyn y myfyrwyr 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Aseinaid Atodol 1: Amlinelliad pwnc ac adolygiad llenyddiaeth ar bwnc o ddewis y myfyriwr a fydd yn sail i'w traethawd hir trydedd flwyddyn 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Gwerthuso'n feirniadol ystod o ddyluniadau ymchwil a'u haddasrwydd ar gyfer gwahanol gyd-destunau ymchwil sy'n gysylltiedig ag ymchwil addysgol.
  2. Gwerthuso'n feirniadol wahanol fathau o ddylunio ymchwil, gan gynnwys eu cryfderau, cyfyngiadau a chymhwyso mewn ymchwil addysgol.
  3. Cynnal adolygiad beirniadol o lenyddiaeth berthnasol yn eu maes ymchwil dewisol, gan nodi themâu allweddol a chyfleoedd ar gyfer ymchwil bellach.
  4. Datblygu methodoleg ymchwil gydlynol ar gyfer prosiect ar raddfa fach, gan gynnwys trafodaeth ar faterion a strategaethau moesegol posibl i fynd i'r afael â nhw.
  5. Dangos ymgysylltiad beirniadol â deunydd ffynhonnell, gan integreiddio cysyniadau damcaniaethol ag ystyriaethau ymchwil ymarferol.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau ymchwil craidd a ddefnyddir mewn ymchwil addysgol ac yn canolbwyntio ar eu harfogi â'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ddylunio a chynnal eu prosiectau ymchwil ar raddfa fach eu hunain.
Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr ar gyfer cymhwyso ymchwil yn ymarferol ac ar alluogi myfyrwyr i: ymgysylltu'n feirniadol â llenyddiaeth; nodi pwnc ymchwil; llunio cwestiynau ymchwil; myfyrio ar faterion methodolegol; ac ymgysylltu ag ystyriaethau moesegol allweddol.
Erbyn diwedd y modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu ateb yn hyderus:
Beth yw'r prif ddulliau ymchwil a ddefnyddir mewn ymchwil addysgol, a beth yw eu cryfderau a'u cyfyngiadau?
Sut ydw i'n dewis pwnc ymchwil priodol?
Sut mae dylunio a chynllunio prosiect ymchwil ar raddfa fach, o ddatblygu cwestiynau ymchwil i ddewis dulliau?
Sut alla i gasglu a dadansoddi data ansoddol a meintiol yn effeithiol?
Pa ystyriaethau moesegol sy'n hanfodol wrth gynnal ymchwil addysgol?

Content

Bydd amrywiaeth o themâu yn cael eu hystyried yn y darlithoedd a'r seminarau ar gyfer y modiwl hwn, gan gynnwys:
Cyflwyniad i Ymchwil mewn Addysg
Darllen Beirniadol a Llunio Cwestiynau Ymchwil
Strwythuro Adolygiad Llenyddiaeth
Dulliau Ymchwil Ansoddol
Dulliau Ymchwil Meintiol
Cynllunio a Dylunio Methodoleg Ymchwil
Moeseg Ymchwil a Llywio Heriau Moesegol
Moeseg Ymchwil a Dulliau gyda Phlant
Strwythuro datganiad methodolegol a llunio cynnig traethawd hir
Gweithio gyda Data a Meddwl Ymlaen

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Bydd myfyrwyr yn gwerthuso'n feirniadol adroddiadau ystadegol i gefnogi eu gwerthfawrogiad o ddulliau meintiol. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymchwilio sut i ddehongli a chyflwyno data meintiol.
Communication Bydd cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn cael ei ddatblygu drwy asesiadau ysgrifenedig, gan gynnwys yr adolygiad llenyddiaeth a'r datganiad methodolegol. Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu hymarfer drwy weithgareddau seminar a gweithdai.
Improving own Learning and Performance Bydd myfyrwyr yn adlewyrchu ar adborth o'u haseiniadau ysgrifenedig ac yn cymhwyso myfyrdodau personol yn y sesiynau. Bydd cynllunio annibynnol a rheolaeth amser yn allweddol wrth i'r myfyrwyr reoli eu haseiniadau a chynllunio ar gyfer eu prosiectau ymchwil.
Information Technology Defnyddir prosesu geiriau i greu pob gwaith ysgrifenedig. Bydd sgiliau ymchwilio i lenyddiaeth ar-lein a rheoli adnoddau digidol yn cael eu datblygu. cyflwynir myfyrwyr i feddalwedd dadansoddi data.
Personal Development and Career planning Bydd y modiwl yn rhoi profiad ymarferol mewn ymchwil, gan ddatblygu rheolaeth amser, hunan ddisgyblaeth a myfyrdod personol. Bydd paratoi ar gyfer prosiect ymchwil graddfa fach hefyd yn paratoi myfyrwyr am astudiaethau ôl-raddedig posibl neu rolau addysgiadol proffesiynol sydd angen sgiliau ymchwilio.
Problem solving Mae datrys problemau wedi'i wreiddio yn y broses ymchwil, o lunio cwestiynau ymchwil i oresgyn heriau wrth nodi llenyddiaeth allweddol, llunio'r dulliau casglu data mwyaf cymhellol, myfyrio ar faterion moesegol, ac mewn perthynas â dadansoddi, a dehongli
Research skills Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar sgiliau ymchwil craidd, gan arwain myfyrwyr trwy gynllunio, cynnal ac ysgrifennu prosiect ymchwil ar raddfa fach. Rhoddir pwyslais ar ddeall ystyriaethau moesegol, dulliau casglu data, a dylunio ymchwil.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â chysyniadau a damcaniaethau methodolegol sy'n berthnasol i ymchwil addysgol. Bydd y gallu i asesu llenyddiaeth ymchwil yn feirniadol a chymhwyso dulliau priodol yn cael ei ddatblygu drwy gydol y modiwl.
Team work Tra bod llawer o'r gwaith o ddatblygu prosiectau ymchwil yn waith unigol, bydd gwaith tîm yn amlwg yn y gweithdai a'r gweithgareddau adolygiad cyfoedion. Bydd dysgu cydweithredol yn help i fyfyrwyr fireinio eu syniadau a'u dulliau ymchwil.

Notes

This module is at CQFW Level 5