Lleoliad Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 2
- Module Identifier
- AD25860
- Module Title
- Lleoliad Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 2
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Mr Berian Lewis
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Portffolio: (sy'n cynnwys is-unedau asesedig a sesiynau a aseswyd) 12000 o eiriau | 100% |
| Supplementary Assessment | Portffolio: (sy'n cynnwys is-unedau asesedig a sesiynau a aseswyd). Rhaid ailwneud yr elfennau a fethwyd. 12000 o eiriau | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- 1. Integreiddio safbwyntiau damcaniaethol wrth gyflwyno ymarfer proffesiynol.
- 2. Bodloni a dangos tystiolaeth o'r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar.
- 3. Ystyried a gwerthuso goblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer datblygiad personol yn y dyfodol.
Brief description
Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i gymryd perchnogaeth o'u datblygiad personol, proffesiynol ac academaidd a defnyddio hyn i wella eu hymarfer. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gadw portffolio o dystiolaeth i ddangos eu gallu i fodloni'r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrio beirniadol mewn perthynas ag arfer cyfredol a rolau proffesiynol yn rhan annatod o'r portffolio. Anogir gwerthuso canfyddiadau ymchwil cyfredol ac archwilio'r posibiliadau a'r goblygiadau ar gyfer datblygu yn bersonol ac o fewn y proffesiwn yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn cael goruchwyliwr prifysgol a mentor lleoliad.
Content
Bydd y portffolio ymarfer proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o ymarfer mewn lleoliad blynyddoedd cynnar. Yn ystod eu lleoliad, bydd myfyrwyr yn cael cymorth ar-lein i ymdrin â'r pynciau canlynol:
1. Cysyniadau allweddol mewn dysgu seiliedig ar waith (darlith 2 awr)
2. Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a datblygiad proffesiynol (darlith 2 awr)
3. Gweithio gyda'ch mentor (2 awr)
4. Strwythuro'r portffolio (2 awr)
Yn ogystal, bydd gan bob myfyriwr oruchwyliwr dynodedig a mentor lleoliad a fydd yn monitro cynnydd y myfyriwr. Bydd disgwyl i'r myfyriwr e-bostio diweddariad o gynnydd i'r goruchwyliwr bob pythefnos. Bydd y goruchwyliwr yn cynnal dau ymweliad asesedig o'r lleoliad.
Drwy gydol blwyddyn 1 a semester 1 blwyddyn 2, cynhelir gweithdai gorfodol gyda myfyrwyr i roi manylion am drefnu lleoliadau, ymddygiad proffesiynol a phortffolios asesu.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Bydd y gallu i fyfyrio ar eich cynnydd eich hun a nodi a gweithredu ar eich anghenion datblygu eich hun yn hanfodol drwy gydol y modiwl hwn. |
| Co-ordinating with others | Tra byddant allan ar leoliad, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gydag eraill a myfyrio ar hyn yn eu portffolio. |
| Creative Problem Solving | Bydd angen i fyfyrwyr ddangos effeithlonrwydd wrth drefnu symiau mawr o wybodaeth gymhleth a'r gallu i nodi, disgrifio a dadansoddi nodweddion allweddol y wybodaeth. |
| Critical and analytical thinking | Bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau ymchwil er mwyn archwilio'r arferion y maent yn eu cynnwys yn y portffolio. |
| Digital capability | Bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio TGCh briodol drwy gydol eu portffolio, yn enwedig yn achos dadansoddi data os oes angen gwneud hynny. Efallai y bydd angen i fyfyrwyr weithio gyda neu gyflwyno data lle bo hynny'n briodol. |
| Professional communication | Bydd y gallu i gyfathrebu'n glir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn elfen hanfodol o'r portffolio. Bydd angen i fyfyrwyr ddatblygu dadl resymegol a chlir a dangos dawn ar gyfer defnyddio gwybodaeth yn effeithiol mewn ffordd uniongyrchol a phriodol. |
| Reflection | Bydd angen i fyfyrwyr fyfyrio'n barhaus ar eu hymarfer eu hunain ac ystyried eu datblygiad personol. |
| Subject Specific Skills | Bydd angen i fyfyrwyr ddangos y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn ymarfer proffesiynol. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
