Module Information

Cod y Modiwl
AD25860
Teitl y Modiwl
Lleoliad Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 2
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio  (sy'n cynnwys is-unedau asesedig a sesiynau a aseswyd). Rhaid ailwneud yr elfennau a fethwyd. 12000 o eiriau  100%
Asesiad Semester Portffolio  (sy'n cynnwys is-unedau asesedig a sesiynau a aseswyd) 12000 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Integreiddio safbwyntiau damcaniaethol wrth gyflwyno ymarfer proffesiynol.

2. Bodloni a dangos tystiolaeth o'r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar.

3. Ystyried a gwerthuso goblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer datblygiad personol yn y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i gymryd perchnogaeth o'u datblygiad personol, proffesiynol ac academaidd a defnyddio hyn i wella eu hymarfer. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gadw portffolio o dystiolaeth i ddangos eu gallu i fodloni'r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrio beirniadol mewn perthynas ag arfer cyfredol a rolau proffesiynol yn rhan annatod o'r portffolio. Anogir gwerthuso canfyddiadau ymchwil cyfredol ac archwilio'r posibiliadau a'r goblygiadau ar gyfer datblygu yn bersonol ac o fewn y proffesiwn yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn cael goruchwyliwr prifysgol a mentor lleoliad.

Cynnwys

Bydd y portffolio ymarfer proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o ymarfer mewn lleoliad blynyddoedd cynnar. Yn ystod eu lleoliad, bydd myfyrwyr yn cael cymorth ar-lein i ymdrin â'r pynciau canlynol:

1. Cysyniadau allweddol mewn dysgu seiliedig ar waith (darlith 2 awr)

2. Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a datblygiad proffesiynol (darlith 2 awr)

3. Gweithio gyda'ch mentor (2 awr)

4. Strwythuro'r portffolio (2 awr)

Yn ogystal, bydd gan bob myfyriwr oruchwyliwr dynodedig a mentor lleoliad a fydd yn monitro cynnydd y myfyriwr. Bydd disgwyl i'r myfyriwr e-bostio diweddariad o gynnydd i'r goruchwyliwr bob pythefnos. Bydd y goruchwyliwr yn cynnal dau ymweliad asesedig o'r lleoliad.

Drwy gydol blwyddyn 1 a semester 1 blwyddyn 2, cynhelir gweithdai gorfodol gyda myfyrwyr i roi manylion am drefnu lleoliadau, ymddygiad proffesiynol a phortffolios asesu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd y gallu i fyfyrio ar eich cynnydd eich hun a nodi a gweithredu ar eich anghenion datblygu eich hun yn hanfodol drwy gydol y modiwl hwn.
Cydlynu ag erail Tra byddant allan ar leoliad, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gydag eraill a myfyrio ar hyn yn eu portffolio.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd y gallu i gyfathrebu'n glir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn elfen hanfodol o'r portffolio. Bydd angen i fyfyrwyr ddatblygu dadl resymegol a chlir a dangos dawn ar gyfer defnyddio gwybodaeth yn effeithiol mewn ffordd uniongyrchol a phriodol.
Datrys Problemau Creadigol Bydd angen i fyfyrwyr ddangos effeithlonrwydd wrth drefnu symiau mawr o wybodaeth gymhleth a'r gallu i nodi, disgrifio a dadansoddi nodweddion allweddol y wybodaeth.
Gallu digidol Bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio TGCh briodol drwy gydol eu portffolio, yn enwedig yn achos dadansoddi data os oes angen gwneud hynny. Efallai y bydd angen i fyfyrwyr weithio gyda neu gyflwyno data lle bo hynny'n briodol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau ymchwil er mwyn archwilio'r arferion y maent yn eu cynnwys yn y portffolio.
Myfyrdod Bydd angen i fyfyrwyr fyfyrio'n barhaus ar eu hymarfer eu hunain ac ystyried eu datblygiad personol.
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd angen i fyfyrwyr ddangos y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn ymarfer proffesiynol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5