Asesu ac Addysg
- Module Identifier
- AD30120
- Module Title
- Asesu ac Addysg
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Rhodri Evans
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Stephen Atherton
- Dr Lucy Trotter
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Aseiniad: ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol 2000 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Arteffact/ Gem ac Amddiffyniad: Cynllunio a chynhyrchu gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol ac amddiffyniad - cyflwynir rhesymeg academaidd o'r dulliau 'asesu ar gyfer dysgu' a ddefnyddir. 500 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Aseiniad: ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Arteffact/ Gem ac Amddiffyniad: Cynllunio a chynhyrchu gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol ac amddiffyniad - cyflwynir rhesymeg academaidd o'r dulliau 'asesu ar gyfer dysgu' a ddefnyddir. 500 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Arddangos dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r gweithdrefnau technegol sydd ynghlwm wrth gynllunio asesiadau mewn cyd-destunau addysgol;
- Adolygu a thrafod yn feirniadol y prif bynciau i'r hystyried wrth gynllunio trefniadau asesu priodol.
- Arddangos dealltwriaeth o sut y mae arferion asesu yn rhyngweithio a dysgu myfyrwyr;
- Cynllunio a chynhyrchu gem `asesu ar gyfer dysgu;
- Cyflwyno amddiffyniad beirniadol o egwyddorion asesu ar gyfer dysgu a ddefnyddir yn y gem 'asesu ar gyfer dysgu'.
Brief description
Mae'r modiwl yn ceisio asesu'r hyn y mae myfyriwr yn ei ddysgu ac wrth wneud hynny yn codi'r cwestiynau, ‘pam?', 'er lles pwy?’, yn ogystal a ‘beth sydd i'w asesu?’. Mae'r modiwl hwn yn ymwneud a rol asesu mewn cyd-destun addysgol, yn amrywio o asesu dysgu yn yr ystafell ddosbarth anffurfiol i systemau asesu yn genedlaethol. Dadansoddir enghreifftiau o arferion asesu ym mhob cam addysg, o ysgolion cynradd i addysg uwch, gyda golwg ar ddeall posibiliadau a chyfyngiadau asesu mewn cyd-destun addysgol. Rhoddir pwyslais yn arbennig ar asesu ar gyfer egwyddorion ac arferion dysgu. O'r herwydd, rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr ddatblygu gemau rhyngweithiol, gyda golwg ar annog myfyrwyr i fyfyrio arnynt eu hunain a gwerthuso eu hunain.
Content
Bydd y modiwl yn ystyried y themau canlynol:
• cysyniadau allweddol wrth ddylunio asesu
• cynlluniau asesu, ystod a phwrpas
• materion allweddol megis dibynadwyedd,dilysrwydd,ffyddlondeb a datgeliad
• asesiadau cwricwlwm cenedlaethol
• asesiadau yn y Cwricwlwm i Gymru
• asesiadau ar gyfer dysgu; yr egwyddorion ac ymarfer
• ffurfiau an-addysgol o asesu
• asesu a lles
• asesu yn Addysg Uwch
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Amherthnasol. |
| Communication | Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r aseiniad ysgrifenedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar mewn seminarau a'u hasesu drwy'r amddiffyniad ar lafar o'r gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol. |
| Improving own Learning and Performance | Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr ddatblygu gemau rhyngweithiol sydd wedi eu hanelu at israddedigion yn y flwyddyn gyntaf, gyda golwg ar annog hunanfyfyrio a hunanwerthuso gan fyfyrwyr. |
| Information Technology | Trwy anogaeth i ddefnyddio cyfleusterau TG ar gyfer cyflwyno gwaith dosbarth a gwaith i'w asesu ac i gael mynediad i wybodaeth am y cwrs drwy Blackboard. Datblygir ac asesir y defnydd o TG o fewn i gyd-destun cynllunio'r gem ryngweithiol. |
| Personal Development and Career planning | Cyflwynir myfyrwyr i gysyniad asesu ar gyfer dysgu a byddant yn sylweddoli pwysigrwydd hunanfyfyrio a hunanwerthuso. |
| Problem solving | Bydd hyn yn hanfodol i gynllunio a chynhyrchu gem 'asesu ar gyfer dysgu' ryngweithiol. Bydd y modd y mae myfyrwyr yn datrys problemau yn rhan o'r asesu. |
| Research skills | Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil fel un o'r gofynion wrth baratoi ar gyfer gweithgareddau seminar. Asesir y sgil yma drwy aseiniadau ysgrifenedig a llafar. |
| Subject Specific Skills | Gofynnir i fyfyrwyr asesu cyflwyniadau llafar eu cymheiriaid. |
| Team work | Datblygir hyn drwy waith seminar ac asesu gan gymheiriaid. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
