Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar
- Module Identifier
- AD30320
- Module Title
- Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Mr Prysor Davies
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Aseiniad 1: 2000 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Aseiniad 2: Cynllun gwers a cyfiawnhad 1200 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Aseiniad atodol 1: Gosodir teitlau aseiniad newydd. 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Aseiniad atodol 2: Cynllun gwers a cyfiawnhad 1200 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o ddatblygiad mathemategol cynnar plant ifainc.
- Adolygu a thrafod yn feirniadol y cysyniadau, y dadleuon a'r egwyddorion ynghylch datblygiad mathemategol.
- Archwilio'r feirniadol y ffyrdd y mae plant ifainc yn dysgu mathemateg.
- Gwerthuso'r feirniadol effeithiau rhieni, athrawon a pholisiau'r llywodraeth ar ddatblygiad mathemategol cynnar.
- Arddangos ymgysylltu beirniadol a'r ffynonellau perthnasol.
Brief description
Mae addysg fathemategol plant ifanc yn ganolog i'w datblygiad diweddarach o'r pwnc. Gan archwilio amrywiaeth o faterion, gan gynnwys hyder a phryder mathemategol, bydd myfyrwyr yn deall yr arwyddocâd y gall profiadau mathemategol cynnar ei gael ar ddysgu mathemategol diweddarach plant. Fel rhan o'r modiwl, bydd myfyrwyr yn myfyrio'n feirniadol ar eu profiadau mathemategol eu hunain ac yn meddwl am yr effaith y gallai'r rhain fod wedi'u cael. Yn ogystal, bydd technegau addysgeg ar gyfer addysgu mathemateg effeithiol yn cael eu harchwilio, ynghyd ag ystyriaeth feirniadol o'r polisi a'r arweiniad diweddaraf ar ddysgu mathemategol.
Content
Bydd gweithdai a seminarau yn ymdrin â'r pynciau canlynol:
A ddylem ni ddysgu mathemateg?
Sut ddylem ni addysgu mathemateg?
Sut ddylem ni asesu mathemateg?
Pam mae mathemateg yn gallu ein gwneud yn bryderus?
Ble mae mathemateg o fewn y cwricwlwm?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mathemateg a rhifedd?
Sut ydym ni'n diwallu anghenion gwahanol ddisgyblion mewn mathemateg?
A ellir defnyddio pynciau eraill i ddysgu mathemateg?
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
| Communication | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. |
| Improving own Learning and Performance | Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad. |
| Information Technology | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd un o'r tasgau seminar yn gofyn am lunio cyflwyniad PowerPoint. |
| Personal Development and Career planning | Ni ddatblygir y rhain yn y modiwl hwn. |
| Problem solving | Elfen hanfodol o'r broses o asesu'n feirniadol. |
| Research skills | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar. |
| Team work | Mae gweithgareddau seminar yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tim, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
