Module Information

Cod y Modiwl
AD30830
Teitl y Modiwl
Dysgu ac Addysgu
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Gofynion mynediad TAR
Co-Requisite
ADM3460 Arbenigedd Cyfnod / Pwnc
Co-Requisite
AD30730 Ymarfer Proffesiynol
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio Dysgu ac Addysgu  sy'n gynnwys: • Cynllun (iau) Gwers (AD1, AD2, AD3) • Gwerthusiad(au) Gwers (AD1, AD2, AD3) • Adnoddau (AD1, AD2, AD3) • Sylwebaeth feirniadol (AD1, AD2, AD3, AD4, AD5) 3000 o eiriau  100%
Asesiad Semester Portffolio Dysgu ac Addysgu  sy'n gynnwys: • Cynllun (iau) Gwers (AD1, AD2, AD3) • Gwerthusiad(au) Gwers (AD1, AD2, AD3) • Adnoddau (AD1, AD2, AD3) • Sylwebaeth feirniadol (AD1, AD2, AD3, AD4, AD5) 3000 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Bydd myfyrwyr yn myfyrio'n feirniadol a chymhwyso damcaniaethau ac ymchwil am addysgeg, datblygiad dynol a dysgu a'u cymhwyso

Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o ddamcaniaeth ac egwyddorion cwricwlwm ynghyd ag ymrwymiad i, Cwricwlwm i Gymru.

Bydd myfyrwyr yn deall eu cyfrifoldeb dros gynllunio i ddiwallu anghenion pob dysgwr.

Bydd myfyrwyr yn deall y rôl ac yn cymhwyso'r egwyddorion asesu i alluogi cynnydd mewn dysgu.

Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau i fod yn ymarferwyr myfyriol, a hysbysir gan ymchwil.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddod yn arbenigwyr pwnc a chyfnod cymwys trwy ddatblygu eich dealltwriaeth o wybodaeth ddisgyblaethol i fodloni'r safonau proffesiynol. Byddwch yn dechrau datblygu eich cymhwysedd i ddylunio'r cwricwlwm ac ymgorffori sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsbynciol yn eich ymarfer. Byddwch yn archwilio ac yn gwerthuso ymchwil a theori sy'n berthnasol i'ch arbenigedd pwnc a'ch cyfnod. Byddwch yn dechrau deall natur amrywiol a newidiol poblogaeth yr ysgol ac yn datblygu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn eich ymarfer er mwyn creu ystafelloedd dosbarth cynhwysol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o ddamcaniaethau asesu.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddod yn arbenigwyr pwnc a chyfnod cymwys trwy ddatblygu eich dealltwriaeth o wybodaeth ddisgyblaethol i fodloni'r safonau proffesiynol. Byddwch yn dechrau datblygu eich cymhwysedd i ddylunio'r cwricwlwm ac ymgorffori sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsbynciol yn eich ymarfer. Byddwch yn archwilio ac yn gwerthuso ymchwil a theori sy'n berthnasol i'ch arbenigedd pwnc a'ch cyfnod. Byddwch yn dechrau deall natur amrywiol a newidiol poblogaeth yr ysgol ac yn datblygu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn eich ymarfer er mwyn creu ystafelloedd dosbarth cynhwysol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o ddamcaniaethau asesu.

Cynnwys

1. Damcaniaethau datblygiad plant o'r blynyddoedd cynnar hyd at oedolaeth; dad-drefedigaethu'r cwricwlwm mewn ymarfer.
2. Sgiliau trawsgwricwlaidd (llythrennedd a rhifedd); Egwyddorion Cynnydd.
3. Cynhwysiant a gwahaniaethu: deall ymddygiad; Deall dylanwadau a rhwystrau amrywiol ffactorau personol, cymdeithasol a diwylliannol ar ddysgwyr.
4. Sgiliau trawsgwricwlaidd (fframwaith cymhwysedd digidol); gwerthuso'r dysgu; defnyddio data a thu hwnt i lywio cynllunio a nodi cynnydd.
5. Amgylcheddau dysgu - rheoli a threfnu; Iechyd a lles.
6. Asesu ar gyfer dysgu; Cynllunio'r cwricwlwm.
7. Cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol; addysgeg gwrth-hiliol.
8. Myfyrio ar ymarfer a nodi targedau; Themâu trawsgwricwlaidd a rhyngddisgyblaethol / tasgau cynllunio cydweithredol.
9. Diwrnodau Partneriaeth: Myfyrio ar ymarfer; gwerthuso'r dysgu / asesu i lywio cynllunio; adrodd ar gynnydd; Gweithio ar y cyd e.e. gyda'r CADY; lles – athrawon.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Rhaid i fyfyrwyr addasu i dri lleoliad ysgol.
Cydlynu ag erail Bydd myfyrwyr yn dysgu gweithio gyda mentoriaid a chydweithwyr.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd myfyrwyr yn cyfathrebu â chydweithwyr, rhieni a gofalwyr.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn cynllunio gwersi ac adnoddau yn greadigol ar gyfer pob dysgwr yn eu gofal.
Gallu digidol Bydd myfyrwyr yn cynnwys y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn eu haddysgu.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu'n feirniadol ag ymchwil addysgol sy'n berthnasol i'w hymarfer.
Myfyrdod Bydd myfyrwyr yn dod yn ymarferwyr myfyriol.
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd myfyrwyr yn cymhwyso sgiliau a gwybodaeth yng nghyd-destun eu harbenigedd pwnc neu gyfnod.
Synnwyr byd go iawn Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â thri lleoliad mewn ysgolion.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6