Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol

Module Identifier
AD34820
Module Title
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Mrs Annabel Latham
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Lucy Trotter
Mr Prysor Davies
Dr Rosemary Cann

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 2400 o eiriau 60%
Semester Exam Poster (A3) ac amddiffyniad llafar (10 munud): 6 Hours 6 Awr 40%
Supplementary Assessment Poster (A3) ac amddiffyniad llafar (10 munud): 10 Munud 40%
Supplementary Assessment Traethawd: 2400 o eiriau 60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos dealltwriaeth feirniadol o brif egwyddorion datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a’u heffaith ar ddysgu.
  2. Deall y cysylltiad rhwng lles cymdeithasol ac emosiynol ac iechyd meddwl yn ystod plentyndod cynnar.
  3. Adnabod y dangosyddion allweddol ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a’u defnyddio i gefnogi dysgu, iechyd meddwl a lles plant yn y dyfodol.

Brief description

Mae ymchwil cynnyddol yn cydnabod y sylfaen hanfodol sy'n gysylltiedig â datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a sut mae profiadau plant yn y blynyddoedd cynnar yn llywio dysgu, datblygiad a chanlyniadau yn y dyfodol. Bydd amrywiaeth o benderfynyddion sy'n rhwystro datblygiad iach yn cael eu gwerthuso ar y cyd â dangosyddion allweddol o ddatblygiad hapus, iach. Mae angen i ymarferwyr allu cefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol plant a gweithredu dulliau addysgegol i adeiladu ac ymateb i gymdeithas amrywiol sy'n newid. Bydd meithrin sgiliau a chymwyseddau gydol oes wrth baratoi ar gyfer gwaith, ac i gryfhau gweithrediad cymdeithasol cadarnhaol yn cael sylw drwy archwilio tueddiadau a disgwyliadau cymdeithasol. Bydd polisïau cenedlaethol a rhyngwladol yn cael eu harchwilio a'u gwerthuso ochr yn ochr â theori ac ymarfer.

Content

Bydd y darlithoedd a’r seminarau yn seiliedig ar y pethau canlynol:

1. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol I
2. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol II
3. Iechyd Meddwl
4. Cerrig milltir, ffactorau risg a strategaethau
5. Canlyniadau Cadarnhaol a Safbwyntiau Rhyngwladol
6. Partneriaethau
7. Meithrin perthynas gadarnhaol
8. Yr amgylchedd
9. Asesu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol / Casglu data yn effeithiol
10. Monitro a gwerthuso darpariaeth

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Communication Mae technegau cyfathrebu yn hanfodol. Cyfathrebu llafar fel rhan o'r asesiad, ac o fewn gweithgareddau gweithdy a seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy asesiadau ysgrifenedig.
Improving own Learning and Performance Adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar
Information Technology Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud gwaith ymchwil.
Personal Development and Career planning Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu sgiliau a'u gwerthuso ac ystyried sut y gellir trosglwyddo sgiliau i amgylcheddau gwaith yn y byd go iawn.
Problem solving Elfen hanfodol o’r broses o asesu’n feirniadol
Research skills Mae angen ymchwil ar gyfer y prif asesiadau a bydd ei angen ar gyfer y tasgau seminar a gweithdy.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a’u hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol.
Team work Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a gweithdrefnau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgil bwysig a fydd yn cael ei ddatblygu drwyddi draw.

Notes

This module is at CQFW Level 6