Lleoliad Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 3

Module Identifier
AD35860
Module Title
Lleoliad Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 3
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Mr Berian Lewis
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Mrs Annabel Latham
Mr Prysor Davies
Dr Rosemary Cann

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Portffolio: (sy'n cynnwys is-unedau asesedig a sesiynau a aseswyd) 12000 o eiriau 100%
Supplementary Assessment Portffolio: (sy'n cynnwys is-unedau asesedig a sesiynau a aseswyd) Rhaid ailwneud yr elfennau a fethwyd.) 12000 o eiriau 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Integreiddio safbwyntiau damcaniaethol wrth gyflwyno ymarfer proffesiynol, gan gynnwys sgiliau arwain.
  2. 2. Bodloni a dangos tystiolaeth o'r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar (mae'r SGC ar gyfer yr Amcanion Dysgu yma yn fwy datblygedig na'r rhai a aseswyd ym mlwyddyn 2 gan ganolbwyntio ar rinweddau arwain).
  3. 3. Ystyried a gwerthuso goblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer datblygu yn bersonol ac o fewn y proffesiwn yn y dyfodol.

Brief description

Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i gymryd perchnogaeth o'u datblygiad personol, proffesiynol ac academaidd a defnyddio hyn i wella eu hymarfer. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gadw portffolio o dystiolaeth i ddangos eu gallu i fodloni'r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrio beirniadol mewn perthynas ag arfer cyfredol a rolau proffesiynol yn rhan annatod o'r portffolio. Anogir gwerthuso canfyddiadau ymchwil cyfredol ac archwilio'r posibiliadau a'r goblygiadau ar gyfer datblygu yn bersonol ac o fewn y proffesiwn yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn cael goruchwyliwr prifysgol a mentor lleoliad.

Content

Cysyniadau allweddol mewn dysgu seiliedig ar waith (gweithdy 2 awr)
Gweithdy Ymholiadau Proffesiynol (2 awr)
Arweinyddiaeth mewn Ymarfer (2 awr)
Strwythuro'r portffolio (2 awr)

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Bydd y gallu i fyfyrio ar eich cynnydd eich hun a nodi a gweithredu ar eich anghenion datblygu eich hun yn hanfodol drwy gydol y modiwl hwn.
Co-ordinating with others Tra byddant allan ar leoliad, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gydag eraill a myfyrio ar hyn yn eu portffolio.
Creative Problem Solving Bydd angen i fyfyrwyr ddangos effeithlonrwydd wrth drefnu symiau mawr o wybodaeth gymhleth a'r gallu i nodi, disgrifio a dadansoddi nodweddion allweddol y wybodaeth.
Critical and analytical thinking Bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau ymchwil er mwyn archwilio'r arferion y maent yn eu cynnwys yn y portffolio.
Digital capability Bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio TGCh briodol drwy gydol eu portffolio, yn enwedig yn achos dadansoddi data. Bydd angen i fyfyrwyr weithio gyda neu gyflwyno data lle bo hynny'n briodol.
Professional communication Bydd y gallu i gyfathrebu'n glir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn elfen hanfodol o'r portffolio. Bydd angen i fyfyrwyr ddatblygu dadl resymegol a chlir a dangos dawn ar gyfer defnyddio gwybodaeth yn effeithiol mewn ffordd uniongyrchol a phriodol.
Real world sense Cynllunio Gyrfa a Datblygiad Proffesiynol: Mae ymholiad proffesiynol i ymagweddau pedagogaidd i wella ymarfer yn gofyn am allu i addasu a hyblygrwydd o fewn amgylcheddau sy'n benodol i gyd-destun. Mae ymchwil annibynnol, rheoli amser, hunan-gyfrifoldeb a hunanfyfyrio yn cael eu datblygu ac yn cefnogi dilyniant gyrfa ac astudiaethau ôl-raddedig.
Reflection Bydd angen i fyfyrwyr fyfyrio'n barhaus ar eu hymarfer eu hunain ac ystyried eu datblygiad personol.
Subject Specific Skills Bydd angen i fyfyrwyr ddangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer gweithio mewn practis proffesiynolSgiliau Arweinyddiaeth: Cymhwyso theori i ymarfer

Notes

This module is at CQFW Level 6