Addysgeg ac Ymarfer
- Module Identifier
- ADM2020
- Module Title
- Addysgeg ac Ymarfer
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Lucy Trotter
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Mr Prysor Davies
- Dr Megan Hicks
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Myfyrdod a chyflwyniad strwythuredig: 4000 Words | 100% |
| Supplementary Assessment | Myfyrdod a chyflwyniad strwythuredig: 4000 Words | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Archwilio’n feirniadol addysgu effeithiol a chysyniadau, modelau a damcaniaethau addysgeg allweddol.
- Arfarnu’n feirniadol wybodaeth addysgeg gyfoes a damcaniaethau dysgu allweddol.
- Gwerthuso, dethol a chymhwyso strategaethau dysgu ac addysgu priodol i sefyllfaoedd dysgu penodol.
- Dehongli a gweithredu ar amrywiaeth o ddata ynglŷn â dysgu a dysgwyr.
- Myfyrio ar eu harferion addysgeg eu hunain a’r cyfleoedd addysgu yn y dyfodol yn eu cyd-destun proffesiynol eu hunain.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar archwilio’n feirniadol addysgu effeithiol a bydd yn archwilio cysyniadau, modelau a damcaniaethau addysgeg allweddol. Bydd y modiwl yn cynnig gwybodaeth addysgeg gyfoes a bydd yn cysylltu damcaniaethau dysgu allweddol ag ymarferion proffesiynol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i werthuso, dethol a chymhwyso’r strategaethau dysgu ac addysgu priodol i sefyllfaoedd dysgu penodol. Bydd yn rhoi’r sgiliau iddynt ddadansoddi a dehongli amrywiaeth o ddata ynghylch dysgu a dysgwyr. Bydd y modiwl yn cefnogi cyfranogwyr i fyfyrio’n bwrpasol ar eu harferion addysgeg eu hunain a’r cyfleoedd addysgu yn eu cyd-destunau proffesiynol yn y dyfodol.
Aims
1. Galluogi myfyrwyr i ddadansoddi a gwerthuso eu harferion addysgeg eu hunain a’u sgiliau proffesiynol ehangach.
2. Adolygu’n feirniadol dystiolaeth ymchwil ynghylch athroniaethau, damcaniaethau allweddol, modelau ymarfer fel y maent yn berthnasol i addysgeg.
3. Archwilio’r berthynas rhwng theori, polisi ac ymarfer mewn cysylltiad ag arfer proffesiynol ac addysgeg.
4. Hybu datblygiad o’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau addysgeg sy’n addas ar gyfer eu cyd-destunau eu hunain.
5. Galluogi myfyrwyr i fyfyrio’n feirniadol ar strategaethau addysgeg allweddol a fydd yn llywio eu harferion addysgeg a’u cyfleoedd addysgu eu hunain yn y dyfodol yn eu cyd-destun proffesiynol.
Content
* Archwilio’r term ‘addysgeg’ a sut y caiff ei ddeall yn rhyngwladol.
* Polisi, ymchwil a theori gyfredol sy’n sylfaen i addysgeg ac arferion proffesiynol.
* Cymhwyso strategaethau addysgeg gwahanol i ysgogi a chymell dysgwyr amrywiol.
* Archwilio effaith yr amgylchedd dysgu ar ymarfer cynhwysol yn yr ystafell ddosbarth o ran cefnogi dysg a chymhelliant myfyrwyr.
* Y ffactorau sy’n effeithio ar ymgysylltiad dysgwyr a chyrhaeddiad dysgwyr mewn llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol, Cymraeg a’r sgiliau ehangach.
* Integreiddio technolegau newydd er mwyn trawsnewid addysgeg a phrofiadau dysgwyr
* Dulliau newydd o asesu, gwerthuso, a chynllunio’r cwricwlwm ac arferion addysgeg.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl. |
| Creative Problem Solving | Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol. |
| Critical and analytical thinking | Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd. |
| Professional communication | Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol. |
| Real world sense | Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol |
| Subject Specific Skills | Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
