Ymarfer wedi'i Lywio gan Dystiolaeth
- Module Identifier
- ADM2120
- Module Title
- Ymarfer wedi'i Lywio gan Dystiolaeth
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Lucy Trotter
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Mr Prysor Davies
- Dr Megan Hicks
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd: 4000 Words | 100% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 4000 Words | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Gwerthuso’r gwahanol ffyrdd o gyflwyno a chyhoeddi tystiolaeth.
- Dadansoddi a chyfosod tystiolaeth empirig berthnasol, gan gynnwys llenyddiaeth ryngwladol a dogfennau polisi.
- Archwilio sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn llywio ymddygiad ac ymarfer proffesiynol.
- Dadansoddi’r gwahanol ffyrdd o gynhyrchu, defnyddio ac archwilio tystiolaeth mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysg.
- Archwilio a dehongli tystiolaeth ryngwladol mewn ffyrdd ystyrlon a moesegol.
- Gwerthuso’n feirniadol y ffyrdd y gall defnydd tystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol.
- Arfarnu’n feirniadol sut y gall tystiolaeth lywio a newid arfer proffesiynol.
Brief description
Bydd y modiwl hwn yn archwilio’r gwahanol ffyrdd y caiff tystiolaeth ei chyflwyno a’i chyhoeddi a bydd yn edrych ar sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn llywio ymddygiad ac ymarfer proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried y gwahanol ffyrdd y caiff tystiolaeth ei chynhyrchu, ei defnyddio a’i harchwilio mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysgol. Bydd yn edrych ar sut y gall gweithwyr addysg proffesiynol gael gafael ar dystiolaeth ryngwladol a’i dehongli a sut y gallant ymgysylltu’n ystyrlon ac yn foesegol â gwahanol fathau o dystiolaeth. Bydd y modiwl yn archwilio’r ffyrdd y gall y defnydd o dystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol. Bydd yn archwilio sut y gall tystiolaeth lywio ymarfer a chynorthwyo gweithwyr proffesiynol i fyfyrio ar eu hymarfer.
Aims
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol y swyddogaeth y mae tystiolaeth yn ei chwarae mewn ymarfer proffesiynol, o ran llywio arfarniadau proffesiynol, cefnogi arfer myfyriol a chynnal arloesed a newid. Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddangos cymhwysiad beirniadol ac arfarniad beirniadol o wahanol fathau o dystiolaeth.
Content
1. Sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn cael eu llunio, eu cyflwyno a’u cyhoeddi.
2. Ymgysylltu â gwahanol fathau o dystiolaeth empirig, gan gynnwys llenyddiaeth ryngwladol a dogfennau polisi.
3. Archwilio newidiadau mewn ymddygiad ac ymarfer proffesiynol.
4. Arfarniad beirniadol o sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn effeithio ar wybodaeth ac ymarfer proffesiynol
5. Archwilio a dehongli tystiolaeth ryngwladol mewn ffyrdd ystyrlon a moesegol.
6. Sut y gall tystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol.
7. Llywio a newid ymarfer proffesiynol.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl. |
| Creative Problem Solving | Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol. |
| Critical and analytical thinking | Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd. |
| Professional communication | Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol. |
| Real world sense | Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol |
| Subject Specific Skills | Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
