Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol

Module Identifier
ADM2220
Module Title
Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester S
Co-ordinator
Dr Lucy Trotter
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Mr Prysor Davies
Dr Megan Hicks
Dr Rosemary Cann

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Poster academaidd wedi'i anodi.: 4000 Words 100%
Supplementary Assessment Poster academaidd wedi'i anodi.: 4000 Words 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Adnabod ac amddiffyn gwerth cydweithredu â chydweithwyr, dysgwyr, rhieni a rhanddeiliaid eraill er mwyn datblygu dysgu’r holl bobl ifanc.
  2. Arfer eu cyfrifoldebau cytundebol, bugeiliol, cyfreithiol a phroffesiynol er mwyn diwallu anghenion pob dysgwr a sicrhau ei fod yn cyflawni ei botensial mwyaf.
  3. Rheoli eu lles eu hunain yn ogystal â datblygu eu gallu i gyfrannu at les ac amddiffyn y dysgwyr yn eu gofal.
  4. Dadansoddi a gwerthuso’n feirniadol eu gwerthoedd a’u credoau eu hunain ynglŷn â dysgu ac addysgu er mwyn datblygu’n ymarferydd myfyriol.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyfleoedd a phwrpas ymgysylltu cydweithredol mewn ymarfer proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried y dystiolaeth ryngwladol o ran gwahanol fathau o gydweithredu proffesiynol a'i effaith ar ddysgwyr. Bydd y modiwl yn ategu pwysigrwydd creu amgylcheddau dysgu effeithiol lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu datblygu i'w botensial llawn. Bydd y model yn annog myfyrwyr i fyfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer proffesiynol ac i nodi strategaethau effeithiol sy'n cefnogi lles, diogelu ac anghenion ehangach eu dysgwyr. Bydd y modiwl yn ystyried materion cynwysoldeb, tegwch a lles myfyrwyr a sut y gellir manteisio i'r eithaf ar y rhain drwy ddulliau ymarfer proffesiynol cydweithredol.

Aims

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o werth a phwrpas gweithwyr proffesiynol yn cydweithredu i godi safonau ar gyfer pob myfyriwr. Mae'n canolbwyntio ar gyfleoedd a phwrpasau ymgysylltu cydweithredol mewn ymarfer proffesiynol ac yn ystyried y dystiolaeth ryngwladol ynghylch gwahanol fathau o gydweithredu proffesiynol a'r effaith ganlyniadol ar ddysgwyr. Nod y modiwl yw cydgrynhoi sut y mae modd manteisio i'r eithaf ar faterion cynwysoldeb, tegwch a lles myfyrwyr drwy ddulliau cydweithredol o ymarfer proffesiynol.

Content

* Sefydlu a gwerthuso mathau o gydweithredu a dysgu mewn tîm gyda'r nod o gefnogi dysgu, gwybodaeth a phroffesiynoldeb.

* Ymgysylltu ag egwyddorion gwella a’u gwerthuso er mwyn datblygu ysgol a phroffesiynol parhaus.

* Casglu tystiolaeth a defnyddio data i ddatblygu a llywio ymarfer proffesiynol i godi safonau.

* Effaith cydweithredu rhyngbroffesiynol /dysgu mewn tîm a rhwydweithiau i ymateb i heriau a chyfleoedd sydd â'r nod o wella dysgu ac addysgu.

* Ymarferion proffesiynol sy'n mynd i'r afael â lles a chyfrifoldebau diogelu dysgwyr a staff fel ei gilydd.

* Sgiliau ymarfer myfyrio’n feirniadol i werthuso gwerthoedd, credoau a thybiaethau y myfyrwyr eu hunain ynghylch gwella arfer yn yr ystafell ddosbarth.

* Yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth feirniadol i ddatblygu dulliau cynhwysol o ddysgu ac addysgu.

* Datblygu strategaethau i ddiwallu anghenion pob dysgwr a darparu rhwydweithiau cefnogi effeithiol mewn system sy'n hunanwella.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Creative Problem Solving Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Critical and analytical thinking Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Professional communication Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Real world sense Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol
Subject Specific Skills Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.

Notes

This module is at CQFW Level 7