Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles

Module Identifier
ADM2320
Module Title
Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Mrs Annabel Latham
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Mr Prysor Davies
Dr Megan Hicks
Dr Rosemary Cann

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyflwyniad; Sylwebaeth ddadansoddol i gefnogi’r cyflwyniad,: 1. Cyflwyniad i weithwyr addysg proffesiynol yng nghyd-destun y myfyriwr ei hun, sy’n canolbwyntio ar gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddwl. 2. Sylwebaeth ddadansoddol i gefnogi’r cyflwyniad, gan ei seilio ar ffynonellau damcaniaethol perthnasol, tystiolaeth ymchwil a dogfennau polisi. 4000 Words 100%
Supplementary Assessment Cyflwyniad; Sylwebaeth ddadansoddol i gefnogi’r cyflwyniad,: 1. Cyflwyniad i weithwyr addysg proffesiynol yng nghyd-destun y myfyriwr ei hun, sy’n canolbwyntio ar gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddwl. 2. Sylwebaeth ddadansoddol i gefnogi’r cyflwyniad, gan ei seilio ar ffynonellau damcaniaethol perthnasol, tystiolaeth ymchwil a dogfennau polisi. 4000 Words 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Gwerthuso’n feirniadol amrywiaeth o ddamcaniaethau sy’n ymwneud â materion lles mewn addysg a’r gydberthynas sy’n effeithio’n negyddol ar les plant.
  2. Archwilio’n feirniadol ddeddfwriaeth, polisi ac arfer presennol sy’n ymwneud â modelau iechyd a lles, hapusrwydd, cadernid a hawliau plant, a’r dystiolaeth ymchwil sy’n eu cefnogi, gan ddefnyddio modelau rhyngwladol a ddewiswyd i gymharu a rhoi cyd-destun.
  3. Archwilio’n feirniadol yr ymchwil rhyngwladol ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles i gael persbectifau lluosog.
  4. Gwerthuso’n feirniadol amryw o ymyriadau cynnar mewn cysylltiad â hyrwyddo ac amddiffyn iechyd meddwl a lles plentyn/person ifanc, wrth asesu hefyd y dystiolaeth sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd ystod o gamau atal.
  5. Gwerthuso’n feirniadol a chymhwyso (pan fo’n briodol) eu gwybodaeth am ddamcaniaethau a thystiolaeth ryngwladol (sy’n ymwneud ag iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles) i’w cyd-destun personol /proffesiynol.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles mewn lleoliadau addysgol. Bydd yn archwilio’n feirniadol yr ymchwil rhyngwladol ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles er mwyn archwilio’r sylfaen dystiolaeth o sawl safbwynt ac o wahanol gyd-destunau. Bydd myfyrwyr yn archwilio ffactorau sy’n effeithio ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles, a byddant yn gwerthuso’n feirniadol ystod o ymyriadau cynnar mewn cysylltiad â hyrwyddo ac amddiffyn iechyd meddwl a lles plant / pobl ifanc, wrth archwilio hefyd y dystiolaeth ryngwladol o effeithiolrwydd ystod o fesurau ataliol. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso (pan fo’n briodol) eu gwybodaeth am ddamcaniaethau ac ymchwil sy’n ymwneud ag iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles i’w cyd-destunau personol/proffesiynol.

Aims

Nod y modiwl hwn yw archwilio’n feirniadol yr ymchwil rhyngwladol ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles er mwyn archwilio’r sylfaen dystiolaeth hon o sawl safbwynt ac o wahanol gyd-destunau. Nod y modiwl yw ymestyn a dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr, ond bydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr arfarnu gwahanol ddulliau o ymdrin ag iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles a allai fod yn berthnasol i’w cyd-destun neu leoliad proffesiynol.

Content

* Y polisïau a’r confensiynau cenedlaethol a rhyngwladol allweddol sy’n cefnogi hawliau a lles plant a phobl ifanc.

* Y materion emosiynol a lles allweddol i blant a phobl ifanc a’r ymchwil rhyngwladol sy’n ymwneud â nhw.

* Y ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles emosiynol a meddwl.

* Swyddogaeth y gweithiwr addysg proffesiynol o ran gwella iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles, a sut y gellir cymhwyso hyn yng nghyd-destun y myfyriwr ei hun.

* Ymyriadau a phrosesau mewn ysgolion, a’r partneriaethau cydweithredol ehangach, a ddefnyddir i gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddwl.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Creative Problem Solving Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Critical and analytical thinking Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Professional communication Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Real world sense Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol
Subject Specific Skills Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.

Notes

This module is at CQFW Level 7