Archwilio Addysgeg
- Module Identifier
- ADM2420
- Module Title
- Archwilio Addysgeg
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Mr Prysor Davies
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Mr Prysor Davies
- Dr Megan Hicks
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Myfyrdod beirniadol: Myfyrio’n feirniadol ar weithredu ymyriad addysgu arloesol a’r myfyrwyr i ddangos tystiolaeth o effeithiolrwydd /effaith 4000 Words | 100% |
| Supplementary Assessment | Myfyrdod beirniadol: Myfyrio’n feirniadol ar weithredu ymyriad addysgu arloesol a’r myfyrwyr i ddangos tystiolaeth o effeithiolrwydd /effaith 4000 Words | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Archwilio safbwyntiau a dadleuon rhyngwladol amrywiol ynghylch yr egwyddorion addysgegol allweddol sy’n sylfaen i ddysgu ac addysgu effeithiol ar draws gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysgol.
- Gwerthuso’n feirniadol ddamcaniaethau dysgu er mwyn llywio ymarferion addysgegol a gwerthuso’r rhai sydd fwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni ystod eang o ddeilliannau dysgwyr.
- Ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso, pan fo’n briodol, eu gwybodaeth am theori ac ymchwil addysgegol i’w lleoliadau a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain.
- Asesu’n feirniadol y datblygiadau ymchwil rhyngwladol mawr ym meysydd dysgu ac addysgeg er mwyn llywio eu hymarfer proffesiynol
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn archwilio safbwyntiau a dadleuon rhyngwladol amrywiol ynghylch yr egwyddorion addysgegol sy’n sylfaen i ddysgu ac addysgu effeithiol mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysg. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso’n feirniadol ddamcaniaethau dysgu a byddant yn archwilio’r dulliau addysgegol yr ystyrir eu bod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni ystod eang o ddeilliannau dysgwyr. Cynlluniwyd y modiwl i alluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso’u gwybodaeth am theori ac ymchwil addysgegol i’w lleoliadau a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dulliau egwyddorol a gwybodus o ran ymarfer addysgegol ac yn cefnogi eu hymholiad i wahanol fathau o ymarfer addysgegol.
Aims
1. Archwilio safbwyntiau a dadleuon rhyngwladol amrywiol ynghylch yr egwyddorion addysgegol allweddol sy’n sylfaen i ddysgu ac addysgu effeithiol ar draws gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysgol.
2. Gwerthuso’n feirniadol ddamcaniaethau dysgu er mwyn llywio ymarferion addysgegol a gwerthuso’r rhai sydd fwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni ystod eang o ddeilliannau dysgwyr.
3. Galluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso, pan fo’n briodol, eu gwybodaeth am theori ac ymchwil addysgegol i’w lleoliadau a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain.
4. Annog myfyrwyr i asesu’n feirniadol y datblygiadau ymchwil rhyngwladol mawr ym meysydd dysgu ac addysgeg er mwyn llywio eu hymarfer proffesiynol
Content
* Dadleuon rhyngwladol ynghylch yr egwyddorion addysgegol allweddol sy’n sylfaen i ddysgu ac addysgu effeithiol mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysg.
* Damcaniaethau dysgu sy’n llywio ymarferion addysgegol a safbwyntiau cyfoes ynghylch damcaniaeth dysgu.
* Theori ac ymchwil addysgegol mewn lleoliadau a chyd-destunau proffesiynol.
* Datblygiadau ymchwil rhyngwladol ym meysydd dysgu ac addysgeg
* Diffiniadau o addysgeg; ystyried addysgeg sy’n berthnasol i bwnc/maes a’r berthynas rhwng addysgeg benodol a chyffredinol.
* Ymgysylltu â llenyddiaeth ryngwladol ynghylch gwybodaeth bynciol a Gwybodaeth Cynnwys Addysgegol ar gyfer dysgu ac addysgu ar wahanol lefelau a gyda grwpiau penodol o ddysgwyr.
* Ystyried swyddogaeth addysgeg Gymraeg ar draws y cwricwlwm ac ar draws y continwwm dysgu cyfan.
* Addysgeg ymarfer a rennir; dulliau ysgol gyfan o wella dysgu ac addysgu.
* Systemau olrhain a monitro, gan gynnwys gwerthuso cynnydd y dysgwyr, ystyried rhwystrau posibl i ddysgu gan gynnwys effeithiau lles personol a chymdeithasol; rhywedd; cydnabod grwpiau o blant sy’n agored i niwed; archwilio ymarferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n ymwneud â thlodi a chyrhaeddiad.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl. |
| Creative Problem Solving | Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol. |
| Critical and analytical thinking | Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd. |
| Professional communication | Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol. |
| Real world sense | Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol |
| Subject Specific Skills | Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
