Arwain a Rheoli gweithwyr addysg proffesiynol

Module Identifier
ADM2620
Module Title
Arwain a Rheoli gweithwyr addysg proffesiynol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester S
Co-ordinator
Mr Berian Lewis
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Mr Prysor Davies
Dr Megan Hicks
Dr Rosemary Cann

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Ymateb adfyfyriol, academaidd: 4000 Words 100%
Supplementary Assessment Ymateb adfyfyriol, academaidd: 4000 Words 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Nodi’r modelau, y dulliau a’r arferion sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol.
  2. Gwerthuso damcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a gwasgaredig a sut y maent yn sail i arwain dysgu proffesiynol yn effeithiol.
  3. Gwerthuso’n feirniadol yr arferion sy’n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol yn effeithiol mewn gwahanol leoliadau addysg.
  4. Gwerthuso’n feirniadol y dystiolaeth ryngwladol sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth system, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth ar y cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol.
  5. Archwilio’n feirniadol y berthynas rhwng gofynion polisi lleol/cenedlaethol a’r arfer o arwain a rheoli eraill.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y modelau, y dulliau a'r arferion sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol yn effeithiol. Mae'n archwilio'r arferion sy'n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol, mewn gwahanol leoliadau addysg, drwy dynnu'n benodol ar y sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth system, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth ar y cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried damcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a gwasgaredig mewn cysylltiad ag arwain a rheoli gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd hefyd yn ystyried y berthynas rhwng gofynion polisi lleol a chenedlaethol a'r arfer o arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol, yn enwedig o ran gwireddu arweinyddiaeth systemau mewn gwahanol wledydd a chyd-destunau.

Aims

Archwilio'r modelau, y dulliau a'r arferion sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol.

Gwerthuso'r arferion sy'n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr proffesiynol yn effeithiol mewn gwahanol leoliadau addysg.

Archwilio'r seiliau tystiolaeth rhyngwladol sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth system, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth ar y cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol.

Archwilio'r berthynas rhwng gofynion polisi lleol a chenedlaethol a'r arfer o arwain a rheoli eraill.

Content

Bydd cynnwys y modiwl yn ymdrin â'r dulliau a'r arferion sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau. Bydd yn canolbwyntio ar yr arferion sy'n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol yn effeithiol mewn gwahanol leoliadau addysg. Bydd y modiwl yn archwilio damcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a gwasgaredig ac yn archwilio sut y maent yn sail i arwain dysgu proffesiynol yn effeithiol. Bydd y modiwl yn ymdrin â'r sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth system, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth ar y cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol. Bydd y modiwl yn canolbwyntio'n benodol ar ddamcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a gwasgaredig i archwilio ffyrdd o arwain a rheoli eraill yn gynhyrchiol ac yn effeithiol. Bydd y model hefyd yn edrych ar y dylanwadau polisi ehangach ar y rhai sy'n arwain ac yn rheoli eraill mewn gwahanol leoliadau addysg drwy ystyried pethau o safbwynt beirniadol a chymharol.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Creative Problem Solving Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Critical and analytical thinking Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Professional communication Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Real world sense Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol
Subject Specific Skills Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.

Notes

This module is at CQFW Level 7