Tegwch ac Amrywiaeth
- Module Identifier
- ADM2720
- Module Title
- Tegwch ac Amrywiaeth
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Lucy Trotter
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Panna Lloyd-Karlinger
- Dr Lucy Trotter
- Mr Prysor Davies
- Dr Megan Hicks
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd: 4000 Words | 100% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 4000 Words | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Archwilio a dadansoddi’r diffiniadau a wrthwynebir ar gyfer anghydraddoldeb, annhegwch ac amrywiaeth.
- Archwilio’n feirniadol sut y caiff anghydraddoldeb cymdeithasol ei (at)gynhyrchu mewn cymdeithas a swyddogaeth addysg yn yr atgynhyrchu hwnnw.
- Dadansoddi damcaniaethau rhagfarn a gwahaniaethu ac archwilio cymhwysiad y damcaniaethau hyn mewn lleoliadau addysg.
- Archwilio’n feirniadol heriau rhagfarn a gwahaniaethu mewn amryw o leoliadau addysg ac atebion posibl iddynt.
Brief description
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o degwch, amrywiaeth ac effaith anghydraddoldeb ar ddeilliannau a phrofiadau addysgol. Bydd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin dealltwriaeth uwch yn seiliedig ar dystiolaeth o ddimensiynau amrywiaeth yng nghymdeithas gyfoes Cymru ac ar draws cyd-destunau a lleoliadau rhyngwladol. Bydd y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn feirniadol am y mathau o anghydraddoldeb sydd o fewn addysg gyfoes a chymryd rhan mewn dadleuon a wrthwynebir ynghylch sut y mae systemau addysg yn nodi anghydraddoldeb ac yn defnyddio strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr fyfyrio’n feirniadol ar ddadleuon ynglŷn â swyddogaeth y system addysg wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac annhegwch.
Aims
1. Datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o degwch, amrywiaeth ac effaith anghydraddoldeb ar ddeilliannau a phrofiadau addysgol.
2. Datblygu dealltwriaeth feirniadol o’r dulliau sy’n tanategu anghydraddoldeb, ystrydebu, rhagfarn a gwahaniaethu.
3. Gwella dealltwriaeth o sut i nodi anghydraddoldeb, rhagfarn a gwahaniaethu mewn lleoliadau addysgol ac ystyried strategaethau i’w lleihau neu eu lliniaru.
4. Ystyried y sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb ac annhegwch mewn addysg.
Content
* Damcaniaethau Amrywiaeth a Chydraddoldeb.
* Fframweithiau damcaniaethol Cymdeithasegol a Seicolegol mewn cysylltiad ag Amrywiaeth a Chydraddoldeb.
* Dimensiynau Cydraddoldeb ac Anghydraddoldeb Addysgol mewn Addysg Gyfoes.
* Tlodi, Amddifadedd a Chydraddoldeb Addysgol.
* Rhywedd, Cydraddoldeb, Tegwch ac Addysg.
* Cydraddoldeb, Iaith, Hawliau ac Addysg – ymgysylltu’n feirniadol â thystiolaeth, polisi ac arfer mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a datblygiad y Gymraeg mewn cyd-destunau cyfrwng Saesneg, yn ogystal ag ystyried Cymraeg a Saesneg fel Ieithoedd Ychwanegol (EWAL).
* Teuluoedd, Addysg a Chydraddoldeb.
* Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Cwricwlwm.
* Deddfwriaeth a Pholisi Cydraddoldeb yng Nghymru.
* Cymhwysedd Rhyngddiwylliannol a Goddefgarwch.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl. |
| Creative Problem Solving | Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol. |
| Critical and analytical thinking | Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd. |
| Professional communication | Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol. |
| Real world sense | Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol |
| Subject Specific Skills | Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
