Cynllunio a Gwireddu Cwricwlwm

Module Identifier
ADM2820
Module Title
Cynllunio a Gwireddu Cwricwlwm
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Mr Prysor Davies
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Megan Hicks
Mr Prysor Davies
Dr Rosemary Cann

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Portffolio: 4000 Words 100%
Supplementary Assessment Portffolio: 4000 Words 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dadansoddi a gwerthuso gwahanol ddulliau o gynllunio’r cwricwlwm mewn cysylltiad â dysgu, addysgu ac arwain.
  2. Ymgysylltu’n feirniadol ag athroniaeth, rhaglenni a pholisïau datblygu cwricwlwm mewn awdurdodaethau rhyngwladol eraill.
  3. Dadansoddi’n feirniadol strategaethau newid mewn cysylltiad â gwireddu a gweithredu cwricwlwm.
  4. Gwerthuso gwahanol ddulliau o gynllunio cwricwlwm ac arfarnu’n feirniadol yr amryw o brosesau gweithredu sy’n cyd-fynd â newid cwricwlwm mewn sefydliadau a systemau addysg.

Brief description

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i alluogi myfyrwyr i ymgysylltu’n ddwfn â’r cysyniadau a’r ymchwil rhyngwladol sydd wedi hysbysu datblygiad diweddar y cwricwlwm yng Nghymru. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ystyried trefniadau cynllunio a gwireddu cwricwlwm mewn gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys eu rhai eu hunain. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i werthuso gwahanol ddulliau o gynllunio cwricwlwm ac i werthuso’n feirniadol y prosesau gweithredu amrywiol sy’n cyd-fynd â newid cwricwlwm o fewn sefydliadau a systemau addysg.

Aims

Mae’r modiwl yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ddiben ac egwyddorion cynllun cwricwlwm o ran dysgu, addysgu ac arwain effeithiol ar bob lefel. Nod y modiwl yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ymhlith myfyrwyr o’r strategaethau sydd eu hangen i newid a gweithredu cwricwlwm, er enghraifft, pwrpas sybsidiaredd. Bydd y modiwl hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i gymhwyso’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddatblygiad cwricwlwm i’w cyd-destun eu hunain ac i gymharu hwn â threfniadau chynllunio a gwireddu cwricwlwm mewn lleoliadau eraill.

Content

* Archwilio gwahanol fodelau theori a chynllunio cwricwlwm gan gynnwys cwricwla wedi’u llywio gan ddiben.

* Cymariaethau rhyngwladol o fodelau cwricwlwm gan gynnwys Seland Newydd, Norwy, Singapôr, Canada a’r Iseldiroedd a’u goblygiadau i gyd-destun Cymru;

* Ymgysylltu’n feirniadol â’r gyfundrefn asesu flaenorol yng Nghymru, ei anawsterau a sut y bydd dulliau newydd yn effeithio ar arfer proffesiynol;

* Ymgysylltu ag egwyddorion cynnydd a’r berthynas rhwng cwricwlwm lefel ysgol a chynnydd dysgwyr dros amser;

* Ymgysylltu â modelau datblygu a chynllunio iteraidd, gan gynnwys ymgysylltu â llais y dysgwr;

* Ystyried yn feirniadol ddatblygiad y cwricwlwm a chyfrwng addysgu, gyda phwyslais yn benodol i gontinwwm a dulliau priodol o ddatblygu'r Gymraeg drwy gyflwyno'r cwricwlwm;

* Ymgysylltu’n feirniadol â’r dadleuon rhyngwladol ynglŷn â swyddogaeth a dewis gwybodaeth a chynnwys cwricwlwm.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Creative Problem Solving Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Critical and analytical thinking Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Professional communication Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Real world sense Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol
Subject Specific Skills Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.

Notes

This module is at CQFW Level 7