Arwain Newid Sefydliadol

Module Identifier
ADM3020
Module Title
Arwain Newid Sefydliadol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Mr Berian Lewis
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Mr Prysor Davies
Dr Megan Hicks
Dr Rosemary Cann

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Testun clytwaith: 4000 Words 100%
Supplementary Assessment Testun clytwaith: 4000 Words 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Archwilio’n feirniadol gyfraniad arweinwyr at newid a gwelliant sefydliadol llwyddiannus.
  2. Gwerthuso dadleuon allweddol ynglŷn â damcaniaethau newid a rheoli newid ar lefel ysgol a system.
  3. Archwilio’r galluoedd arwain sy’n ofynnol i arwain a gweithredu newid yn effeithiol ar lefel ysgol a system.
  4. Gwerthuso’r ffactorau mewnol ac allanol, gan gynnwys gofynion polisi, sy’n effeithio ar newid a gwelliant sefydliadol.
  5. Cymharu’n feirniadol a myfyrio ar wahanol ddulliau o weithredu newid sefydliadol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a’u cymhwyso i gyd-destun y myfyrwyr eu hunain.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar brosesau ac ymarferoldeb arwain newid sefydliadol ar lefel ysgol a system. Bydd yn archwilio dadleuon allweddol ynghylch damcaniaethau newid a rheoli newid mewn cysylltiad â gwelliant sefydliadol. Bydd y modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol gyfraniad arweinwyr yn ystod adegau o newid sefydliadol ac ansicrwydd. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth iddynt am arweinyddiaeth fel y gallant arwain a gweithredu newid yn effeithiol yn eu cyd-destun. Bydd y modiwl yn cymharu gwahanol ddulliau o gyflawni newid sefydliadol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a’r gofynion polisi sy’n dylanwadu ar newidiadau o’r fath.

Aims

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol gyfraniad arweinwyr yn ystod adegau o newid sefydliadol ac ansicrwydd, i sicrhau bod ganddynt y gallu i arwain er mwyn arwain a gweithredu newid yn effeithiol yn eu cyd-destun eu hunain.

Content

* Archwilio prif ddamcaniaethau newid a rheoli newid ar lefel ysgol a system.

* Edrych ar y llenyddiaeth ryngwladol a’r dystiolaeth empirig ynghylch arwain newid sefydliadol a gwella sefydliadol llwyddiannus

* Archwilio’r galluoedd, y rhinweddau a’r arferion arwain sydd eu hangen i arwain a gweithredu newid yn effeithiol ar lefel ysgol a system.

* Gwerthuso’r ffactorau mewnol ac allanol, gan gynnwys gofynion polisi, sy’n effeithio ar unrhyw newid sefydliadol ar wahanol lefelau.

* Dadansoddi’n feirniadol y gwahanol ddulliau o weithredu newid sefydliadol a sut y gellid eu defnyddio yng nghyd-destun y myfyrwyr eu hunain.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Creative Problem Solving Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Critical and analytical thinking Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Professional communication Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Real world sense Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnolDrwy gydol y modiwl, caiff myfyrwyr eu hannog: a. I ddod i gasgliadau ynghylch eu harfer eu hunain er mwyn iddynt fod yn fwy hyderus wrth
Subject Specific Skills Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.

Notes

This module is at CQFW Level 7