Traethawd Hir
- Module Identifier
- ADM3260
- Module Title
- Traethawd Hir
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 3
- Co-ordinator
- Dr Stephen Atherton
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Miss Lisa Fisher
- Dr Sian Lloyd-Williams
- Mr Prysor Davies
- Dr Rhodri Evans
- Dr Megan Hicks
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd hir: 15000 Words | 100% |
| Supplementary Assessment | Traethawd hir: 15000 Words | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Nodi mater neu gwestiwn sy’n addas ar gyfer darn o waith ymchwil/ymholiad ar raddfa fach a llunio cwestiwn/cwestiynau ymchwil addas.
- Cynnal adolygiad beirniadol o’r llenyddiaeth sy’n berthnasol i bwyslais yr ymchwil/ymholiad a ddewiswyd.
- Mynegi dull ymchwilio/ymholi priodol yn ei gynllun astudio.
- Cynllunio ymchwil yn briodol fel ei fod yn cyd-fynd â chanllawiau moesegol BERA (2018).
- Cynllunio, cyflawni a chyflwyno darn o waith ymchwil/ymholiad ar raddfa fach.
- Myfyrio’n feirniadol ar ei brofiad o gynnal prosiect ymchwil/ymholiad.
- Rhannu ei ymchwil mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn ddealladwy i gynulleidfaoedd amrywiol.
Brief description
Cynlluniwyd y modiwl traethawd hir i roi’r sgiliau i’r myfyrwyr ymgymryd â darn o waith ymchwil neu ymholi ar raddfa fach sy’n berthnasol i’w hymarfer addysgol. Bydd y modiwl yn cefnogi myfyrwyr i nodi maes o’u hymarfer sy’n briodol ar gyfer darn o waith ymchwil neu ymholi ar raddfa fach, llunio cwestiynau ymchwil priodol, dewis dulliau casglu data priodol, casglu data a chynnal dadansoddiad beirniadol o’r data. Bydd y modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ysgrifennu eu canfyddiadau a’u cyflwyno mewn fformatau amrywiol. Mae’r modiwl hwn yn ategu’r modiwl Sgiliau Ymchwilio ac Ymholi Uwch sy’n rhagofyniad ar gyfer ymgymryd â’r traethawd hir.
Aims
1. I gynllunio a chynnal gwaith ymchwil/ymholiad ar raddfa fach sy’n berthnasol i’w hymarfer addysgol.
2. I ymgysylltu’n feirniadol ac yn foesegol â phrosesau cynllunio ymchwil a chasglu data.
3. I arfarnu’n feirniadol ddulliau ymchwilio ac ymholi cyfoes yn y gwyddorau cymdeithasol.
4. I ymgymryd â darn o waith ymchwil empirig yn annibynnol.
5. I gyflwyno eu hymchwil mewn gwahanol ffurfiau ac i wahanol gynulleidfaoedd.
6. I fireinio eu sgiliau ymchwilio fel y gallant ymchwilio’n annibynnol ac arwain eraill drwy broses ymholi/ymchwilio.
Content
* Problemeiddio ymarfer a defnyddio tystiolaeth i archwilio maes ymarfer proffesiynol
* Ymgysylltu â llenyddiaeth ryngwladol berthnasol ac ysgrifennu adolygiad o’r llenyddiaeth
* Gofynion a disgwyliadau moesegol ymchwil ac ymholiad addysgol.
* Methodolegau a dulliau ymchwilio a dulliau o gasglu data sy’n berthnasol i ymarfer addysgol.
* Gweithdrefnau casglu data a phrosesau dadansoddi data (dulliau ansoddol a meintiol)
* Symleiddio data, dehongli data a chynrychioli data.
* Cyflwyno a rhannu ymchwil ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl. |
| Creative Problem Solving | Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol. |
| Critical and analytical thinking | Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd. |
| Professional communication | Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol. |
| Real world sense | Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol |
| Subject Specific Skills | Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
