Module Information

Module Identifier
ADM3400
Module Title
Arbenigedd Pwnc/Cyfnod
Academic Year
2024/2025
Co-ordinator
Semester
Semester 1 (Taught over 2 semesters)
Pre-Requisite
Gofynion mynediad TAR
Co-Requisite
AD30730 Ymarfer Proffesiynol
Co-Requisite
AD30830 Dysgu ac Addysgu
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Prosiect ymchwil ymholiad proffesiynol: Cais Ymchwil  Dylai'r prosiect ganolbwyntio ar agwedd ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys cynllunio ac asesu dysgu. Cais ymchwil ac adolygiad llenyddiaeth cyflym 1500 o eiriau  40%
Semester Assessment Cyflwyniad Ymchwil  Prosiect ymchwil ymholiad proffesiynol Dylai'r prosiect ganolbwyntio ar agwedd ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys cynllunio ac asesu dysgu. Rhan 2 Cyflwyno canfyddiadau ymchwil i diwtoriaid a myfyrwyr eraill. 10 Munud  60%
Supplementary Assessment Prosiect Ymchwil Astudiaeth Ddesg  Dylai'r prosiect ganolbwyntio ar agwedd ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys cynllunio ac asesu dysgu. Rhan 1 Cais ymchwil ac adolygiad llenyddiaeth cyflym ar gyfer ymchwil Rhan 2 Gwerthusiad beirniadol o ddulliau priodol a myfyrio ar brofiad. Cyflwynir y ddwy ran gyda'i gilydd 4000 o eiriau  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth gysyniadol uwch o addysgeg pwnc-benodol ac ymchwil ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fewn eu harbenigedd.

Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth uwch o'r Cwricwlwm i Gymru ac ymwybyddiaeth feirniadol uwch o greu cwricwlwm yn y pwnc neu'r cyfnod arbenigol.

Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth uwch o egwyddorion cynllunio effeithiol ac yn dangos sgiliau cynllunio ymreolaethol, gan nodi strategaethau priodol i ddiwallu anghenion pob dysgwr o fewn eu pwnc neu gyfnod arbenigol.

Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth uwch o egwyddorion dilyniant ac asesu i werthuso asesu yn feirniadol a'u defnyddio i nodi cynnydd pob dysgwr o fewn eu pwnc neu gyfnod arbenigol.

Bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth uwch a chynhwysfawr o dechnegau ymholi proffesiynol i ymchwilio i'w harfer eu hunain, a chreu a dehongli gwybodaeth o fewn eu harbenigedd.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddod yn arbenigwyr pwnc a chyfnod cymwys trwy ddyfnhau eich dealltwriaeth o wybodaeth ddisgyblaethol i fodloni'r safonau proffesiynol. Byddwch yn datblygu ymhellach eich cymhwysedd wrth ddylunio'r cwricwlwm ac yn ymgorffori sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsbynciol yn eich ymarfer. Byddwch yn archwilio damcaniaethau caffael iaith i ddatblygu eich addysgu dwyieithog. Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ymchwil a theori sy'n berthnasol i'ch arbenigedd pwnc neu gyfnod a byddwch yn cael cyfle i ddatblygu prosiect ymchwil sydd wedi'i gynllunio i wella ymarfer. Byddwch yn deall natur amrywiol a newidiol poblogaeth yr ysgol yn well ac yn datblygu dull unigolyn-ganolog yn eich ymarfer er mwyn creu ystafelloedd dosbarth cynhwysol. Bydd eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau asesu yn cael eu cydgrynhoi.

Aims

Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddod yn arbenigwyr pwnc a chyfnod cymwys trwy ddyfnhau eich dealltwriaeth o wybodaeth ddisgyblaethol i fodloni'r safonau proffesiynol. Byddwch yn datblygu ymhellach eich cymhwysedd wrth ddylunio'r cwricwlwm ac yn ymgorffori sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsbynciol yn eich ymarfer. Byddwch yn archwilio damcaniaethau caffael iaith i ddatblygu eich addysgu dwyieithog. Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ymchwil a theori sy'n berthnasol i'ch arbenigedd pwnc neu gyfnod a byddwch yn cael cyfle i ddatblygu prosiect ymchwil sydd wedi'i gynllunio i wella ymarfer. Byddwch yn deall natur amrywiol a newidiol poblogaeth yr ysgol yn well ac yn datblygu dull unigolyn-ganolog yn eich ymarfer er mwyn creu ystafelloedd dosbarth cynhwysol. Bydd eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau asesu yn cael eu cydgrynhoi.

Content

1. Dulliau addysgeg sy'n benodol i wybodaeth a sgiliau disgyblaethol: gofynion cwricwlwm sy'n benodol i arbenigedd e.e. dad-drefedigaethu'r cwricwlwm mewn disgyblaethau arbenigol. Cyfnod olynol / Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh).
2. Gofynion cwricwlwm sy'n benodol i arbenigedd; cynllunio dysgu; addysgeg gwrth-hiliol; asesu ar gyfer dysgu sy'n benodol i addysgeg arbenigol. Cyfnod olynol / Mewnbwn MDaPh.
3. Cynllunio ar gyfer pob dysgwr o fewn arbenigedd; meicro-addysgu. Cyfnod olynol / Mewnbwn MDaPh.
4. Themâu allweddol mewn addysgu a dysgu arbenigol: gwybodaeth ddisgyblaethol ar gyfer TGAU mewn pynciau priodol; gwerthuso meicro-addysgu; FfCD – o fewn arbenigedd. Cyfnod olynol / Mewnbwn MDaPh.
5. Myfyrio, gwerthuso ac adolygu o brofiad ysgol 1; gwybodaeth a chynnwys disgyblaethol e.e. TGAU, dysgu annibynnol, darpariaeth uwch. Mewnbwn traws-gyfnod / MDaPh. Cyflwyno sgiliau ymchwil. MDaPH Iechyd a Lles o fewn arbenigedd.
6. Gwybodaeth a chynnwys disgyblaethol ar gyfer AS/Lefel A / darpariaeth uwch (Dysgu Sylfaen); strategaethau sy'n benodol i arbenigedd i gefnogi dysgwyr ag ADY. Mewnbwn traws-gyfnod / MDaPh.
7. Cynllunio prosiect ymchwil. Cynllunio ar gyfer / Cyfarwyddo CD. Mewnbwn traws-gyfnod / MDaPH.
8. Cynhadledd ymchwil ac asesu.
9. Diwrnodau Partneriaeth: Addysgeg ac asesu pwnc-arbenigol; ymchwil pwnc arbenigol; Cynllunio prosiect ymchwil.

Module Skills

Skills Type Skills details
Adaptability and resilience Rhaid i fyfyrwyr addasu i dri lleoliad ysgol.
Co-ordinating with others Mae myfyrwyr yn dysgu gweithio gyda mentoriaid a chydweithwyr.
Creative Problem Solving Bydd myfyrwyr yn cynllunio gwersi ac adnoddau yn greadigol ar gyfer pob dysgwr yn eu gofal.
Critical and analytical thinking Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu'n feirniadol ag ymchwil addysgol sy'n gysylltiedig â'u harbenigedd ac yn cymryd rhan mewn ymchwil i'w hymarfer eu hunain.
Digital capability Bydd myfyrwyr yn cynnwys y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn eu haddysgu.
Professional communication Bydd myfyrwyr yn cyfathrebu â chydweithwyr, rhieni a gofalwyr.
Real world sense Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â thri lleoliad mewn ysgolion.
Reflection Bydd myfyrwyr yn dod yn ymarferwyr myfyriol.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn datblygu eu hymarfer yn eu pwnc neu eu cyfnod arbenigol.

Notes

This module is at CQFW Level 7