Ymateb i effeithiau tlodi ac anfantais mewn addysg
- Module Identifier
- ADM3820
- Module Title
- Ymateb i effeithiau tlodi ac anfantais mewn addysg
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester S
- Co-ordinator
- Dr Megan Hicks
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Panna Lloyd-Karlinger
- Dr Lucy Trotter
- Mr Prysor Davies
- Dr Megan Hicks
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad: Adroddiad yn canolbwyntio ar dlodi ac anfantais o fewn cyd-destun eu pwnc/Meysydd Dysgu a Phrofiad (AOLE)/Ysgol 4000 o eiriau | 100% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad: Adroddiad yn canolbwyntio ar dlodi ac anfantais o fewn cyd-destun eu pwnc/Meysydd Dysgu a Phrofiad (AOLE)/Ysgol 4000 o eiriau | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o dlodi ac anfantais ar ddysgwyr
- Gwerthuso'n feirniadol ymarfer a mesuriadau dysgu a datblygu gyda dysgwyr sy'n cael eu heffeithio gan dlodi ac anfantais
- Archwilio'n feirniadol y dull systemau cyfan a sut mae hyn yn effeithio ar ymarfer.
- Archwilio'n feirniadol sut i gynllunio, gweithredu a gwerthuso newid yn ymarferol a fydd o fudd i ddysgwyr sy'n cael eu heffeithio gan dlodi ac anfantais mewn lleoliadau addysgol.
Brief description
Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o dlodi ac anfantais, a sut mae'r rhain yn effeithio ar ddysgu a datblygu.
Mae'r modiwl hwn yn fodiwl dewisol a fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod rhan tri o gyfnod dysgu'r radd. Mae'r modiwl yn ddewisol ar gyfer yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru). Y gynulleidfa darged ar gyfer y modiwl hwn fydd addysgwyr sy'n gweithio mewn sectorau a lleoliadau gwahanol.
Aims
1. Galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth feirniadol o dlodi ac anfantais a’u heffaith ar addysg
2. Gwerthuso'n feirniadol damcaniaethau, llenyddiaeth, ymarfer a mesuriadau
3. Gwerthuso'n feirniadol gyd-destunau penodol mewn perthynas â thlodi ac anfantais.
Content
Mae dros draean o blant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru yn byw mewn tlodi heddiw. Mae tlodi ac anfantais yn effeithio ar fywydau disgyblion, myfyrwyr, teuluoedd, staff a chymunedau. Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o dlodi ac anfantais, a sut mae'r rhain yn effeithio ar ddysgu a datblygu. Mae'n effeithio ar newidiadau radical mewn newidiadau parhaus i bolisi addysgol yng Nghymru. Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio'n feirniadol ar eu profiadau eu hunain a sut maent yn canfod tlodi ac anfantais yn bersonol. Gofynnir i fyfyrwyr fyfyrio'n feirniadol ar y ffyrdd y mae eu lleoliadau addysgol yn mesur dysgu a datblygu ac a yw hyn yn cefnogi'r materion parhaus sy'n gysylltiedig â thlodi ac anfantais. Yn olaf, mae'r modiwl hwn yn cefnogi myfyrwyr i fod yn greadigol wrth gefnogi dysgwyr yn y lleoliad addysgol o'u dewis a'r rhwystrau y gallant eu hwynebu ar hyd y ffordd, gan eu galluogi i feddwl am ffyrdd newydd o weithio yng Nghymru.
Bydd y modiwl hwn yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
· Diffiniadau o dlodi ac anfantais mewn cyd-destunau addysgol, gan ganolbwyntio ar ddysgwyr, teuluoedd, a chymunedau
· Ymagweddau damcaniaethol at ymchwilio a deall effeithiau tlodi ar brofiadau a chanlyniadau addysgol, gan gynnwys ystyried croestoriadedd.
· Polisïau yng Nghymru ac ymateb i faterion tlodi ac anfantais i ddysgwyr
· Pwy sy'n 'ddigon tlawd' ym myd addysg? Cymhwysedd
· Demograffeg newidiol – mudo, rhyfel,
· Mesur dysgu a datblygu – 'targedau' 'bwlch cyrhaeddiad' 'presenoldeb' 'dilyniant'?
· Safbwyntiau athrawon ynghylch anfantais: Myfyrdod beirniadol
· Rôl yr addysgwr – oes llinell rhwng addysgu ac ymateb i dlodi ac anfantais?
· Datblygu galluoedd dysgu – Heb Maslow does dim Dewey.
· Ymagweddau System Gyfan – sut i gynllunio ar gyfer newid cadarnhaol
Bydd gan y modiwl hefyd siaradwyr gwadd sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol sydd wedi gweithredu newidiadau.
Darlithoedd
Cyfanswm oriau: 16
Math o Gyswllt:Wedi'i amserlennu
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn darlithoedd a gweithdai ar-lein i archwilio'r cysyniadau allweddol yn y modiwl hwn.
Seminarau
Cyfanswm oriau: 6
Math o Gyswllt:Wedi'i amserlennu
Bydd seminarau ar-lein yn annog myfyrwyr i fagu hyder a dyfnhau eu dealltwriaeth o'r cysyniadau sy'n cael eu haddysgu mewn grwpiau llai. Bydd dulliau o gyflwyno seminarau yn cynnwys 'dulliau dysgu gwrthdro' lle mae myfyrwyr yn cwestiynu materion allweddol cyn archwilio ymhellach gyda'u cyfoedion, a gefnogir gan diwtoriaid cwrs, yn ogystal â dulliau dysgu ar sail problemau a dulliau dysgu ar sail heriau.
Tasgau hunangyfeiriedig ac amser astudio unigol
Cyfanswm oriau: 178
Math o Gyswllt:Annibynnol
Rhwng sesiynau wedi'u hamserlennu, bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd i ddarllen yn ehangach, ymgymryd â thasgau annibynnol i brofi syniadau a magu hyder yn eu hymarfer proffesiynol eu hunain.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Co-ordinating with others | Cymhwyso eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau trosglwyddadwy i ymgysylltu â phobl eraill, eu cefnogi a dylanwadu arnynt pan fo hynny'n briodol. |
| Critical and analytical thinking | Cyrraedd casgliadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy’n ymwneud â materion cymhleth ym maes addysg yn gyffredinol, ac yn eu maes ymarfer proffesiynol yn benodol. |
| Professional communication | Datblygu arddulliau ysgrifennu clir a phriodol yn y Gymraeg neu Saesneg, sy'n hygyrch i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. |
| Reflection | Cymhwyso gwaith ymgysylltu â damcaniaeth a thystiolaeth i ddatblygu safbwyntiau personol a phroffesiynol newydd o'u hymarfer proffesiynol eu hunain.Gwerthuso eu hanghenion dysgu eu hunain er mwyn gosod ac adolygu eu hamcanion dysgu proffesiynol eu hunain |
| Subject Specific Skills | Cymhwyso dulliau systematig o werthuso eu harferion eu hunain yn feirniadol mewn perthynas â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu ac Addysgu (2017). |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
