Module Information

Cod y Modiwl
BBM6220
Teitl y Modiwl
Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adolygiad Gritigol  (2000 o eiriau). Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl.  30%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ar opsiynau  dylunio gnwd/system ar gyfer system AAR (2500 o eiriau). Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl.  40%
Asesiad Ailsefyll Stori Ddigidol  (3 munud). Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl.  10%
Asesiad Ailsefyll Fforymau Arlein  (1200 o eiriau). Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl.  20%
Asesiad Semester Fforymau Arlein  (1200 o eiriau)  20%
Asesiad Semester Adolygiad Gritigol  (2000 o eiriau)  30%
Asesiad Semester Adroddiad ar opsiynau  dylunio gnwd/system ar gyfer system AAR (2500 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Stori Ddigidol  (3 munud)  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​1. Esbonio heriau'r presenol a'r dyfodol o gynhyrchu bwyd y gall technolegau AAR helpu i'w datrys.

2. Disgrifio cyfyngiadau cyfredol technoleg AAR o ran cynhyrchu bwyd.

3. Cymharu manteision ac anfanteision technolegau AAR ar gyfer gwahanol gnydau a lleoliadau.

4. Trafod bioleg planhigion sy'n berthnasol i AAR.

5. Asesu materion bioddiogelwch mewn gwahanol systemau AAR.

6. Nodi cyfleoedd ar gyfer cydleoli AAR gyda diwydiant ar gyfer defnyddio adnoddau ac effeithlonrwydd ynni.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd myfyrwyr yn dysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn AAR ynghyd â datblygu dealltwriaeth o fioleg planhigion a ffisioleg sydd ei angen ar gwmnïau amaeth-dechnoleg i ddatblygu AR addas. Bydd yn ymdrin â buddion a chyfyngiadau ystod o amgylcheddau a reolir a'u potensial i wella diogelwch bwyd, gan dynnu sylw at ymchwil berthnasol a chynnwys astudiaethau achos sy'n berthnasol i'r sectorau amaeth-dechnoleg.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

Rhesymau AAR a buddion posibl;

Enghreifftiau o dechnolegau AAR a rhestr termau;

Systemau AAR cyfredol a'u potensial yn y dyfodol;

Bioleg Planhigion wedi'i gymhwyso i AAR (e.e. gwyddoniaeth rhyngweithio rhwng planhigion a golau, defnyddio maetholion, straen ac ati);

Bioleg foleciwlaidd (Prosesau biocemegol - moleciwlaidd a cellog);

Ffisioleg (Swyddogaethau biolegol);

Rheoli straen amgylcheddol mewn planhigion a'r goblygiadau ar gyfer maeth dynol;

Prosesau/arferion garddwriaethol/agronomeg a gymhwysir i systemau AAR;

Bioddiogelwch (plâu, pathogenau, afiechydon a rheolyddion) mewn systemau AAR;

Systemau arallgyfeirio ffermydd, tyfu trefol a hybrid;

Cydleoli gyda diwydiant ar gyfer defnyddio adnoddau ac effeithlonrwydd ynni, e.e. gwres, maetholion;

Datrysiadau economi gylchol ar gyfer systemau cynhyrchu AAR

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr allu mynegi eu hunain yn briodol yn eu haseiniadau a thrafod pynciau perthnasol â'i gilydd yn y fforymau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn yn darparu'r ymchwil ddiweddaraf i'r myfyrwyr i amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir a thechnolegau cysylltiedig i'w helpu i ddarparu'r wybodaeth/cyngor diweddaraf i'w cydweithwyr / cleientiaid yn y diwydiannau amaeth-dechnoleg; cânt eu hasesu ar sail eu dealltwriaeth o'r wybodaeth hon ond ni fyddant yn cael eu hasesu'n benodol ar ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa.
Datrys Problemau Defnyddir postiadau fforwm ar-lein i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy’n cyflwyno problemau damcaniaethol i’r myfyrwyr eu datrys. Bydd yr astudiaeth achos hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gynnig ffyrdd i newid a gwella ffrydiau gwastraff presennol.
Gwaith Tim Bydd fforymau ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr drafod ymysg ei gilydd i ddatblygu consensws barn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Rhoddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad i fyfyrwyr weld lle y gellid gwneud gwelliannau cyn aseiniadau dilynol. Bydd asesiad ffurfiannol ysgrifenedig yn rhoi cyfle di-risg cynnar i gael adborth a bydd 3 fforwm wedi'u hasesu yn olynol a fydd yn cael eu marcio a bydd adborth yn cael ei ddarparu mewn pryd i gynorthwyo perfformiad yn y fforwm nesaf. Bydd CADd ffurfiannol yn galluogi myfyrwyr i weld lle mae angen iddynt ganolbwyntio eu hastudiaeth hunangyfeiriedig.
Rhifedd Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau a chronfeydd data yn eu haseiniadau a bydd disgwyl iddynt egluro neu ddangos tystiolaeth i gefnogi honiadau o enillion ariannol, lleihau gwastraff, ac ati yn yr astudiaeth achos.
Sgiliau pwnc penodol Mathau, buddion a heriau AAR. Gwerthuso'r gwahanol ddulliau.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â hunan-astudio dan gyfarwyddyd, felly byddant yn datblygu eu sgiliau ymchwil llenyddiaeth. Bydd adborth o aseiniadau yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o gronfeydd data cyhoeddi gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd ar y modiwl

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7