Module Information

Cod y Modiwl
BBM6320
Teitl y Modiwl
Asesiad Cylch Bywyd a Thu Hwnt
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Gall myfyriwr ail-afael ag elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant modiwl.   100%
Asesiad Semester Fforwm Ar-lein  (1,200 o eiriau)  20%
Asesiad Semester Traethawd  (2,000 o eiriau)  30%
Asesiad Semester Stori Ddigidol  (10 munud)  10%
Asesiad Semester Astudiaeth Achos  (2,500 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​1. Esbonio heriau'r presennol ac y dyfodol i'w datrys trwy fethodoleg ACB a CVORR

2. Disgrifio'r rhesymeg y tu ôl i brif ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr a beichiau amgylcheddol eraill sy'n deillio o weithgynhyrchu, a gwaredu cynnyrch bio-seiliedig

3. Disgrifio'r rhesymeg dros berfformio asesiad cylch bywyd, dangos wybodaeth o'r prif offer sydd ar gael i gynnal ACB

4. Dangos dealltwriaeth feirniadol o gymhwysiad a rôl ACB wrth wella cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd cynnyrch bioseiliedig

5. Esbonio heriau'r presennol ac y dyfodol sy'n wynebu methodolegau ACB

6. Dangos dealltwriaeth feirniadol o gymhwysiad a rôl CVORR wrth sicrhau bod effeithiau amgylcheddol ac economaidd cynnyrch yn cael eu meintioli

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyfres o fodiwlau BioArloesedd Cymru. Mae Asesiad Cylch Bywyd (ACB) yn ddull a ddefnyddir yn helaeth i fesur a dilysu'r effeithiau amgylcheddol a chefnogi honiadau sy'n gysylltiedig â datblygu cynnyrch. Mae canlyniadau'r methodolegau hyn mor werthfawr fel bod ACB yn ofyniad hanfodol ar gyfer masnacheiddio cynnyrch ar gyfer rhai cynhyrchion bio-seiliedig, fel bioplastigion. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau'n gysylltiedig ag ACB, fel gwrthrychedd o ran sut y dehonglir pwysigrwydd cymharol gwahanol fathau o effaith amgylcheddol (e.e. defnydd ynni isel yn erbyn mwy o lygredd dŵr), a'r mater nad yw rhai effeithiau y tu allan i ffiniau'r ACB cyfredol o bosibl yn cael ei werthuso, er enghraifft y ffaith nad yw ACB yn cyfrif am werth adfer adnoddau ar ôl ei waredu, (e.e. potensial gwerthfawr casglu gwastraff plastig o'r amgylchedd naturiol). O'r herwydd, efallai na fydd ACB yn adlewyrchu gwir gylch bywyd cynnyrch. Gyda hyn mewn golwg, gellir ategu ACB â methodoleg sy'n cyfrif am y gwerth cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a thechnegol sy'n gysylltiedig ag adfer cynnyrch o wastraff. Yr enw ar y fethodoleg hon yw Optimeiddio Gwerth Cymhleth ar gyfer Adfer Adnoddau (CVORR). Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth graidd o ACB a CVORR ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud ag asesu cymwysterau cynaliadwy cynnyrch bioseiliedig neu'r rhai sy'n gweithio gyda gwastraff.

Cynnwys

• Cyflwyniad i ehangder a chwmpas ACB a CVORR

• Cydrannau allweddol y cylch carbon byd-eang a fflwcs nwy tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â datblygu cynnyrch

• Pwysigrwydd dewis deunydd crai, proses drawsnewid, trafnidiaeth a defnydd ynni, ac opsiynau gwaredu diwedd oes, gyda ffocws ar fflwcsau CH4 a N2O yn ogystal â CO2 ynghyd â metrigau economaidd, cymdeithasol a thechnegol

• Bydd yr ystod o brotocolau rhyngwladol ar gyfer perfformio ACBa'r her o bennu ffactorau allyriadau priodol hefyd yn cael eu hadolygu

• Sut y gall ACB lywio polisi

• Datganiadau cynnyrch amgylcheddol

• Theori a fframwaith CVORR

• Asesu gwasanaethau ecosystem allweddol eraill gan gynnwys rheoleiddio llygryddion dŵr ac aer. Rhoddir sylw arbennig i'r dulliau o asesu effeithiau newid defnydd tir a sut y gallai hyn bennu hawliadau polisi a labelu fel Ecolabel yr UE.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr gyfleu allbynnau ymchwil cymhleth i'w cyfoedion yn y fforymau ar-lein, aseiniadau ysgrifenedig a'r stori ddigidol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn yn rhoi 'r myfyrwyr yr ymchwil ddiweddaraf â achrediad cynaliadwy o fio-gynnyrch neu broses i'w helpu i ddatblygu eu busnes neu ddarparu'r wybodaeth/cyngor diweddaraf i'w cydweithwyr/cleientiaid yn y diwydiant bwyd ac amaeth.
Datrys Problemau Defnyddir heriau dysgu ar sail problemau ochr yn ochr â postiadau fforwm ar-lein trwy gydol y modiwl i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr
Gwaith Tim Bydd asesiadau ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddadlau ymysg ei gilydd i ddatblygu consensws barn
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Rhoddir adborth manwl ar gyfer pob aseiniad. Caiff ei asesu drwy’r adborth a fydd yn darparu arweiniad cyffredinol tuag at asesiad nesaf y myfyriwr
Rhifedd Caiff rhifyddeg ei arddangos yn yr asesiad astudiaeth achos, drwy ddefnyddio setiau data cyhoeddedig i gymharhu hyfywedd economaidd o broses
Sgiliau pwnc penodol Caiff fysyniadau pwnc-benodol sy’n ymwneud â ACB a CVORR eu datblygu a’u asesu drwy gydol y modiwl
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â hunan-astudio dan gyfarwyddyd, felly byddant yn datblygu eu sgiliau ymchwil llenyddiaeth
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o gronfeydd data cyhoeddiadau gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd ar y modiwl. Mae creu eu stori ddigidol a ffeithlun yn gofyn am ddefnyddio technoleg

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7