Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt

Module Identifier
BG15700
Module Title
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Professor Gareth Griffith
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Ymarfer dadansoddi data gyda chymorth llyfr nodiadau: 1.5 Hours 1.5 Awr 40%
Semester Assessment Adroddiad labordy: 1500 o eiriau 60%
Supplementary Assessment Adroddiad labordy: 1500 o eiriau 60%
Supplementary Assessment Ymarfer dadansoddi data gyda chymorth llyfr nodiadau: 1.5 Hours 1.5 Awr 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau grŵp llafar.
  2. Datblygu dadl resymol a herio rhagdybiaethau.
  3. Llunio rhagdybiaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a gwneud dadleuon academaidd.
  4. Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.
  5. Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).
  6. Dehongli a defnyddio data.
  7. Dangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.
  8. Cymhwyso dulliau gwyddonol i fynd i'r afael â phroblemau ymarferol, gwir fywyd.

Brief description

Nod y modiwl hwn yw datblygu eich gallu i ymchwilio gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol drwy gyflwyniadau ysgrifenedig a llafar wrth gadw at arddull dyfynnu cywir gydag arfer academaidd dda. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau ymarferol a hyder i gasglu a dadansoddi data gwyddonol. Byddwch yn datblygu'r sgiliau hyn trwy ymchwiliad ymarferol mewn i sawl problem wyddonol fforensig gyda dadansoddiad manwl o ddata gwyddonol.

Content

Bydd Semester 1 yn dechrau gydag wythnos gyntaf ddwys lle bydd nifer o sesiynau labordy yn ystod y cyfnod hwnnw. Yma bydd myfyrwyr yn echdynnu ac yn dilyniannu DNA i asesu codau bar DNA. Bydd y deunydd yma gyda ffocws ar broblemau trosedd bywyd gwyllt neu fforensig entomoleg. Yng ngweddill semester 1, bydd myfyrwyr yn cyfarfod â'u tiwtor dynodedig bob yn ail wythnos i gynnal ymarferion i'w helpu i ddeall cyd-destun y gwaith labordy a'r broses casglu data. Bydd myfyrwyr hefyd yn paratoi a chyflwyno eu hasesiad prifysgol gyntaf ar ffurf traethawd wedi'i osod/marcio gan diwtor (1000-1500 o eiriau) i ymgyfarwyddo â therfynau amser a chyflwyniad asesiad a'u galluogi i dderbyn adborth cynnar.

Bydd semester 2 hefyd yn dechrau gydaG wythnos ddwys o sesiynau labordy a bydd myfyrwyr yn cwblhau llyfr nodiadau o'u canfyddiadau. Bydd yr ymarferion labordy yma yn cael eu tynnu o feysydd megis entomoleg fforensig ac ecotocsicoleg. Yng ngweddill semester 2, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 10 sesiwn cyfrifiadur a drefnwyd yn wythnosol lle byddant yn dysgu sut i blotio ffigyrau a dadansoddi a gwerthuso data yn feirniadol gyda staff wrth law i helpu a darparu adborth ffurfiannol. Bydd data, dadansoddiadau a nodiadau yn cael eu coladu mewn llyfr nodiadau labordy caiff ei asesu, a bydd y llyfr nodiadau yma yn darparu canllawiau Arfer Labordy Da ar gyfer astudio pellach.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Mae trin data yn thema allweddol yn y modiwl hwn.
Co-ordinating with others Bydd myfyrwyr yn cydweithio gyda help tiwtoriaid i greu cyflwyniad grŵp fel rhan o ymarfer adroddiad y labordy.
Creative Problem Solving Bydd y myfyrwyr yn casglu ac yn dadansoddi data gwyddonol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau gwyddonol.
Digital capability Bydd myfyrwyr yn meithrin cymhwysedd a hyder gyda thrin data safonol ac offer graffio gan gynnwys R.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o dechnegau labordy ymarferol.

Notes

This module is at CQFW Level 4