Sgiliau ar gyfer Biowyddonwyr Anifeiliaid, Ceffylau a Milfeddygol mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Ceffy

Module Identifier
BG17200
Module Title
Sgiliau ar gyfer Biowyddonwyr Anifeiliaid, Ceffylau a Milfeddygol mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Ceffy
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Manod Williams
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyflwyniad: 5 Munud 30%
Semester Assessment Adroddiad Prosiect: 2000 o eiriau 70%
Supplementary Assessment Cyflwyniad: 5 Munud 30%
Supplementary Assessment Adroddiad Prosiect: 2000 o eiriau 70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Disgrifio ffisioleg ymarfer corff a hyfforddiant
  2. Ymchwilio i ddewis a hyfforddi'r athletwr geffyl
  3. Cydnabod sut y gall yr athletwr geffyl gystadlu'n ddiogel dan amodau gwahanol
  4. Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig
  5. Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau
  6. Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd
  7. Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol
  8. Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol)
  9. Dehongli a defnyddio data
  10. Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol

Brief description

Yn y modiwl hwn, bydd nifer o diwtorialau grwpiau bach i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau allweddol mewn ysgrifennu academaidd, meddwl beirniadol, trin data a chyfathrebu gan ddefnyddio ffisioleg ymarfer corff ceffylau fel arbenigedd. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddisgrifio effeithiau ymarfer a hyfforddiant trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, gweithdai ac e-ddysgu. Bydd hefyd yn ymchwilio i ddyluniad cyfundrefnau ffitrwydd priodol gan roi sylw dyledus i'r ymatebion addasol sydd eu hangen ar gyfer gwahanol weithgareddau ac yn cyflwyno'r clefydau a/neu anafiadau sy'n cyfyngu ar berfformiad.

Aims

Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i arfer academaidd da a gwella eu sgiliau academaidd. Trwy diwtorialau personol, darlithoedd ffurfiol, e-ddysgu, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai, bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn ochr yn ochr ag effeithiau ymarfer corff a hyfforddiant ar ffisioleg ceffylau.

Content

Bydd y modiwl yn ymdrin â sgiliau allweddol mewn ymarfer academaidd megis meddwl beirniadol, ysgrifennu academaidd a chyflwyniad llafar yn ogystal â gwaith tîm gan ddefnyddio detholiad o geffylau, egwyddorion hyfforddi ac effeithiau ymarfer corff, hyfforddiant a blinder ar systemau corff penodol yn ogystal ag achosion perfformiad gwael fel arbenigedd.
Bydd tiwtorialau grwpiau bach yn parhau ar draws y ddau semester yn ogystal â darlithoedd ffurfiol ac adnoddau e-ddysgu. Gellir cynnwys amrywiaeth o ymarferion ymarferol, er enghraifft, pennu ffitrwydd gwahanol geffylau gan ddefnyddio cyfraddau calon, a/neu ddyrannu organau dethol i werthuso anatomeg a ffisioleg o safbwynt ymarfer corff.

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Bydd ymgorffori elfen o waith grŵp yn ystod dosbarthiadau ymarferol yn datblygu gallu myfyrwyr i weithio fel tîm ac yn ystod cyflwyniadau llafar.
Creative Problem Solving Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod gwaith prosiect i ddatrys problemau
Digital capability Bydd y gwaith cwrs yn cael ei airbrosesu ac yn ymarferol bydd myfyrwyr yn casglu data cyfradd curiad y galon ceffylau a bydd angen ei ddadansoddi gan ddefnyddio MS Excel. Bydd myfyrwyr yn cael ymarfer trin setiau data a dysgu cyflwyniad data sylfaenol yn R.
Professional communication Bydd sgiliau ysgrifennu yn cael eu datblygu a'u hasesu trwy'r aseiniad ysgrifennu traethodau a rhoddir adborth yn ystod sesiynau tiwtorial. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu harddull ysgrifennu ac yn dyrannu papurau ymchwil perthnasol o'r llenyddiaeth wyddonol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gydlynu gweithgareddau gydag eraill a chyflwyno data.
Subject Specific Skills Y gallu i werthuso perfformiad posibl ceffyl penodol

Notes

This module is at CQFW Level 4