Ecoleg a Chadwraeth

Module Identifier
BG19320
Module Title
Ecoleg a Chadwraeth
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
No staff with Userid: NA
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Ruth Wonfor
Dr Dylan Gwynn Jones
Dr Ifat Shah

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Aseiniad trip maes: 1000 o eiriau 50%
Semester Exam Arhoiliad Aml Dewis: 1.5 Hours 1.5 Awr 50%
Supplementary Assessment Aseiniad trip maes: 1000 o eiriau 50%
Supplementary Exam Arhoiliad Aml Dewis: 1.5 Hours 1.5 Awr 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos dealltwriaeth o sut mae ecosystemau yn gweithio a swyddogaethau eu darnau
  2. Deall ecoleg ddamcaniaethol sy’n berthnasol i gadwraeth
  3. Deall ac adnabod y galw am gadwraeth o rywogaethau a chynefinoedd
  4. Deall y ddamcaniaeth esblygiadol sy'n berthnasol i gadwraeth lwyddiannus.
  5. Datblygu deallusrwydd o sgiliau arolygu yn y maes sy’n berthnasol i gadwraeth

Brief description

Mae'r modiwl yn gyflwyniad eang a chyfoes i bwnc ecoleg. Edrychwn ar sut mae systemau'n gweithio ond hefyd sut mae rhywogaethau wedi esblygu i fodoli o fewn y systemau hyn. Bydd y modiwl yn cynnwys elfennau sylfaenol ac amserol ac yn ystyried heriau'r dyfodol, megis ymateb i newid hinsawdd fyd-eang a gwarchod bioamrywiaeth. Rydym am amlygu sut mae cadwraeth wedi datblygu o fod yn gyfres o ymyriadau ad hoc o natur "ymladd tân" fel arfer, i fod wedi selio ar wyddoniaeth gyflawn sy'n ymgorffori agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar ecoleg a bioleg esblygiadol. Mae'r modiwl arfaethedig yn rhoi sylfaen i fyfyrwyr yn y cysyniadau hyn, gyda phwyslais cyson ar eu cymhwysiad ymarferol.

Aims

I ddeallt ecosystemau a'i cadwraeth

Content

Yr ecosystem yw'r uned astudio sylfaenol mewn ecoleg ac mae'n bwysig archwilio llawer o berthnasoedd pwysig rhwng organebau, planhigion ac anifeiliaid, â'u hamgylchedd anfiotig ar y lefel hon. I ddechrau, bydd dadansoddiad o ecosystem syml, y twndra Arctig, i ddangos sut mae’r amryw o gydrannau yn gweithio a rhyngweithio o fewn ecosystem. Caiff hyn ei wneud o fewn cyd-destun yr hierarchaeth ecolegol, sy'n ystyried trefniadaeth ecolegol o'r lefel unigol hyd at y biosffer.
Bydd amrywiaeth o ffactorau anfiotig yn cael eu hadolygu a'u hystyried mewn perthynas â ffactorau biotig gan gynnwys: llysysyddion, cigysyddion a chystadleuaeth. Mae ysglyfaethu yn un ffactor sy'n cyfyngu ar niferoedd y boblogaeth ac yn atal twf esbonyddol, tra yn yr un modd, mae cystadleuaeth am adnoddau yn cael effaith yr un mor bwysig. Yn ogystal, mae astudiaeth o'r defnydd o adnoddau gan rywogaethau yn ein helpu i ddeall eu safle o fewn systemau ecolegol, a ddiffinnir yn gyffredinol fel y gilfach. O fewn ei ddosbarthiad, fodd bynnag, bydd rhywogaeth yn aml yn dangos addasiad i sefyllfaoedd penodol; bydd enghreifftiau o amrywiad o'r fath yn cael eu trafod.
Trafodir yr heriau sy’n wynebu ecosystemau, bioamrywiaeth a chynefinoedd, newid hinsawdd a’r galw am gadwraeth. Byddwn hefyd yn trafod pwysigrwydd gwarchod bioamrywiaeth ar ystod o raddfeydd, yn benodol trafodir amrywiaeth genetig ar lefelau biomau ac ecosystemau, theori esblygiadol a dulliau ymarferol o warchod rhywogaethau.

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others gweithio gyda eraill yn y maes
Creative Problem Solving Adrodd o'r maes
Digital capability Defnyddio TGCH ar gyfer ymchwilio
Real world sense Gwaith maes yn ran hanfodol o'r modiwl
Reflection Gwella'ch dysgu a'ch perfformiad eich hun drwy dderbyn adborth o asesiadau a ddefnyddiwyd i raddnodi sgiliau dysgu
Subject Specific Skills Cyfathrebu Mae angen cyfathrebu gwyddonol da i gofnodi canfyddiadau'r ymweliad maes

Notes

This module is at CQFW Level 4