Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion

Module Identifier
BG19920
Module Title
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Professor Gareth Griffith
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
BR19020 or BR19920
Other Staff
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Prawf Prac Microbioleg: 45 Munud 25%
Semester Exam Arholiad Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion: 2 Hours 2 Awr 75%
Supplementary Assessment Asesiad gwaith prac microbioleg: 1500 o eiriau 25%
Supplementary Exam Arholiad Ychwanegol Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion: 2 Hours 2 Awr 75%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Defnydd o wybodaeth a gedwir i ddisgrifio amrywiaeth ffurfiau bywyd microbau a phlanhigion
  2. Egluro sut mae microbau a phlanhigion yn rhyngweithio ag organeddau eraill, gan gynnwys dyn, fel pathogenau a chydymddibynwyr.
  3. Gwerthuso pwysigrwydd micro-organeddau a phlanhigion yng nghylchoedd bioddeargemegol ac amaethyddiaeth/biotechnoleg
  4. Arddangos sgiliau ymarferol wrth drafod micro-organeddau.

Brief description

Cynlluniwyd y modiwl er mwyn cyflwyno amrywiaeth bywyd microbau a phlanhigion, eu pwysigrwydd mewn gweithrediadau ecosystemau, eu perthnasau symbiotig a hefyd eu pwysigrwydd i ddynolryw (cnydau, pathogenau ayb.Fe fydd y modiwl yn dysgu sgiliau ac yn cyfleu gwybodaeth a fydd yn hanfodol bwysig ar gyfer gyrfaoedd mewn microbioleg, botaneg, ac ymgynghoriad/rheolaeth ecolegol

Aims

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r amrywiaeth o ficrobau a phlanhigion sydd yn bodoli., eu rôl ganolog yng ngweithrediad y blaned, ei pherthnasau symbiotig amrywiol a hefyd eu pwysigrwydd i ddynolryw. Fe fydd y modiwl yn dysgu sgiliau ac yn cyfleu gwybodaeth a fydd yn hanfodol bwysig ar gyfer gyrfaon mewn microbioleg, botaneg, ac ymgynghoriad/rheolaeth ecolegol

Content

Bydd y cwrs darlithoedd yn dechrau gyda chyflwyniad i dri Parth bywyd ac esblygiad microbau a phlanhigion. Fe fydd agweddau cymhwysol, gyda pherthynas uniongyrchol i ddynolryw yn cael eu trin, ee cnydau mewn amaeth, pwysigrwydd microbau i clefydau anifeiliaid/planhigion, defnydd biodechnolegol o ficrobau (e.e. gwrthfiotigau). Disgrifir fydd y prif grwpiau o fewn Bacteria, Viridiplantae a Ffwng (hefyd firysau) ynghyd a'u nodweddion morffolegol, ffisiolegol ac ecolegol. Trafodir hefyd eu prif gydberthnasau symbiotig, e.e. peilliad gan bryfaid, ymlediad hadau/sborau, microbiom y coluddyn a mycorhisa. Mi fydd dosbarthiadau ymarferol yn enghreifftio ac yn cadarnhau agweddau ar y cwrs darlithoedd. Bydd myfyrwyr yn defnyddio microsgopeg golau i archwilio ystod o ficrobau a phlanhigion trwy arbrofion syml.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Casglu ac archwilio data ar gyfer ansawdd a maint. Dehongli data.
Communication Sgiliau gwrando ar gyfer y darlithoedd a thrafodaeth ddilynol yn y dosbarthiadau ymarferol. Cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol mewn arholiadau.
Improving own Learning and Performance Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol. Bydd yr elfennau astudio cyfeiriedig yn gyfle i fyfyrwyr archwilio eu harddulliau dysgu a'u hoff ddulliau eu hunain ac adnabod anghenion a rhwystrau i ddysgu. Bydd myfyrwyr yn medru adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol.
Information Technology Defnyddio'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau.
Personal Development and Career planning Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau biolegol ac asesu’n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig.
Problem solving Trwy'r darlithoedd, mi ddaw myfyrwyr yn ymwybodol o broblemau amgylcheddol a meddygol penodol a achosir gan ficrobau a'r atebion a ddatblygwyd er mwyn goresgyn y rhain. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i gael profiad o gynllunio, gweithredu, dehongli data a chynnig sylwadau ar arbrofion microbioleg a asesir.
Research skills Bydd myfyrwyr yn ymchwilio pynciau y tu hwnt i gynnwys a chwmpas y darlithoedd gan ddefnyddio astudio cyfeiriedig ac annibynnol. Ystyrir a rhoi sylwadau ar wybodaeth o amryw ffynonellau. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi datblygiad sgiliau ymchwil biolegol allweddol (gan gynnwys trafod sbesimenau microbiolegol) yn gynnar yn eu gyrfaoedd academaidd.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso pwysigrwydd micro-organeddau mewn cylchoedd biogeocemegol a biotechnoleg ac egluro sut mae micro-organeddau yn rhyngweithio ag organeddau eraill. Bydd myfyrwyr yn gallu disgrifio amrywiaeth ffurfiau bywyd mewn micro-organeddau eucaryotig a procaryotig. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau allweddol wrth drafod sbesimenau microbiolegol.
Team work Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ymarferol. Bydd angen iddynt drafod eu cynllunio arbrofol a gweithio'n ymarferol fel tîm bychan mewn dosbarthiadau ymarferol.

Notes

This module is at CQFW Level 4