Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg

Module Identifier
BG24720
Module Title
Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Arwyn Edwards
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)

Exclusive (Any Acad Year)

Other Staff
Professor Darrell Abernethy
Dr Ruth Wonfor
Professor Hazel Davey
Dr Ifat Shah
Dr Arwyn Edwards
Professor Gareth Griffith

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyflwyno gwybodaeth ar bwnc llosg: yn ymwneud â microbau sy’n berthnasol i bolisi cyhoeddus (fesul grwp) 1000 o eiriau 25%
Semester Assessment Adroddiad ar ymchwiliad microbiolegol: 3000 o eiriau 75%
Supplementary Assessment Cyflwyno gwybodaeth ar bwnc llosg: 1000 o eiriau 25%
Supplementary Assessment Adroddiad atodol: 3000 o eiriau 75%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Gweithio'n ddiogel ac effeithiol mewn labordy microbioleg.
  2. Defnyddio amrywiaeth o ddulliau annibynnol a dulliau sy'n dibynnu ar dyfiant ar gyfer disgrifio microbau.
  3. Adrodd canlyniadau ymchwiliadau i ficrobau a chymunedau microbau gan ddefnyddio ystod o ddulliau ysgrifennu gwyddonol a ddefnyddir gan ficrobiolegwyr proffesiynol.
  4. Cyfathrebu perthnasedd gwyddoniaeth microbau i bolisiau cyfredol a hanfodion cymdeithasol.

Brief description

Nod y modiwl yw arfogi’r myfyrwyr â’r sgiliau sylfaenol sy’n ddisgwyliedig oddi wrth berson graddedig sy’n gweithio mewn maes cysylltiedig â microbioleg. Yn gyntaf, bydd y myfyrwyr yn cael eu trwytho mewn sesiynau labordy a gynlluniwyd i gyflwyno’r myfyriwr i ystod eang o ddulliau annibynnol, a dulliau sy’n seiliedig ar dyfiant, o ddisgrifio microbau. Yn ail, bydd y myfyrwyr yn dehongli data o ddadansoddi meintiol a biowybodaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau ysgrifennu gwyddonol. Yn drydydd, bydd y myfyrwyr yn datblygu eu safbwyntiau ar y rhyngwyneb rhwng microbioleg a chymdeithas a pholisi, gan archwilio pynciau llosg ym maes gwyddor microbau i gyfleu casgliadau ymchwil i gynulleidfaoedd an-arbenigol.

Content

Bydd sesiynau seminar yn cyflwyno pynciau llosg dethol ym maes gwyddor microbau gan edrych ar eu goblygiadau i feysydd polisi a gwyddoniaeth. Bydd y rhain yn ddeinamig eu natur ac yn ymateb i ddigwyddiadau cyfoes.
Yn ystod sesiynau ymarferol, cyflwynir amrywiaeth eang o ddulliau microbiolegol a ddefnyddir yn y maes ac yn y labordy, gan gynnwys samplu amgylcheddol, techneg aseptig a gwaith diogel gyda microbau, tyfiannau, technegau microsgopig a biocemegol ar gyfer adnabod microbau, arbrofion i ddarlunio ffisioleg microbau, ac yn olaf y technegau molecylaidd diweddaraf ar gyfer dadansoddi cymunedau microbau.

Bydd y sesiynau gweithdy yn cyflwyno dulliau ar gyfer dadansoddi microbau a chymunedau microbau yn feintiol a thrwy fiowybodeg (e.e. dadansoddi genynnau RNA ribosomol 16S). Bydd y data hyn a DNA y gymuned microbau a ddadansoddir yn y sesiynau ymarferol yn ymwneud a diddordebau ymchwil cyfredol y staff, ac yn deillio ohonynt.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Bydd gwaith ymarferol yn cynnwys cyfrif a dadansoddi ystadegol gan ddefnyddio'r data a gasglwyd.
Communication Llunio adroddiadau gwyddonol mewn gwahanol ffurfiau ysgrifenedig a thargedu gwahanol gynulleidfaoedd. Sgiliau gwrando a thrafod ar gyfer y seminarau. Cyfathrebu’n effeithiol yn bersonol ac yn electronig i lunio'r adroddiad cryno ar y cyd.
Improving own Learning and Performance Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol.
Information Technology Defnyddio'r we i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau a dadansoddi cyfresi DNA.
Personal Development and Career planning Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau microbiolegol ac asesu'n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig mewn gwahanol gyd-destunau: labordy, maes a chyfathrebu gwyddoniaeth microbau er lles y cyhoedd. Ar ben hyn, bydd y myfyrwyr yn dod i werthfawrogi pwysigrwydd gwyddoniaeth microbau mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol.
Problem solving Bydd y dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad wrth gynllunio, gweithredu a dehongli data o arbrofion, ac yn arbennig wrth adnabod microbau o ystod o brofion. Yn y seminarau bydd gofyn i’r myfyrwyr werthuso problemau cymhleth a llunio crynodebau effeithiol o’r pynciau dan sylw.
Research skills Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y deunyddiau a ddarperir ac yn gwerthuso data a thestunau o'r cronfeydd data cyhoeddus sydd ar gael ar gyfer holl elfennau'r modiwl.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn cael profiad o weithio'n ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer cymhwyso ystod o sgiliau labordy microbiolegol traddodiadol a molecylaidd i ddadansoddi microbau. Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth o ymrwymiadau proffesiynol a chymdeithasol gwyddonwyr microbau cyfoes.
Team work Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ac yn cydweithredu wrth ysgrifennu'r briff. Bydd angen iddynt weithio'n effeithiol fel rhan o dîm er mwyn llunio'r gwaith cwrs hwn.

Notes

This module is at CQFW Level 5