Traethawd Estynedig

Module Identifier
BG36440
Module Title
Traethawd Estynedig
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Arwyn Edwards
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
BG27520 or BR27520
Other Staff
Dr Ruth Wonfor
Professor Hazel Davey
Dr Ifat Shah
Dr Arwyn Edwards

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment CV Sgiliau Cyflogadwyedd ac asesiad sgiliau.: CV Sgiliau Cyflogadwyedd ac asesiad sgiliau. 1. Mae C.V. gan gynnwys rhestr o sgiliau pwnc-benodol a enillwyd 2. Tystiolaeth o sgiliau generig y gall cyflogwyr ofyn amdanynt, gan dynnu ar enghreifftiau o waith a wnaed drwy gydol y radd ac yn ystod y prosiect ymchwil 3. Delweddau o'r pasbort sgiliau a gafwyd yn ystod y cynnwys a addysgir. 1000 o Eiriau 10%
Semester Assessment Cyflwyniad llafar: 10 Munud 10%
Semester Assessment Traethawd hir: 8000 o eiriau 80%
Supplementary Assessment Cyflwyniad llafar: 10 Munud 10%
Supplementary Assessment CV Sgiliau Cyflogadwyedd ac asesiad sgiliau.: CV Sgiliau Cyflogadwyedd ac asesiad sgiliau. 1. Mae C.V. gan gynnwys rhestr o sgiliau pwnc-benodol a enillwyd 2. Tystiolaeth o sgiliau generig y gall cyflogwyr ofyn amdanynt, gan dynnu ar enghreifftiau o waith a wnaed drwy gydol y radd ac yn ystod y prosiect ymchwil 3. Delweddau o'r pasbort sgiliau a gafwyd yn ystod y cynnwys a addysgir. 1000 o Eiriau 10%
Supplementary Assessment Traethawd hir: 8000 o eiriau 80%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
  2. 2. Dynodi a defnyddio technegau priodol ar gyfer cynllunio astudiaethau a dadansoddi data.
  3. 3. Llunio casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.
  4. 4. Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil a llunio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
  5. 5. Defnyddio sgiliau ysgrifennu a TG priodol i gyflwyno’r cyd-destun, y data, y canlyniadau a’r casgliadau mewn traethawd ymchwil.
  6. 6. Dynodi a chyflwyno themau allweddol y traethawd hir ar ffurf cyflwyniad llafar.
  7. 7. Dangos, a myfyrio ynghylch, proses a chynnydd eu hymchwil.

Brief description

Mae modiwl y traethawd estynedig yn brofiad uchafbwyntiol ar y lefel raddedig sy’n meithrin sgiliau a gwybodaeth y myfyrwyr. Bydd y modiwl yn gyfle i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil manwl ar bwnc sy’n berthnasol i’w gradd neu eu diddordebau. Bydd llawer o’r prosiectau’n seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes; gallai eraill gynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol yn seiliedig ar ffynonellau data eilaidd. Bydd eraill yn cynnwys dadansoddi data o destunau cyhoeddedig. Bydd yr holl brosiectau, beth bynnag eu ffurf, yn golygu bod rhaid i fyfyrwyr weithio’n annibynnol dan arweiniad goruchwyliwr, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, ymgymryd â gwaith ymchwil a dadansoddi data, datblygu casgliadau ac argymhellion addas, a chyflwyno’r cyfan ar ffurf traethawd estynedig.

Content

Bydd yna amrywiaeth eang ym mhwyslais y traethodau estynedig. Mae'r holl brosiectau'n ddarostyngedig i'r un rheoliadau a rhaid iddynt geisio cyflawni'r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gynnal cyswllt rheolaidd gyda'u goruchwyliwr (o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semestrau) i drafod cynnydd eu gwaith.

Bydd darlith gyflwyniadol yn y semester cyntaf yn cynnig arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio ar gyfer y Traethawd. Yn yr ail semester, cynhelir cymorthfeydd galw heibio wythnosol dewisol i gynnig cyngor ar agweddau penodol o baratoi'r Traethawd Estynedig.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Bydd y modiwl hwn yn gofyn bod myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth fathemategol gyffredinol ynghyd a'i defnyddio mewn cyd-destunau ymarferol (e.e. mesur, pwyso a chymhwyso fformiwlau) yn ol natur y prosiect. Bydd myfyrwyr hefyd yn caffael neu ddehongli gwybodaeth fathemategol ac ystadegol.
Communication Bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â’r prosiect yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod y cyfarfodydd goruchwylio, a asesir ym mhob aseiniad. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio'r elfennau ysgrifenedig. Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu datblygu wrth greu’r seminar ymchwil.
Improving own Learning and Performance Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn dyfeisio cynlluniau gweithredu personol i gynnwys amcanion tymor byr a thymor hir, ynghyd ag adolygu a monitro cynnydd, a diwygio cynlluniau gweithredu fel bo'n briodol i wella perfformiad cyffredinol, a asesir drwy’r Dyddlyfr.
Information Technology Bydd gofyn am ddefnyddio TG wrth chwilio am destunau cyhoeddedig, dadansoddi data, cyflwyno data a pharatoi’r elfennau ysgrifenedig a llafar. Asesir y defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn y traethawd hir a’r cyflwyniad llafar.
Personal Development and Career planning Bydd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy wrth werthuso a chymhwyso casgliadau ymchwil newydd.
Problem solving Mae'r sgil hwn yn elfen allweddol o'r modiwl, a chaiff myfyrwyr eu hannog i ddadansoddi data cynradd a/neu eilaidd yn feirniadol, dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl a defnyddio meddwl creadigol i ddatblygu datrysiadau priodol.
Research skills Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil sy'n gofyn bod myfyrwyr yn deall ac yn gwerthuso amrywiaeth o ddulliau a gweithdrefnau ymchwil, cynllunio ac ymgymryd ag ymchwil a llunio adroddiad academaidd (traethawd estynedig).
Subject Specific Skills Bydd unrhyw sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir yn dibynnu ar natur y prosiect ymchwil e.e. hyfforddiant mewn dilyniannu a dadansoddi DNA, cynllunio holiadur, arsylwi ymddygiad ac ati.
Team work Nid yw'n elfen benodol o'r modiwl hwn er y bydd gofyn i rai myfyrwyr weithio gydag aelodau eraill o grŵp labordy neu grŵp ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr traethawd hir eraill.

Notes

This module is at CQFW Level 6