Module Information
Course Delivery
Assessment
| Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd 1 (2,500 gair) Adolygiad o lenyddiaeth | 50% |
| Semester Assessment | Traethawd 2 (2,500 gair) Dulliau Ymchwil | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd 1 (2,000 gair) Adolygiad o lenyddiaeth | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd 2 (2,000 gair) Dulliau Ymchwil | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dangos dealltwriaeth o natur a phwysigrwydd ymchwil mewn cyd-destun busnes a rheolaeth neu farchnata.
2. Dangos dealltwriaeth o wahanol ddulliau ymchwil, a’r gwahaniaethu rhyngddynt, gan gloriannu’n feirniadol oblygiadau moesegol pob un.
3. Canfod, dadansoddi a chloriannu testunau sy’n berthnasol i bwnc ymchwil penodol.
4. Dangos dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o gasglu data cynradd ac eilaidd, gan nodi a chloriannu cyfyngiadau a manteision y gwahanol ddulliau.
5. Dangos dealltwriaeth o ffyrdd o ddadansoddi a chloriannu data gan ddefnyddio dulliau a thechnegau amrywiol.
6. Cyfleu casgliadau prosiect ymchwil yn briodol.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn trafod sgiliau ymchwil ac mae’n gyfle i astudio dulliau ymchwil yn ymwneud â busnes mewn dyfnder. Mae’r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd ymagwedd wrthrychol tuag at ymchwil. Mae’r modiwl hefyd yn cyflwyno ymarfer ymchwil, gan gynnwys moeseg a methodoleg, gan ddefnyddio dulliau ymchwil ansoddol yn ogystal â meintiol.
Content
Ffurfio Cwestiynau Ymchwil
Dulliau Ymchwil ar gyfer adolygu testunau cyfredol
Dylunio Ymchwil Ansoddol
Dylunio Ymchwil Meintiol
Dulliau Cymysg ar gyfer Dylunio Ymchwil
Casglu a Dadansoddi Data Ansoddol
Casglu a Dadansoddi Data Meintiol
Goblygiadau Rheolaethol, Cyfyngiadau Ymchwil ac Ystyriaethau Moesegol
Module Skills
| Skills Type | Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Cyfleoedd i ddefnyddio technegau meintiol sy’n briodol i’r pwnc a ddewiswyd |
| Communication | Darllen ac ysgrifennu mewn gwahanol gyd-destunau ar gyfer cynulleidfaoedd a dibenion gwahanol. |
| Improving own Learning and Performance | Sgiliau trefnu ac ymchwil; datblygu eu harddull dysgu eu hunain, eu hoffterau a’u hanghenion, a sut i ddysgu’n annibynnol. |
| Information Technology | Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol priodol; defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ddadansoddi data ac wrth baratoi a chyflwyno adroddiad |
| Personal Development and Career planning | Hunan-reoli, blaengaredd, annibyniaeth a hunan-ymwybyddiaeth. |
| Problem solving | Nodi problemau a ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl; datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem. |
| Research skills | Canfod, dethol a chymhathu gwybodaeth o ffynonellau a |
| Subject Specific Skills | Cymhwyso sgiliau ansoddol a/neu meintiol i sefyllfaoedd rheoli penodol a’r amgylchedd busnes presennol. |
| Team work | Bydd y seminarau/darlithoedd yn cynnwys ymarferion grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
