Dulliau Ymchwil

Module Identifier
CB25320
Module Title
Dulliau Ymchwil
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Jonathan Fry
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
AB15220
Other Staff
Dr Sophie Bennett-Gillison
Dr Jonathan Fry

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd 1: (2,500 gair) Adolygiad o lenyddiaeth 50%
Semester Assessment Traethawd 2: (2,500 gair) Dulliau Ymchwil 50%
Supplementary Assessment Traethawd 1: (2,000 gair) Adolygiad o lenyddiaeth 50%
Supplementary Assessment Traethawd 2: (2,000 gair) Dulliau Ymchwil 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Dangos dealltwriaeth o natur a phwysigrwydd ymchwil mewn cyd-destun busnes a rheolaeth neu farchnata.
  2. 2. Dangos dealltwriaeth o wahanol ddulliau ymchwil, a’r gwahaniaethu rhyngddynt, gan gloriannu’n feirniadol oblygiadau moesegol pob un.
  3. 3. Canfod, dadansoddi a chloriannu testunau sy’n berthnasol i bwnc ymchwil penodol.
  4. 4. Dangos dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o gasglu data cynradd ac eilaidd, gan nodi a chloriannu cyfyngiadau a manteision y gwahanol ddulliau.
  5. 5. Dangos dealltwriaeth o ffyrdd o ddadansoddi a chloriannu data gan ddefnyddio dulliau a thechnegau amrywiol.
  6. 6. Cyfleu casgliadau prosiect ymchwil yn briodol.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn trafod sgiliau ymchwil ac mae’n gyfle i astudio dulliau ymchwil yn ymwneud â busnes mewn dyfnder. Mae’r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd ymagwedd wrthrychol tuag at ymchwil. Mae’r modiwl hefyd yn cyflwyno ymarfer ymchwil, gan gynnwys moeseg a methodoleg, gan ddefnyddio dulliau ymchwil ansoddol yn ogystal â meintiol.

Content

 Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil
 Ffurfio Cwestiynau Ymchwil
 Dulliau Ymchwil ar gyfer adolygu testunau cyfredol
 Dylunio Ymchwil Ansoddol
 Dylunio Ymchwil Meintiol
 Dulliau Cymysg ar gyfer Dylunio Ymchwil
 Casglu a Dadansoddi Data Ansoddol
 Casglu a Dadansoddi Data Meintiol
 Goblygiadau Rheolaethol, Cyfyngiadau Ymchwil ac Ystyriaethau Moesegol

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Cyfleoedd i ddefnyddio technegau meintiol sy’n briodol i’r pwnc a ddewiswyd
Communication Darllen ac ysgrifennu mewn gwahanol gyd-destunau ar gyfer cynulleidfaoedd a dibenion gwahanol.
Improving own Learning and Performance Sgiliau trefnu ac ymchwil; datblygu eu harddull dysgu eu hunain, eu hoffterau a’u hanghenion, a sut i ddysgu’n annibynnol.
Information Technology Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol priodol; defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ddadansoddi data ac wrth baratoi a chyflwyno adroddiad
Personal Development and Career planning Hunan-reoli, blaengaredd, annibyniaeth a hunan-ymwybyddiaeth.
Problem solving Nodi problemau a ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl; datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem.
Research skills Canfod, dethol a chymhathu gwybodaeth o ffynonellau a
Subject Specific Skills Cymhwyso sgiliau ansoddol a/neu meintiol i sefyllfaoedd rheoli penodol a’r amgylchedd busnes presennol.
Team work Bydd y seminarau/darlithoedd yn cynnwys ymarferion grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 5